Benjamin Jones, Pwllheli
Roedd y Parchedig Benjamin Jones (29 Medi 1756 – 17 Chwefror 1823) yn weinidog gyda'r Annibynwyr.[1]
Benjamin Jones, Pwllheli | |
---|---|
Ganwyd | 29 Medi 1756 Llanwinio |
Bu farw | 17 Chwefror 1823 Pwllheli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Cefndir
golyguGanwyd Jones Nhrecyrnfawr, ym mhlwyf Llanwinio, Sir Gaerfyrddin yn blentyn i Thomas a Mary Jones. Roedd ei rieni yn weddol gefnog ac yn aelodau ffyddlon o Eglwys Loegr. Dymuniad ei rieni oedd i Benjamin dod yn offeiriad yn yr eglwys.
Paratoi am y weinidogaeth
golyguEr mwyn ei baratoi am yr offeiriadaeth danfonwyd Jones gan ei rieni i ysgol oedd yn cael ei gadw gan ŵr eglwysig yn Llanddewi Efelffre, Sir Benfro, lle cafodd cryn lwyddiant wrth ddysgu'r ieithoedd clasurol.[2]
Tra'n ddisgybl yn Sir Benfro daeth Jones o dan ddylanwad Richard Morgan, gweinidog Annibynnol Henllan Amgoed,[3] a John Griffith, gweinidog Annibynnol Glandŵr, Sir Benfro a phennaeth athrofa anghydffurfiol.[4] Ymunodd ag eglwys Morgan yn yr Henllan a dechreuodd mynychu athrofa Griffith yng Nglandŵr.
Er iddo fynd yn groes i benderfyniad ei rieni, dywedir iddynt roddi iddo bob tegwch i farnu drosto'i hun.[2]
Ar ôl bod yn aelod yn Henllan am gyfnod byr anogwyd Jones gan yr aelodau a'r gweinidog i ddechrau pregethu ymysg yr aelodau lleol yn Henllan a Glandŵr tua 1773. Gan fod ei bregethu wedi bodloni aelodau, arweinwyr a gweinidogion yr ardal anogwyd ef i fynd i Athrofa'r Ymneilltuwyr yn y Fenni. Dechreuodd yn y Fenni ym 1775 o dan brifathrawiaeth Dr Benjamin Davies.[5]
Gyrfa
golyguWedi i Jones treulio pedair blynedd yn Athrofa'r Fenni cafodd alwad i fod yn weinidog capeli Annibynnol Pencader a Phantycreuddyn. Cafodd ei hordeinio ym Mhencader, 25 Mai, 1779.
Arhosodd Jones ym Mhencader am dair blynedd wedi iddo gael ei urddo; ond oherwydd anghydfod ymadawodd a chafodd alwad i gapeli'r yr Annibynwyr ym Methlehem a Rhosmeirch, ar ynys Môn. Arhosodd ym Môn am ychydig dros saith mlynedd a bu cryn lwyddiant ar ei waith. Agorodd achosion newydd yn y Talwrn, Amlwch, a Biwmares. Ychydig wedi marwolaeth Y Parch Rees Harris, Penlan, Pwllheli ym 1788 cafodd Jones alwad gan yr eglwys a'r canghennau perthynol iddi i gymryd ei le. Dechreuodd ar ei waith ym Mhwllheli tua diwedd 1789. Arhosodd ym Mhwllheli hyd ei farwolaeth.
Pan oedd John Eleias ifanc, 17 mlwydd oed, yn ymaflyd efo cyfyng gyngor ysbrydol penderfynodd ymweld â Daniel Rowland yn Llangeitho i geisio arweiniad. Ar y ffordd yno aeth i wrando a Benjamin Jones yn pregethu ym Mhenlan. Cyhoeddodd Jones fod ei bregeth ar y testun "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?" [6] gan ei fod newydd glywed y newydd galarus bod Rowland wedi marw.[7]
Fel bron y cyfan o weinidogion anghydffurfiol blaenaf ei gyfnod bu Jones yn mynd ar deithiau efengylu i wahanol rannau o Gymru i geisio lledaenu'r achos Cristionogol. Ar daith ym 1796 ymwelodd â chapel Pendref, Llanfyllin, lle cafodd Ann Thomas (Ann Griffiths wedyn) tröedigaeth o dan ddylanwad ei weinidogaeth.[8]
Cyhoeddiadau
golyguCyhoeddodd Jones dwy gyfrol o athroniaeth ddiwinyddol:
- Athrawiaeth y Drindod mewn Tair Pregeth (1772). Ymateb i syniadau Sabelaidd honedig Peter Williams.[9] (Sabeliaeth yw'r gred bod y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân yn dair nodwedd wahanol o Dduw, yn hytrach na thri pherson gwahanol wedi eu huno yn y Duwdod.[10] Does dim tystiolaeth bod Peter Williams yn coleddu syniadau Sabelaidd [11])
- Ffynhonnau Iachawdwriaeth (1805). Ymateb i draethawd John Wesley ar bwnc etholedigaeth. (Mae Calfiniaid, fel Jones, yn credu bod Duw yn ethol neu'n ddewis pwy sydd i gael eu hachub trwy ras Crist. Mae Wesleaid yn credu bod pobl yn dewis Iesu Grist fel eu hiachawdwr personol.[12])
Teulu
golyguYm 1780 ymbriododd Jones â Mary Evans, Cwrt, yn agos i Saron, Sir Gaerfyrddin. Cawsant fab a merch ond bu farw'r bachgen yn ei fabandod.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref ym Mhwllheli yn 66 oed a chladdwyd ef ym mynwent capel Penlan.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ JONES, BENJAMIN (1756 - 1823), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 16 Hyd 2020
- ↑ 2.0 2.1 Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. V rhif. 7 - Gorffennaf 1826, tud 193-197; T Lewis, Pwllheli COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. BENJAMIN JONES, PWLLHELI, SWYDD GAERYNARFON Adferwyd 16 Hyd 2020
- ↑ MORGAN, RICHARD (1743 - 1805), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 16 Hyd 2020
- ↑ GRIFFITHS, JOHN (1731 - 1811), ysgolfeistr a phregethwr, Glandŵr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 16 Hyd 2020
- ↑ DAVIES, BENJAMIN (1739? - 1817), athro a gweinidog Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 16 Hyd 2020
- ↑ 2 Samuel 3:38 Beibl William Morgan. Adferwyd 16 Hyd 2020
- ↑ Y Traethodydd Gorffennaf 1845, tud 306 John Elias gan Roger Edwards . Adferwyd 16 Hyd 2020
- ↑ Y Cyfaill o'r Hen Wlad yn America Cyf. X rhif. 3 - Mawrth 1847, tud 66 Buchweddawl Cofiant Ann Griffiths. Adferwyd 16 Hyd 2020
- ↑ "WILLIAMS, PETER (1723 - 1796), clerigwr Methodistaidd, awdur, ac esboniwr Beiblaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-16.
- ↑ "Sabellianism | Christianity". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-10-16.
- ↑ Jones, Tudur. "Williams, Peter (1723–1796), biblical commentator". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/29534. Cyrchwyd 2020-10-16.
- ↑ McKiddie, Eric (2019-05-24). "The Doctrine of Election and Predestination: Where Christians Agree and Disagree". Chapel Hill Bible Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-10. Cyrchwyd 2020-10-16.