Arsyllfa Griffith

Mae Arsyllfa Griffith yn arsyllfa yn Los Angeles, California, ar lethr sy'n wynebu'r de o Mount Hollywood ym Mharc Griffith. O'r copa gellir gweld Basn Los Angeles gan gynnwys Downtown Los Angeles i'r de-ddwyrain, Hollywood i'r de, a'r Cefnfor Tawel i'r de-orllewin. Mae'r arsyllfa yn atyniad poblogaidd i dwristiaid ac o fewn tafliad carreg at yr Arwydd Hollywood nodedig ac amrywiaeth helaeth o lawntiau ac arddangosfeydd sy'n ymwneud â gwyddoniaeth. Enwir yr arsyllfa ar ôl y Cymro a dalodd am godi'r adeilad hwn, sef Griffith J. Griffith. Rhodd ganddo i'r ddinas oedd Parc Griffith hefyd. Mae mynediad am ddim ers agor yr arsyllfa yn 1935, yn unol ag ewyllys Griffith.

Arsyllfa Griffith
Math o gyfrwngarsyllfa seryddol, sefydliad Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu14 Mai 1945 Edit this on Wikidata
Yn cynnwystelesgop Zeiss Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthLos Angeles Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.griffithobservatory.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ers ei agor, mae dros 9 miliwn o bobl wedi edrych trwy delesgop 12-modfedd (30.5 cm) plygiant Zeiss, sy'n golygu mai hwn yw'r telesgop yr edrychir arno fwyaf yn y byd.[1] Mae thema'r gofod yn parhau y tu mewn i'r adeilad.[2]

Ar 16 Rhagfyr 1896 rhoddodd y Cymro Griffith J. Griffith 3,015 erw (12.2 km2) o dir (parc) o amgylch yr arsyllfa yn rhodd i Ddinas Los Angeles.[3] Yn ei ewyllys rhoddodd arian i adeiladu arsyllfa, neuadd arddangos, a phlanetariwm ar dir y parc. Amcan Griffith oedd gwneud seryddiaeth yn hygyrch i'r cyhoedd, yn hytrach na'r syniad cyffredinol y dylid lleoli arsyllfeydd ar bennau mynyddoedd anghysbell a'u cyfyngu i wyddonwyr.

Drafftiodd Griffith fanylebau manwl ar gyfer yr arsyllfa ac ymgynghorodd â Walter Sydney Adams, a ddaeth yn ddiweddarach yn gyfarwyddwr Arsyllfa Mount Wilson, a George Ellery Hale, a sefydlodd (gydag Andrew Carnegie) y telesgop astroffisegol cyntaf yn Los Angeles.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 20 Mehefin 1933, gan ddefnyddio cynllun a ddatblygwyd gan y penseiri John C. Austin a Frederic Morse Ashley (1870–1960), yn seiliedig ar frasluniau rhagarweiniol gan Russell W. Porter.[4] Agorwyd yr arsyllfa a'r arddangosfeydd cysylltiedig i'r cyhoedd ar 14 Mai 1935, fel trydydd planetariwm y yr Unol Daleithiau. Yn ystod ei phum diwrnod cyntaf o weithredu, cofnododd yr arsyllfa fwy na 13,000 o ymwelwyr. Dinsmore Alter oedd cyfarwyddwr yr amgueddfa yn ystod ei blynyddoedd cyntaf.

Mae'r adeilad yn cyfuno dylanwadau Groegaidd a Beaux-Arts (ffasiwn ddiweddaraf Paris) ac mae'r tu allan wedi'i addurno â phatrymauGroegaidd.[5]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd y planetariwm i hyfforddi peilotiaid mewn mordwyo dwry ddefnyddio'r sêr. Defnyddiwyd y planetariwm eto at y diben hwn yn y 1960au i hyfforddi gofodwyr rhaglen Apollo ar gyfer y teithiau lleuad cyntaf.

Sefydliad Arsyllfa Griffith

golygu

Cafodd Sefydliad Arsyllfa Griffith ei siartio ym 1978 fel 'Cyfeillion yr Arsyllfa'. Fe'i sefydlwyd gan Debra Griffith a Harold Griffith (ŵyr y noddwr) gyda Dr. EC Krupp (Cyfarwyddwr presennol yr Arsyllfa) a grŵp bach o bartneriaid ymroddedig. Mae'r sefydliad hwn yn cefnogi'r syniad o hybu seryddiaeth gyhoeddus ac yn argymell adfer ac ehangu'r arsyllfa.

