Castell Degannwy

castell rhestredig Gradd II* yng Nghonwy

Castell canoloesol yw Castell Degannwy a godwyd ar safle bryngaer gynharach wrth aber Conwy yn y Creuddyn, gogledd Cymru. Cyfeirir at y safle fel Caer Ddegannwy mewn ffynonellau Cymreig canoloesol. Mae'n safle o bwys hanesyddol mawr yn hanes teyrnas Gwynedd a'r rhyfeloedd dros annibyniaeth rhwng tywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr, ond ychydig sy'n weladwy yno heddiw. Amddiffynnai groesfan strategol iawn ar afon Conwy. Saif ar ben bryn y tu ôl i dref Deganwy, Sir Conwy.

Castell Degannwy
Mathcastell, safle archaeolegol, cestyll y Tywysogion Cymreig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 g (1088, wedi 1073) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadConwy Edit this on Wikidata
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr110 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.297964°N 3.828722°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganRobert o Ruddlan Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN016 Edit this on Wikidata

Hanes ac archaeoleg

golygu

Yn ôl traddodiad, bu gan y brenin cynnar Maelgwn Gwynedd amddiffynfa ar y safle neu'n agos iddi yn y 6g. Cyfeirir ato yn y chwedl Hanes Taliesin ac mewn rhai o'r cerddi a briodolir i'r ffug-Daliesin (Taliesin Ben Beirdd). Yn ôl y chwedl carcharodd Maelgwn Elffin ap Gwyddno, noddwr y Taliesin chwedlonol, yn y castell "dan dri ar ddeg clo", ond cafodd ei ryddhau diolch i ddawn Taliesin.

Cloddiwyd rhan o'r safle yn 1960-61 a darganfuwyd olion sy'n dyddio i gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru a dechrau'r Oesoedd Tywyll. Nid oes modd profi'r cysylltiad â Maelgwn Gwynedd yn ôl y dystiolaeth honno, ond ceir digon o gofnodion a thraddodiadau am y cysylltiad â Maelgwn.

Safai'r amddiffynfa gynnar ar yr uchaf o'r ddau graig ar gopa'r bryn, a chodwyd y castell canoloesol ar yr un safle. Ni wyddys a fu amddiffynfa Gymreig yno ar ôl cyfnod Maelgwn, ond cofnodir i'r iairll Normanaidd Robert o Ruddlan godi castell mwnt a beili yno yn 1088 pan ddaeth y Normaniaid yn agos iawn at oresgyn Gwynedd. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, roedd yr Iarll Robert yn cysgu ganol dydd yn y castell pan ddeffrowyd ef gyda'r newyddion fod Cymry wedi glanio mewn tair llong islaw Pen y Gogarth, i'r gogledd, a'u bod yn ysbeilio ei diroedd. Dywed rhai ffynonellau mai Gruffudd ap Cynan oedd yn eu harwain, wedi iddo ddianc o garchar Robert yng Nghaer. Gyrrodd Robert negeseuwyr i ymgynnull ei filwyr, ac aeth ef ei hun i odre Ben y Gogarth, lle gwelodd fod y llanw'n codi a'r Cymry ar fin hwylio ymaith gyda'i hysbail. Rhuthrodd Robert i lawr y llechwedd mewn cynddaredd, a dim ond ei gludydd arfau yn ei ddilyn. Lladdwyd ef a gwaywffyn, a hwyliodd y Cymry ymaith gyda'i ben ynghlwm wrth fast un o'r llongau.

Yn 1213 cipiwyd y castell gan Llywelyn Fawr a chodwyd castell o gerrig ganddo. Mae cerflun bychan a ddarganfuwyd yno yn bortreadu'r tywysog ei hun efallai, ac os felly dyna'r unig ddelwedd ohono i oroesi.

Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr manteisiodd y brenin Harri III o Loegr ar ymraniadau mewnol Gwynedd ac ymosododd arni. Dymchwelwyd castell Llywelyn gan ei etifedd ac olynydd Dafydd ap Llywelyn rhag ofn i'r Saeson ei gipio. Ond cododd Henri gastell newydd yno, cryfach o gryn dipyn, a gostiodd lawer o farciau iddo. Yn 1263 rhoddodd Llywelyn ap Gruffudd y castell dan warchae. Llwygwyd y garsiwn i ildio a dinistriwyd y castell bron yn llwyr. Dim ond rhan o rai o'r muriau isaf sydd i'w gweld yno heddiw. Ar ôl goresgyniad 1282-3, defnyddiwyd llawer o gerrig yr adfail i godi muriau Castell Conwy.

Mae'n Heneb Gofrestredig.[1] Ceir mynediad at y castell, sydd ar dir comin, trwy ddilyn un o'r sawl llwybrau ato o bentref Degannwy neu o'r lôn rhwng Degannwy a Llanrhos.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Henebion Cofrestredig - Adroddiad Llawn - Deganwy Castle". Cadw. Cyrchwyd 2024-08-07.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Leslie Alcock, "Excacations at Degannwy Castle...", Archaeological Journal 124 (1967): 190-201 doi:10.1080/00665983.1967.11078309
  • Roger Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)