Asclepias curassavica
Asclepias curassavica | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Asclepias |
Rhywogaeth: | A. curassavica |
Enw deuenwol | |
Asclepias curassavica L. | |
Cyfystyron[2] | |
Asclepias nivea var. curassavica (L.) Kuntze |
Asclepias curassavica | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Cytras: | Tracheophytes |
Cytras: | Angiosperms |
Cytras: | Eudicots |
Cytras: | Asterids |
Trefn: | Gentianales |
Teulu: | Apocynaceae |
Genws: | Asclepias |
Rhywogaeth: | A. curassavica
|
Enw binomial | |
Asclepias curassavica | |
Cyfystyrau[2] | |
Asclepias nivea var. curassavica (L.) Kuntze |
Mae Asclepias curassavica, a elwir yn gyffredin fel y llaethlys trofannol, [3] yn rywogaeth o blanhigyn blodeuol o'r genws llaethlys, Asclepias . [4] Mae'n frodorol i'r trofannau Americanaidd [5] ac mae ganddo ddosbarthiad pantrofannol fel rhywogaeth a gyflwynwyd . Ymhlith yr enwau cyffredin Saesneg eraill mae bloodflower neu blood flower, [3] cotton bush, (Sbaeneg) hierba de la cucaracha, [3]Mexican butterfly weed , redhead, [6] scarlet milkweed, [3] a wild ipecacuanha.
Mae'n cael ei dyfu fel planhigyn gardd addurniadol ac fel ffynhonnell fwyd ar gyfer rhai glöynnod byw, fodd bynnag gall fod yn niweidiol i batrymau mudo glöynnod y llaethlys pan gaiff ei ddefnyddio mewn gerddi y tu allan i'w amrediad trofannol brodorol. [7] Er bod pryder y cyhoedd am y lleihad cyflym ym mhoblogaeth rhywogaeth glöynnod y llethlys wedi cynyddu'r galw ac argaeledd masnachol y llaethlys ymhlith meithrinfeydd yn yr UDA, cymysg fu'r canlyniadau. Er y gall llaethlys trofannol gynnal larfa glöyn y llaethlys yn effeithiol, mae tyfiant lluosflwydd y planhigyn yn cael effaith wael ar batrymau mudo'r glyn byw a gall gael effeithiau ffisiolegol eraill. [8] Mae'r defnydd o'r llaethlys trofannol mewn gerddi wedi amharu ar ymfudiadau glöynnod y bllaethlys yn enwedig yng Nghaliffornia, Texas, Fflorida a De Carolina. [9] Yn wahanol i’r rhywogaethau llaethlys sy’n frodorol i’r lleoliadau hyn, nid yw’r llaethlys trofannol yn mynd yn segur yn y gaeaf gan achosi i grwpiau anfudol o löynnod byw ffurfio. Felly mae plannu Asclepias curassavica mewn rhanbarthau anfrodorol yn parhau i fod yn ddadleuol ac yn cael ei feirniadu. Fel arall, awgrymir plannu rhywogaethau llaethlys brodorol (fel showy milkweed, llaethlys culddail, a llaethlys yr anialwch ar gyfer Califfornia [10] ) ar gyfer gerddi glöynnod byw . [11]
Mae hefyd yn denu aelodau o is-deulu'r Danainae, fel y Danaus gilippus (Queen butterfly) .