Adnewyddu ac ehangu

golygu

Caeodd yr arsyllfa ar 6 Ionawr 2002, ar gyfer adnewyddu ac ehangiad mawr o ofod arddangos newydd. Ailagorodd i'r cyhoedd ar 2 Tachwedd 2006, gan gadw ei du allan yn driw i'r arddull Art Deco. Talwyd am y gwaith hwn drwy fond cyhoeddus o $93 miliwn. Ehangwyd yr adeilad o dan y ddaear, gydag arddangosfeydd cwbl newydd,[6] caffi, siop anrhegion, a theatr digwyddiadau, sef Theatr Leonard Nimoy.[7]

Ar 25 Mai 2008, dangosodd yr Arsyllfa ddarllediad byw o laniad Phoenix ar y blaned Mawrth i ymwelwyr.[8]

Arddangosfeydd

golygu

Yr arddangosfa cyntaf ym 1935 oedd pendil Foucault, a gynlluniwyd i ddangos cylchdro'r Ddaear. Roedd yr arddangosfeydd eraill yn cynnwys telesgop plygiant Zeiss 12 modfedd (305mm) yn y gromen ddwyreiniol, coelostat trawst triphlyg (telesgop solar) yn y gromen orllewinol, a model tri deg wyth troedfedd o ranbarth pegynol gogleddol y lleuad.

Gofynnodd Griffith i'r arsyllfa gynnwys arddangosfa ar esblygiad a gyflawnwyd gyda'r arddangosfa Cosmochron a oedd yn cynnwys adroddiad gan yr Athro Caltech Chester Stock a sioe sleidiau i gyd-fynd ag ef. Roedd yr arddangosyn esblygiad yn bodoli o 1937 i ganol y 1960au.

 
Ffotograff o Blanetariwm Arsyllfa Griffith tua 1937–1939

Hefyd wedi'i gynnwys yn y dyluniad gwreiddiol roedd planeteriwm o dan y gromen ganolog fawr. Roedd y sioeau cyntaf yn ymdrin â phynciau gan gynnwys y Lleuad, bydoedd Cysawd yr Haul, a diffygion ar y Lloer a'r Haul.

Adnewyddwyd theatr y planetariwm ym 1964 a gosodwyd taflunydd Mark IV Zeiss .

 
Model yn dangos y gofodau arddangos tanddaearol a ychwanegwyd yn ystod adnewyddiadau 2002-2006

Coil Tesla

golygu
 
Coil Tesla yn yr Arsyllfa

Yn cael ei arddangos yn yr Arsyllfa mae coil Tesla mawr, a enwyd ar ôl ei ddyfeisiwr, Nikola Tesla. Wedi'i alw'n "GPO-1", mae'n un o bâr a adeiladwyd ym 1910 gan Earle Ovington.[9] Roedd Ovington, a fyddai'n dod yn enwog fel awyrennwr, yn rhedeg cwmni a adeiladodd generaduron foltedd-uchel ar gyfer dyfeisiau pelydr-X meddygol ac electrotherapi. Daeth tyrfaoedd enfawr i weld yr arddangosfeydd cyhoeddus o'r generaduron hyn. Dyluniodd Ovington coil yr Arsyllfa i ragori ar goil a wnaed gan Elihu Thomson ym 1893 a gynhyrchodd wreichionen 64-modfedd. (Roedd Tesla wedi cynhyrchu gwreichion llawer mwy ym 1899.)

Gosodwyd y peiriant, a alwyd yn Oscillator Miliwn Folt, yn y balconi band sy'n edrych dros yr arena. Ar ben pob awr roedd y goleuadau yn y brif neuadd yn cael eu diffodd, a byddai gwreichion yn saethu o'r bêl gopr ar ben y coil i goil cyfatebol 122 modfedd i ffwrdd, neu i hudlath a oedd yn cael ei ddal gan gynorthwyydd. Amcangyfrifodd prif beiriannydd y General Electric Company fod y gollyngiadau o leiaf 1.3 miliwn folt.

