Arnau de Vilanova
Ffisegwr a diwygiwr crefyddol o Gatalonia oedd Arnau de Vilanova (Sbaeneg: Arnaldus de Villa Nova hefyd Arnaldus Villanovanus c. 1240–1311). Credwyd (yn anghywir) ar un cyfnod ei fod hefyd yn seryddwr ac yn alcemegydd.
Arnau de Vilanova | |
---|---|
Ganwyd | c. 1240, 1258 Grau, Villanueva de Jiloca |
Bu farw | 1311, 1313 Genova |
Dinasyddiaeth | Coron Aragón |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, athronydd, meddyg, diplomydd, alchemydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Regimen sanitatis ad regem Aragonum |
Fe'i ganed yn Villanueva de Jiloca (neu o bosibl yn ninas Valencia), Aragon. Astudiodd meddygaeth a diwynyddiaeth. Preswyliodd yn y Llys Brenhinol (neu 'Goron Aragon') gan ddysgu myfyrwyr am rai blynyddoedd yn Ysgol Meddygol Montpellier cyn teithio i Baris. Bu farw yn 1311 ar ei ffordd i Avignon i gyfarfod y Pab Clement V ger arfordir Genova.[1]
Cyfieithodd weithiau meddygol o'r Arabeg, gan gynnwys gwaith gan Ibn Sina (Avicenna), Abu-l-Salt, a Galen.[2] Mae hefyd yn awdur gweithiau sylweddol e.e. Speculum medicinae a Regimen sanitatis ad regem Aragonum, ond ni ddylid ystyried Breviarium Practicae iddo, bellach. Ysgrifennodd hefyd yn Lladin ac mewn Catalaneg am ddiwygio Cristnogaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Fernando Salmón (2010). Robert E. Bjork (gol.). The Oxford Dictionary of the Middle Ages. Oxford, England: Oxford University Press. t. 135. ISBN 978-0-19-866262-4.
- ↑ D. Campbell, Arabian Medicine and Its Influence on the Middle Ages, tud. 5.