Disgrifiad
golyguMae planhigion nodweddiadol yn is-lwyni lluosflwydd bytholwyrdd sy'n tyfu hyd at fedr o daldra ac mae ganddynt goesau llwyd golau. Mae'r dail wedi'u trefnu'n gyferbyniol ar y coesau ac maent ar ffurf llafnaidd neu oblongaidd-lafnaidd gan orffen mewn blaenau craff neu acíwt. Fel aelodau eraill o'r genws, mae'r sudd yn llaethog. Mae'r blodau mewn brigflodau gyda 10-20 blodyn yr un. Mae ganddynt goronigau porffor neu goch a llabedau corona sy'n felyn neu'n oren. Mae blodeuo yn digwydd bron trwy gydol y flwyddyn. [5] Gelwir y ffrwythau hir, ffurf gwerthydaidd yn ffoliglau sy'n 5 i 10cm o hyd.. Mae'r ffoliglau'n cynnwys hadau lliw haul i frown sydd ar ffurf ofydd a 6 i 7 mm o hir. Mae gan yr hadau gwastad flew sidanaidd sy'n caniatáu i'r hadau arnofio ar gerhyntau aer pan fydd y ffoliglau tebyg i goden yn dadelfennu (hollti'n agored). [12]
Amaethu
golyguMae yna nifer o wahanol gyltifarau gyda lliwiau blodau gwell ac arferiad byrrach; mae gan rai flodau coch llachar, melyn neu oren. Weithiau defnyddir Asclepias curassavica mewn gerddi glöynnod byw (gweler uchod am bryderon ynglŷn â glöynnod y llaethlys) neu fel blodyn wedi'i dorri. Fodd bynnag, pan fydd y coesynnau neu'r dail yn cael eu torri, mae sudd llaethog gwenwynig yn amlygu a all achosi anaf i'r llygad. [13]
Dosbarthiad
golyguDisgrifir Asclepias curassavica gan NatureServe fel "rhywogaeth eang, yn amrywio o dde Gogledd America i Ganol America ac i Dde America."
Mae'n rywogaeth a gyflwynwyd yn nhaleithiau Califfornia, Fflorida, Hawai'i, Louisiana, Tennessee, a Texas yn yr UDA, yn ogystal â thiriogaethau anghorfforedig Puerto Rico ac Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau . [14]
Mae wedi'i gyflwyno a'i frodori yn nhaleithiau Tsieineaidd Anhui, Fujian, Guangdong, Guangxi, Guizhou, Hainan, Hubei, Hunan, Jiangsu, Jiangxi, Qinghai, Sichuan, Xizang, Yunnan, a Zhejiang, yn ogystal ag yn Taiwan . [5]
Cyflwynwyd Asclepias curassavica i Awstralia cyn 1869 ac mae'n gyffredin mewn rhannau o Queensland. [15] Mae'n cael ei ystyried yn blanhigyn egsotig, ac yn chwyn, ym Meteor Downs South Project ger Rolleston, Queensland, Awstralia. [16]
Cemeg
golyguMae Asclepias curassavica yn cynnwys nifer o glycosidau cardiaidd, [17] gan gynnwys asclepin, [18] calotropin, wsarin (uzarin) a'u aglyconau, calactin, coroglucigenin ac wsarigenin (uzarigenin) sef math o gerdenolid penodol. [19] Mae hefyd yn cynnwys asid oleanolic, β-sitosterol, a glycosid asclepin. Y glycosid cardiaidd mwyaf cyffredin sy'n bresennol mewn dail Asclepias curassavica yw voruscharin, sy'n cynnwys tua 40% o gyfanswm y cynnwys glycosid cardiaidd mewn dail. [20]
Oriel
golygu-
Blodeuyn
-
Ffrwythau
-
Hadau
-
Had gyda pharasiwt
-
Golwg agos ar yr hadau
-
Closeup blodau
-
Blodau gyda morgrug yn bwydo ar y neithdar
-
lindys gloyn byw'r llaeythlys yn bwydo ar laethllys.
-
Asclepias curassavica 'Aur Sidan'
-
Llaethlys ysgarlad gyda lindysyn glyn byw'r llaethlys a chwilod y llaethlys mawr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Raker, C (1995). "Comprehensive Report Species – Asclepias curassavica". NatureServe Explorer: An online encyclopedia of life [web application]. 7.1. Arlington, Virginia: NatureServe Inc. Cyrchwyd 2014-03-22.
