Gellifedw

pentref a chymuned yn Sir Abertawe
(Ailgyfeiriad o Birchgrove, Abertawe)

Cymuned a phentref yn ninas Abertawe yw Birchgrove (weithiau: Y Gellifedw ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir, tua 6 millir o ganol Abertawe, fymryn i'r gogledd o draffordd yr M4, ac yn agos i'r ffin â Chastell-nedd Port Talbot. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Lôn-las a rhan o'r Glais yn ogystal a'r Gellifedw ei hun. Roedd y boblogaeth yn 2001 tua 6,500 ac erbyn 2011 roedd wedi codi i 7,392.

Y Gellifedw
Eglwys Sant Ioan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,392, 7,899 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd907.43 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.67°N 3.88°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000561 Edit this on Wikidata
Cod OSSS704981 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMike Hedges (Llafur)
AS/au y DUCarolyn Harris (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Carolyn Harris (Llafur).[1][2]

 
Maen hir carreg Bica
 
Pwll glo Scott, Y Gellifedw.

Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yma. Agorwyd y pwll glo cyntaf yn 1845, ac yn ddiweddarach dechreuwyd gau arall. Caeodd Glofa Birchgrove yn 1931. Ceir nifer o olion o gyfnodau cynharach, yn cynnwys maen hir o'r enw Carreg Bica ar Fynydd Drumau, tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o Gellifedw.

Addysg yng Nghellifedw

golygu

Mae gan Y Gellifedw ysgol uwchradd a dwy ysgol gynradd. Mae'r dair ysgol yn rhai cyhoeddus, cymysg ac yn ddi-gyswllt o enwadau crefyddol. Fodd bynnag, o dan ddeddfwriaeth Prydeinig, rhaid i bob ysgol ddarparu cyfnod o addoli yn ddyddiol.

Agorwyd Ysgol Gyfun Gellifedw ym 1991 ar safle'r hen ysgol. Gwasanaetha ardaloedd Gellifedw, Glais a Chlydach. Serch hynny, mynycha nifer o ddisgyblion ardaloedd Glais a Chlydach ysgol uwchradd arall, Cwmtawe, tra bod disgyblion yn Llansamlet a'r Trallwyn yn mynychu ysgol Gelli Fedw yn hytrach na Chefn Hengoed.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Gellifedw (pob oed) (7,392)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Gellifedw) (1,022)
  
14.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Gellifedw) (6217)
  
84.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Gellifedw) (770)
  
25.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

golygu