Barwnigiaeth Mostyn

teulu o uchelwyr o Sir y Fflint
Nodyn: Mae 'barwnig' yn fath o farwn, gyda statws ychydig is; ceir erthygl arall am y teulu Mostyn ac un ar all ar Farwoniaeth Mostyn.

Ceir dwy gangen o Farwnigiaeth Mostyn: Barwnigion Mostyn, o Fostyn (1660) a Barwnigion Mostyn, o Dalacre (1670). Rhoddwyd y teitlau hyn i aelodau o'r teulu Mostyn, sy'n olrhain eu hachau i Thomas ap Richard (Thomas Mostyn I), a unodd y "Pum Llys" yn 1541: Pengwern (Llangollen), Mostyn (Sir y Fflint), Gloddaith (Llandudno) a Threcastell a Thregarnedd (y ddau o Ynys Môn). Teitl gyda'i wreiddiau'n ddwfn yn Lloegr ydy barwniaethau; Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI) a ddechreuodd y drefn etifeddol hon, a hynny ar 22 Mai 1611. Yr enw llawn yw the Order of Baronets in England.

Goroesodd un o'r ddwy Farwnigiaeth. Mae'r ddwy'n perthyn i'w gilydd, ac mae'r ddwy'n arddel yr un tarddiad, sef Edwin o Degeingl, marchod o'r 11g. Cantref yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd 'Tegeingl' a enwir ar ôl y Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru yn Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig.[1] Gellir ei adnabod heddiw (fwy neu lai) fel 'Sir y Fflint'.

Barwnigion Mostyn, o Fostyn (1660) golygu

Plas Mostyn

Crewyd y Farwnigiaeth hon ar 3 Awst 1660 ar gyfer Syr Roger Mostyn, barwnig 1af (c. 1620c. 1690). Gwnaed yr ail farwnig yn Aelod Seneddol dros etholaeth Caernarfon a chynrychiolodd y 3ydd Sir y Fflint a Chaer ac fel Arglwydd Raglaw Sir y Fflint. Ac ar ran etholaeth Sir y Fflint y dyrchafwyd y 4ydd, y 5ed a'r 6ed barwnig. Roedd y 5ed hefyd yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint. Ar farwolaeth y 6ed barwnig, yn 1831, daeth y teitl i ben. Priododd Elizabeth, chwaer y 6ed barwnig, sef Edward Pryce Lloyd, Barwn 1af Mostyn. Yn 1831 fe'i gwnaed yn Farwn Mostyn ac oddi yno y ceir 'Farwnigiaeth Lloyd Mostyn'.[2]

Barwnigion Mostyn, Talacre golygu

 
Plas Talacre

Crewyd y teitl Barwnigion Mostyn, Talacre ar 28 Ebrill 1670 ar gyfer Edward Mostyn. Mae'r teulu'n olrhain eu hynafiaid i Richard ap Hewell a drigai ym mhentref Mostyn yn ystod teyrnasiad Harri VIII, brenin Lloegr.

Aelod o'r teulu hwn oedd Francis Mostyn (1860 - 1939), pedwerydd mab yr 8fed barwnig (Syr Pyers Mostyn). Daeth ef yn Vicar Apostolic of Wales yn 1895 a gwnaethpwyd ef yn esgob 'Menevia' yn 1898; bu'n Archesgob Caerdydd o 1921 hyd at ei farwolaeth ar 25 Hydref 1939.

Barwnigion Mostyn, o Dalacre (1670) golygu

  • Syr Edward Mostyn, barwnig 1af (1636-1715)
  • Syr Pyers Mostyn, ail farwnig (1655-1720)
  • Syr Pyers Mostyn, 3ydd barwnig (1682-1735)
  • Syr George Mostyn, 4ydd barwnig (1690-1746)
  • Syr Edward Mostyn, 5ed barwnig (1725–1775)
  • Syr Pyers Mostyn, 6ed barwnig (1749–1823)
  • Syr Edward Mostyn, 7fed barwnig (1785–1841)
  • Syr Pyers Mostyn, 8fed barwnig (1811–1882)
  • Syr Pyers William Mostyn, 9fed barwnig (1846–1912)
  • Syr Pyers Charles Mostyn, 10fed barwnig (1895–1917)
  • Syr Pyers George Joseph Mostyn, 11fed barwnig (1893–1937)
  • Syr Pyers Edward Mostyn, 12fed barwnig (1928–1955)
  • Syr Basil Anthony Trevor Mostyn, 13ydd barwnig (1902–1956)
  • Syr Jeremy John Anthony Mostyn, 14ydd barwnig (1933–1988)
  • Syr William Basil John Mostyn, 15ed barwnig (g. 1975)

Yn 2018 etifedd yr ystad oedd Rohan Jeremy Mostyn (g. 2012), mab Basil John Mostyn, 15ed barwnig.

Lloyd - Barwnigion Pengwerra (1778) golygu

Mae'r farwnigiaeth ganlynol ar wahân, ond eto'n gysylltiedig â'r teulu Nostyn. Dau farwnig Pengwerra a gafwyd, a rhoddwyd yr un enw i'r ddau:

Daeth y teitl i ben gan y gwnaed ail farwnig Pengwerra yn Farwn llawn (Edward Pryce Lloyd, Barwn 1af Mostyn).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Sir William Llewelyn Davies. "Edwin of Tegeingl". Dictionary of Welsh Biography. National Library of Wales. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2012.
  2. "Official Roll of the Baronetage". Standing Council of the Baronetage. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-06. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)