Cenddeil-lys
Cenddeil-lys Blasia pusilla | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Blasiales |
Teulu: | Blasiaceae |
Genws: | Blasia Linnaeus 1753[1] |
Rhywogaeth: | B. pusilla |
Enw deuenwol | |
Blasia pusilla Linnaeus 1753[1][2] | |
Cyfystyron | |
|
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Cenddeil-lys (enw gwyddonol: Blasia pusilla; enw Saesneg: common kettlewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Blasiales, o fewn y dosbarth Marchantiopsida. Dyma'r unig rhywogaeth yn y genws Blasia.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a phob gwlad arall ar ynys Prydain.
Disgrifiad
golyguGwahaniaethir rhyngddi a'r Cavicularia oherwydd fod ganddi goler o amgylch gwaelod y capsiwl sporoffit. Yn aml, mae'r paraseit a ffwng Blasiphalia i'w gweld yn rhisoidau ac egin y Blasia.
O ran maint, mae'n ganolig, ac mae'n ffurfio rhosynnau neu fatiau, gyda changhennau bychain hyd at 5 mm o led. Mae'r thalws ychydig yn dryloyw, heb fandyllau aer ar yr wyneb. Mae gan ymylon llabedi'r thalws ddannedd bach, crwn.
Cynefin
golyguMae'r Cenddeil-lys yn gymharol gyffredin ac mae'n tyfu ar bridd llaith, graeanllyd ar hyd ffosydd, glannau afonydd, ochrau ffyrdd a thraciau coedwigaeth, hen chwareli ac weithiau, fel arfer ar haenau nad ydynt yn galchaidd, lle mae lleithder eitha cyson.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[3] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Linnaeus, C. (1753). Species Plantarum. Tomus II (arg. 1st). t. 1138.
- ↑ Micheli, P. A. (1729). Nova Plantarum Genera juxta Tournefortii methodum disposita. Florence. t. 14, plate vii.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.