Yr Oesoedd Tywyll yng Nghymru
Cyfeirir at y blynyddoedd rhwng tua 400 a thua 900 O.C. fel yr Oesoedd Tywyll. Mae'r gair 'tywyll' yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn gyfnod anodd i gael tystiolaeth ddibynadwy ar beth ddigwyddodd yn ystod y cyfnod.
Dyma'r cyfnod pan greuwyd cenedl y Cymry a phan ddatblygodd yr iaith Gymraeg o'r Frythoneg. Yn 400 roedd Prydain wedi ei meddiannu gan y Brythoniaid. Erbyn 800 roedd Cymru, yr Alban a Lloegr yn wledydd ar wahân.