Glöyn y llaethlys

Glöyn y llaethlys
Benyw
Gwryw
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Llwyth: Danaini
Genws: Danaus
Kluk, 1780
Rhywogaeth: D. plexippus
Enw deuenwol
Danaus plexippus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Danaus archippus (Fabricius, 1793)[1]
Danaus menippe (Hübner, 1816)[2]

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn y llaethlys, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gloynnod y llaethlys; yr enw Saesneg yw Monarch, a'r enw gwyddonol yw Danaus plexippus.[3]

Isadain y Danaus plexippus plexippus, fe'i gwelir yma'n sugno neithdar o flodyn Echinacea purpurea

Maint golygu

Mae maint adenydd y gwryw rhwng 8.9–10.2 cm (3½–4 modf.).[4]

 
Bae Jamaica, Efrog Newydd 10/10/2014
 
Pennsylvania, 06/08/2004

Ei diriogaeth golygu

Dyma, efallai, yr enwocaf o holl loynnod byw Gogledd America. Ers y 19g fe'i gwelir hefyd yn Awstralia (ble gelwir ef yn "wanderer"[5] a Seland Newydd. Gwelir ef hefyd yn yr Ynysoedd Dedwydd, yr Azores, ac ar ynys Madeira. Ar adegau prin, mae'n ymweld â gorllewin Ewrop a hyd yn oed gwledydd Prydain.[6]

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae glöyn y llaethlys yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. Committee On Generic Nomenclature, Royal Entomological Society of London; Of Entomology, British Museum (Natural History) Dept (2007-05-23) [1934]. The Generic Names of British Insects. Royal Entomological Society of London Committee on Generic Nomenclature, Committee on Generic Nomenclature. British Museum (Natural History). Dept. of Entomology. t. 20. Cyrchwyd 2008-06-04.
  2. Scudder, Samuel H. (1989). The butterflies of the eastern United States and Canada with special reference to New England. The author. t. 721. ISBN 0-665-26322-8. Cyrchwyd 2008-06-04. Unknown parameter |coauthors= ignored (help)
  3.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  4. Garber, Steven D. (1998). The Urban Naturalist. Courier Dover Publications. tt. 76–79. ISBN 0-486-40399-8. Cyrchwyd 2008-05-26.
  5. "Wanderer Butterfly". Australian Museum: nature culture discover. Australian Museum, Sydney, Australia. Cyrchwyd 2010-07-15. External link in |work= (help)
  6. UK Butterflies - Monarch - Danaus plexippus from UK Butterflies; adalwyd 06/06/2012