Asturias

(Ailgyfeiriad o Asturies)

Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Tywysogaeth Asturias (Astwrieg Principáu d'Asturies neu Asturies, Sbaeneg Principado de Asturias). Daw'r enw o dylwyth yr Astures, brodorion yr ardal yn ystod Oes yr Haearn, enw a fabwysiadwyd gan y Rhufeiniaid ar gyfer holl drigolion gogledd-orllewin y penrhyn Iberaidd.

Asturias
ArwyddairHoc signo tuetur pius. Hoc signo vincitur inimicus. Edit this on Wikidata
MathCymunedau ymreolaethol Sbaen Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTywysogaeth Asturias Edit this on Wikidata
PrifddinasOviedo Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,011,792 Edit this on Wikidata
AnthemAsturias, patria querida Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAdrián Barbón Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGreen Spain Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd10,603.57 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Cantabria Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGalisia, Castilla y León, Cantabria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.3614°N 5.8478°W Edit this on Wikidata
ES-AS Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of the Principality of Asturias Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholGeneral Junta of the Principality of Asturias Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of the Principality of Asturias Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAdrián Barbón Edit this on Wikidata
Map
Asturias yn Sbaen

O dan y drefn Sbaenaidd, mae Asturias hefyd yn dalaith gyda'i ffiniau'n cydredeg â ffiniau'r gymuned. I'r gogledd mae Bae Vizcaya, i'r de León, i'r dwyrain Cantábria ac i'r gorllewin, Galicia. Mae iddi arwynebedd o ychydig dros 10,600 km² - a'i hyd oddeutu 330 km o'r dwyrain i'r gorllewin, a dim ond 130 km o'r de i'r gogledd. Mae'n ardal fynyddig ac arfordirol; carreg galch yw creigiau'r dwyrain a'r canolbarth, gyda llechi yn y gorllewin.

Daearyddiaeth

golygu

Mae mynyddoedd y de'n ffinio ag ucheldir canol Sbaen, mae sawl cadwyn o'r Cordillera Cantábrica, y mynyddoedd sy'n croesi gogledd Sbaen o'r dwyrain i'r gorllewin. Yr uchaf oll yw'r Picos de Europa, yn nwyrain Asturias, lle mae dros 200 o gopaon dros 2000m. Amgylchedd karst sydd yno: afonydd tanddaearol, pyllau dwfn iawn, creigiau gydag ôl y dŵr yn stribedi arnyn nhw.

Oherwydd y tirlun a'r hinsawdd Iwerydd mae llawer o afonydd, y mwyafrif yn fyr. Y mwyaf yw'r Nalon (129 km), prif afon cymoedd y glo. Ceir tair afon sy'n nodedig am eog a sewin: y Sella, yr Eo ar y ffin â Galicia, a'r Deva ar y ffin â Cantábria.

Carst (lle mae'r dirwedd wedi'i ffurfio o ganlyniad i ddŵr yn ymdoddi ar greigwely carbonad) yw ei harfordir dwyreiniol, ac mae'r clogwyni'n bigog. Yn y gorllewin ceir mwy o dywod a cherrig meddal. Mae'r traethau ar y cyfan yn fach, ar wahân i rai lle mae afon a gwaith pobl wedi ffurfio bae eang, e.e. Xixón, Ribeseya.

Demograffeg

golygu

Y prif ddinasoedd yw Xixón (Sbaeneg: 'Gijón') lle roedd poblogaeth o tua 271,039 yn 2004, y brifddinas Uviéu (Sbaeneg: Oviedo; poblogaeth 209,495) ac Avilés (poblogaeth 83,899). Mae cyfanswm y boblogaeth ychydig dros filiwn, ond mae'n tueddu i ostwng, gyda diboblogi yn broblem yng nghefn gwlad. Mae trwch y boblogaeth yn byw yn y canolbarth, yn y dinasoedd a'r cymoedd glofaol, neu cyn-lofaol. Yma mae diwydiant trwm yn dal ei le, gyda gwaith dur Arcelor-Mittal yn dal yn gryf. Yn y dwyrain a'r gorllewin: amaeth, coedwigaeth, pysgota a thwristiaeth sy'n bwysig.

Mae plentyn hynaf Brenin neu Frenhines Sbaen yn cael ei alw'n "Dywysog Asturias", ond fel yn achos "Tywysog Cymru" nid yw'n golygu fod ganddo ran yn ei llywodraeth.

Yr iaith swyddogol yw Sbaeneg, ond mae rhywfaint o statws i'r iaith Astwrieg dan y ddeddf.

Israniadau

golygu

Ceir 8 'sir', neu 'is-adran' a elwir yn Astwreg yn Comarques d'Asturies.

 

Rhenir pob Comarques i nifer o ardaloedd gweinyddol a elwir yn 'Conceyu'; ceir 78 Conceyu (concejos yn Sbaeneg).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Asturias: población por municipios y sexo". Cyrchwyd 6 Ionawr 2018.