Agor y brif ddewislen

Carnedd gron o Oes yr Efydd yw Bedd Taliesin. Fe'i lleolir ym mryniau gogledd Ceredigion tua milltir i'r dwyrain o bentref bychan Tre Taliesin cyfeiriad grid SN671912. Yr olion a welir heddiw yw'r cwbl sy'n weddill o'r garnedd a godwyd yno yn Oes yr Efydd. Mae'r maen clo wedi syrthio ond erys y meini eraill yn eu safle gwreiddiol. Y tu mewn ceir cist 2m o hyd a gloddiwyd rhywbryd yn y gorffennol (efallai gan rywrai ar ôl trysor). Gellir cyrraedd Bedd Taliesin o'r A487 trwy ddilyn lôn o Dal-y-bont.

Bedd Taliesin
Beddtaliesin.JPG
Math safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.502°N 3.959°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD067.[1]

Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau, cytiau Gwyddelod a meini hirion.

Cynnwys

Chwedl leolGolygu

Yn ôl traddodiad lleol, Bedd Taliesin yw gorffwysfa'r bardd Taliesin, a ganai ym Mhowys a'r Hen Ogledd yn y 6g. Tyfodd yn ffigwr chwedlonol gyda threigliad amser (Taliesin Ben Beirdd yn y chwedl Hanes Taliesin a ffynonellau eraill) ond nid oes unrhyw beth i gysylltu'r garnedd gynhanesyddol â'r bardd canoloesol mewn gwirionedd, er bod gan yr ardal gysylltiadau eraill â'r Taliesin chwedlonol. Mae tradoddiad yn y cylch y byddai rhwyun a dreuliai'r nos ar y garnedd yn deffro yn y bore yn fardd neu'n wallgofddyn (ceir traddodiad cyffelyb am Cadair Idris).

CyfeiriadauGolygu

Gweler hefydGolygu

FfynonellauGolygu

  • Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Llundain, 1978)