 
Cofeb Seryddwyr, a leolir o flaen drws gogleddol yr Arsyllfa

Mewn diwylliant poblogaidd

golygu

Cafodd yr arsyllfa sylw mewn dau ddilyniant mawr o'r ffilm James Dean Rebel Without a Cause (1955), a helpodd i'w gwneud yn arwyddlun rhyngwladol o Los Angeles. Wedi hynny gosodwyd penddelw o Dean ar ochr orllewinol y gerddi. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau eraill, gan gynnwys:

Teledu

golygu

Mae'r Arsyllfa wedi ymddangos mewn penodau o'r sioeau teledu canlynol:

  • 24 (2002; cyfres)
  • 90210
  • Adele One Night Only (2021 CBS)
  • Adventures of Superman
  • Alias ("The Coup")
  • Agent Carter cyfres 2: "A View in the Dark"; 2016
  • The Amazing Race (cyfres 22)
  • Angel[12]
  • Angie Tribeca (Cyfres 4; Rhaglen 9 "Irrational Treasures")
  • Archer (cyfres 8 rhalen "Archer Dreamland: Sleepers Wake")
  • Beverly Hills, 90210 ("Rebel with a Cause")
  • BoJack Horseman (yn "The Telescope", "Later", "That's Too Much, Man!”, "A Horse Walks into Rehab", ac yn agoriad cyfres 6)
  • Buffy the Vampire Slayer (rhaglen "Shadow")
  • Brothers & Sisters (2006 TV series)|Brothers and Sisters ("The Road Ahead")
  • Cannon (TV Series)|Cannon Cyfres 4, rhaglen 22: "Vengeance" Mawrth 1975
  • CHiPs
  • Criminal Minds ("Nanny Dearest")
  • Dancing with the Stars (American TV series)|Dancing with the Stars (agoriad Cyfres 23)
  • Danny Phantom
  • Dragnet (series)|Dragnet ("The LSD Story" aka "Blueboy")
  • Episodes; cyfres
  • Fallout (American TV series)|Fallout cyfres 1, rhaglen 8 "The Beginning"
  • Goliath (TV series)|Goliath tymor 2, rhaglen 8
  • Helluva Boss Tymor 2, rhaglen 2 "Seeing Stars"
  • Honey West ("The Abominable Snowman")
  • Hunter (1984 U.S. TV series)|Hunter, Rhan 3 City Under Siege
  • In the Heat of the Night (TV series)|In the Heat of the Night ("Just a Country Boy")
  • Jonas (TV series)|Jonas (Date Expectations)
  • Keeping up with the Kardashians
  • The Late Late Show with Craig Ferguson
  • Logan's Run (TV series)|Logan's Run (rhaglen 10 "Futurepast" Ionawr 1978)
  • Lucifer (TV series)|Lucifer (diwedd cyfres 3 "Once Upon a Time")
  • MacGyver (1985 TV series)|MacGyver (
  • Macross Frontier
  • The Man from U.N.C.L.E. ("The Double Affair", achwedd 1964)
  • Melrose Place ("Till Death Do Us Part")
  • Millionaire Matchmaker
  • Mission: Impossible (1966 TV series)|Mission: Impossible (cyfres; 1966)
  • The Monkees (TV series)|The Monkees
  • Moonlight (American TV series)|Moonlight
  • 2010 MTV Video Music Awards. Linkin Park
  • The Muppets Mayhem episode "Drift Away"[13]
  • Wonder Woman (TV series)#The New Adventures of Wonder Woman|The New Adventures of Wonder Woman (Tymor 3 rhaglen "Time Bomb"; 1979)
  • Perry Mason (2020 TV series)|Perry Mason (Tymor 2, Rhaglen 4, 2023)[14]
  • Quantum Leap (1989 TV series)|Quantum Leap
  • Remington Steele
  • The Rookie (TV series)|The Rookie (Tymor 4, Rhaglen 6: Poetic Justice)
  • Rocky Jones, Space Ranger
  • She-Hulk: Attorney at Law
  • The Simpsons
  • Star Trek: Voyager
  • Top Chef[15]
  • The Wonder Years

