Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer

noddwraig diwylliant a dyfeisydd y wisg genedlaethol Gymreig
(Ailgyfeiriad o Augusta Hall)

Noddwraig y celfyddydau, y diwylliant gwerin a'r iaith Gymraeg oedd Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer (21 Mawrth 1802 - 17 Ionawr 1896), neu Augusta Waddington Hall; ganed yn Augusta Waddington. Roedd hi'n adnabyddus hefyd wrth yr enw barddol Gwenynen Gwent. Fe'i cofir yn bennaf fel dyfeisydd y Wisg Gymreig. Roedd yn cefnogi'r Mudiad Dirwest, a chaeodd bob tafarn ar ei hystad.

Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer
GanwydAugusta Waddington Edit this on Wikidata
21 Mawrth 1802 Edit this on Wikidata
Y Fenni Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 1896 Edit this on Wikidata
Llanofer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
TadBenjamin Waddington Edit this on Wikidata
MamGeorgina Mary Ann Port Edit this on Wikidata
PriodBenjamin Hall Edit this on Wikidata
PerthnasauMary Delany, Charlotte Berrington Edit this on Wikidata

Magwraeth

golygu

Ganed hi yn Llanofer, gerllaw'r Fenni yn Sir Fynwy, yn ferch ieuengaf Benjamin Waddington, Ty Uchaf, Llanofer a'i wraig Georgina Port. Hi oedd etifedd ystad enfawr Llanorfer. Yn 1823, priododd Benjamin Hall, priodas a unodd ei ystad ef yn Abercarn a'i hystad hi yn Llanofer; ar ôl ei gŵr yr enwyd "Big Ben".

 
Arfau Arglwyddes Llanofer
 
Un o luniau Augusta

Y Celfyddydau

golygu

Roedd gan Arglwyddes Llanofer ddiddordeb mawr mewn astudiaethau Celtaidd, a dylanwadwyd arni gan Thomas Price (Carnhuanawc) wedi iddi ei gyfarfod mewn eisteddfod leol yn 1826. Dysgodd Carnhuanawc Gymraeg iddi, a chymerodd yr enw barddol "Gwenynen Gwent". Daeth yn aelod cynnar o gymdeithas Cymreigyddion Y Fenni. Yn Eisteddfod Caerdydd 1834, enillodd y wobr gyntaf am draethawd Advantages resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn y wisg Gymreig draddodiadol a hi a fu'n gyfrifol yn bennaf am ddyfeisio'r 'wisg genedlaethol' gyfarwydd gyda'i chlogyn goch a'r het dal ddu.

Cyhoeddi

golygu

Yn 1850, cynorthwyodd i sefydlu Y Gymraes, y cylchgrawn cyntaf i ferched yn Gymraeg. Cyhoeddodd lyfr ar goginio traddodiadol Cymreig, ac roedd ganddi ddiddordeb yn y delyn, gan gyflogi telynor preswyl yn Llanover Hall. Ariannodd eiriadur Cymraeg Daniel Silvan Evans.