- ↑ 2.0 2.1 "Synonyms of Tropical Milkweed (Asclepias curassavica)". Encyclopedia of Life. Cyrchwyd 2014-03-22. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "eol-synonym" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enweol-common
- ↑ "ITIS Standard Report Page: Asclepias curassavica". Integrated Taxonomic Information System. Cyrchwyd 2014-03-22.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Asclepias curassavica in Flora of China". Flora of China @ eFloras.org. Missouri Botanical Garden. Cyrchwyd 2014-03-22.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwGRIN
- ↑ Howard, Elizabeth; Aschen, Harlen; Davis, Andrew K. (2010). "Citizen Science Observations of Monarch Butterfly Overwintering in the Southern United States". Psyche: A Journal of Entomology 2010: 1–6. doi:10.1155/2010/689301.
- ↑ Majewska, Ania A.; Altizer, Sonia (16 August 2019). "Exposure to Non-Native Tropical Milkweed Promotes Reproductive Development in Migratory Monarch Butterflies". Insects 10 (8): 253. doi:10.3390/insects10080253. PMC 6724006. PMID 31426310. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6724006.
- ↑ "Can Milkweed be Bad for Monarchs". 12 January 2013.
- ↑ Fahy, Claire (2021-06-01). "California's Monarch Butterflies Are Down 99%. Can This Plant Help?". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-06-04.
- ↑ Clarke, Chris (9 January 2015). "Gardening to Help Monarch Butterflies? Plant Natives". KCET.
- ↑ Christman, Steve (2004-01-21). "Asclepias curassavica: Floridata". Floridata. Cyrchwyd 2014-03-22.
- ↑ Hsueh, Kuo-Fang; Lin, Pei-Yu; Lee, Shui-Mei; Hsieh, Chang-Fu (February 2004). "Ocular injuries from plant sap of genera Euphorbia and Dieffenbachia". Journal of the Chinese Medical Association 67 (2): 93–98. PMID 15146906. http://homepage.vghtpe.gov.tw/~jcma/67/2/93.pdf. Adalwyd 2011-05-01.
- ↑ "Plants Profile for Asclepias curassavica (Bloodflower)". Plants Database. USDA Natural Resources Conservation Service. Cyrchwyd 2014-03-22.
- ↑ "Asclepias curassavica (bloodflower)". www.cabi.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-06.
- ↑ Wormington, Kevin; Tucker, Gail; Black, Robert; Campbell, Lorelle (2012). "Flora, fauna and freshwater biota assessment of the Meteor Downs South Project, near Rolleston, Central Queensland". EIS and Technical Reports (Gold Coast Quarry): 28. http://www.goldcoastquarry.com/assets/Documents/X%20-%20Flora%20and%20Fauna%20Technical%20Report/Appendix%20X%20-%20Flora%20and%20Fauna%20Technical%20Report%20-%20Part%205.pdf. Adalwyd 2014-03-30.
- ↑ Singh, Bhagirath; Rastogi, R.P. (February 1970). "Cardenolides—glycosides and genins". Phytochemistry 9 (2): 315–331. doi:10.1016/S0031-9422(00)85141-9.
- ↑ Singh, B.; Rastogi, R.P. (February 1972). "Structure of asclepin and some observations on the NMR spectra of Calotropis glycosides". Phytochemistry 11 (2): 757–762. doi:10.1016/0031-9422(72)80044-X.
- ↑ Singh, Bhagirath; Rastogi, R. (1969). "Chemical investigation of Asclepias curassavica Linn". Indian Journal of Chemistry 7: 1105–1110. https://www.researchgate.net/publication/285376965.
- ↑ Agrawal, Anurag A.; Böröczky, Katalin; Haribal, Meena; Hastings, Amy P.; White, Ronald A.; Jiang, Ren-Wang; Duplais, Christophe (2021-04-20). "Cardenolides, toxicity, and the costs of sequestration in the coevolutionary interaction between monarchs and milkweeds" (yn en). Proceedings of the National Academy of Sciences 118 (16): e2024463118. Bibcode 2021PNAS..11824463A. doi:10.1073/pnas.2024463118. ISSN 0027-8424. PMC 8072370. PMID 33850021. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=8072370.
Dolenni allanol
golygu- Jepson Manual (1993) —disgrifiad o rywogaethau a gyflwynwyd a dosbarthiad anfrodorol California