Avanti West Coast

Gwmni gweithredu trenau Prydeinig

Mae Avanti West Coast yn gwmni gweithredu trenau Prydeinig sy'n eiddo i FirstGroup (70%) a Trenitalia (30%) sy'n gweithredu masnachfraint West Coast Partnership. Disodlodd y cwmni Virgin Trains ym mis Rhagfyr 2019.[1] Ar hyn o bryd maent yn gweithredu gwasanaethau ar hyd Prif Linell Arfordir y Gorllewin, yn bennaf rhwng Llundain a'r Alban. Fodd bynnag, maent hefyd yn darparu gwasanaethau rheolaidd rhwng Llundain a Birmingham, Manceinion, Lerpwl, Blackpool, Amwythig, Caer a Chaergybi. Mae'n rheoli 15 o orsafoedd ac mae ei drenau'n galw ar 46.

Avanti West Coast
Enghraifft o'r canlynolcwmni gweithredu trenau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu8 Rhagfyr 2019 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddVirgin Trains Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadFirstGroup Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.avantiwestcoast.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1. "First Trenitalia chooses Hitachi Rail to build new intercity trains for Avanti West Coast". FirstGroup PLC. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2019.