Cyfryngau eraill

golygu
  • Mae'r gân "Observatory Crest" o albwm Capten Beefheart a The Magic Band, Bluejeans & Moonbeams (1974) yn sôn am ddau gariad yn treulio noson ramantus yn Arsyllfa Griffith. Roedd y prif leisydd Don Van Vliet yn byw gerllaw ac yn ymweld a'r lle yn aml yn ei ieuenctid.
  • Roedd yn lleoliad ffilmio ar gyfer y fideo gerddorol "Rush Rush" (1991) gan Paula Abdul a oedd yn serennu Keanu Reeves ac a gyfarwyddwyd gan Stefan Würnitzer. Seiliwyd y fideo hwn ar Rebel Without a Cause.
  • Dangosir delwedd o'r arsyllfa mewn fideo cerddoriaeth 2Pac, "To Live & Die in LA". Mae'r fideo'n talu teyrnged i Los Angeles a'i lefydd mwyaf adnabyddus.
  • Cynhaliwyd rhanau o gyfweliadau gyda'r cerddor Ringo Starr ar gyfer fideo y Beatles Anthology ar dir yr arsyllfa yn ystod canol y 1990au. Dangosir Starr a Neil Aspinall yn gwylio Los Angeles o'r Arsyllfa.
  • Ar 12 Medi 2010, perfformiodd Linkin Park set gryno ar gyfer mil o gefnogwyr ar y safle. Dangoswyd "The Catalyst" o'r perfformiad hwn yn ddiweddarach gan MTV ar gyfer Gwobrau Cerddoriaeth Fideo y noson honno.
  • Tynnwyd y lluniau ar glawr albwm The Byrds (1970) ar risiau Arsyllfa Griffith.
  • Yn y comic Runaways, mae'r Runaways yn brwydro yn erbyn Geoffrey Wilder yn Arsyllfa Griffith, sy'n cael ei ddinistrio yn yr ymladd.
  • Mae'r cartwnydd Bill Griffith yn adnabyddus am ei sylwebaeth cartŵn ddychanol ar ddiwylliant a gwerthoedd America. Tynnodd a rhyddhaodd gasgliad fformat cylchgrawn un ergyd o driniaethau "un-pager" o ddarnau rhyfedd o fywyd diwylliannol America, o'r enw "Arsyllfa Griffith". Mae'n agor gyda darn lle mae'n cael y cyfle i rentu Arsyllfa Griffith ei hun fel lle byw. Mae'r asiant sy'n dangos yr eiddo yn sôn am y telesgop fel rhywbeth ychwanegol, ac mae Bill yn sylweddoli y byddai'n hwb aruthrol i'w ddifyrrwch anthropolegol amatur.
  • Mae gêm fideo 2013 Grand Theft Auto V yn cynnwys Arsyllfa Galileo, yn seiliedig ar Arsyllfa Griffith.
  • Yn 2019, roedd llun o'r arsyllfa yn un o lawer o sgriniau sblash ar gyfer Windows 10 .
  • Yng ngêm fideo 2023 Horizon Forbidden West: Burning Shores, prynwyd yr arsyllfa gan y biliwnydd a’r antagonist Walter Londra ar ôl brwydr llys hir, fel pencadlys i’w gwmni.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Griffith Observatory - The Zeiss Telescope". griffithobservatory.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-17. Cyrchwyd 2019-10-27.
  2. "Топ визначних історичних будівель Лос-Анджелеса: архітектура, яка вражає - la-future.com". 22 January 2023. Cyrchwyd 11 March 2023.
  3. MOSHAK, ANNA (January 2023). "LOS ANGELES' TOP NOTABLE HISTORIC BUILDINGS: ARCHITECTURE THAT IMPRESSES".
  4. MOSHAK, ANNA (January 2023). "LOS ANGELES' TOP NOTABLE HISTORIC BUILDINGS: ARCHITECTURE THAT IMPRESSES".
  5. "Griffith Observatory - Renovation Continued". griffithobservatory.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 December 2015. Cyrchwyd 9 June 2021.
  6. "Griffith Observatory Building Features-Gunther Depths of Space". Lacity.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-17. Cyrchwyd 2009-02-05.
  7. "Griffith Observatory - Building Features: The Leonard Nimoy Event Horizon". Lacity.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-01. Cyrchwyd 2009-02-05.
  8. "Calendar of Events". Griffith Observatory. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-13. Cyrchwyd 2009-02-05.
  9. Campbell, Robert D. Reminiscences of a Birdman Error in Webarchive template: URl gwag. Living History Press, LLC, 2012.
  10. "Cowboys And Robots: the Birth of the Science Fiction Western" by Jeffrey Richardson Archifwyd 2014-02-23 yn y Peiriant Wayback. Crossed Genres (1935-02-23). Retrieved on 2013-08-25.
  11. Dei Farrant, Agnus (10 August 2016). "Adam Sandler shoots Netflix movie in Griffith Park". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 April 2017.
  12. "TV Locations - part 7". Gary Wayne. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-03-29. Cyrchwyd 2007-08-04.
  13. Deadline "The Muppets Mayhem Crew Involved In Accident During Filming Of Disney+ Series" gan Nellie Andreeva, 2 Gorff. 2022
  14. Boyle, Kelli (24 Ebrill 2023). "'Perry Mason' EP Explains Perry's Sad Ending in Season 2 Finale". TV Insider. Cyrchwyd April 25, 2023.
  15. Barney, Chuck (March 13, 2020). "TV highlights for the week of March 15–21". Detroit Free Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 14, 2020. Cyrchwyd March 17, 2020.

Dolenni allanol

golygu