Ashok Ahir
Newyddiadurwr, cynhyrchydd rhaglenni a chyfathrebwr yw Ashok Ahir (ganwyd Awst 1969).
Ashok Ahir | |
---|---|
Ganwyd | Ashok Kumar Ahir Awst 1969 Wolverhampton |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, communicator |
Cyflogwr |
Bywgraffiad
golyguFe'i magwyd yn Wolverhampton ac iaith ei aelwyd yno oedd Pwnjabeg. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd yn 1992 gyda gradd mewn Peirianneg a gwnaeth ddiploma ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu ym Mhrifysgol Westminster, Llundain.
Dysgodd Gymraeg yn 2005 ac roedd yn un o'r pedwar a gyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2012.[1] Mae'n ystyried ei hun yn Gymro mabwysiedig ac yn cefnogi timau rygbi a phêl-droed Cymru.
Gyrfa
golyguRhwng 1994 a 1998 bu'n ohebydd a chynhyrchydd ar BBC Wales Today a BBC Radio Wales.[2] Symudodd i Lundain a gweithio ar prif raglenni newyddion y BBC, yn cynnwys Six O'Clock News, Today a Newsnight. Yn 2002 symudodd nôl i Gaerdydd i fod yn Bennaeth Gwleidyddol yn BBC Cymru. Bu'n gweithio am ddegawd ar raglenni gwleidyddol BBC Cymru a gwleidyddiaeth Cymreig ar draws y BBC.[3]
Yn Hydref 2016, fe'i benodwyd yn Gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.[1]
Rhwng 2012 a 2018 roedd yn gyfarwyddwr gyda chwmni cyfathrebu mela. Yng Ngorffennaf 2018 daeth yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu gyda Swyddfa Cymru, yn gweithio i Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Mae hefyd yn llywodraethwr Ysgol Treganna, aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru ac aelod Pwyllgor Cymreig y Cyngor Prydeinig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Penodi cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018 , BBC Cymru Fyw, 13 Hydref 2016. Cyrchwyd ar 3 Awst 2018.
- ↑ LinkedIn - Ashok Ahir. Ashok Ahir.
- ↑ (Saesneg) Ashok Ahir. Mela. Adalwyd ar 3 Awst 2018.