Bras bychan

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Bras Lleiaf)
Bras bychan
Emberiza pusilla

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Emberizidae
Genws: Emberiza[*]
Rhywogaeth: Emberiza pusilla
Enw deuenwol
Emberiza pusilla



Aderyn a rhywogaeth o adar yw Bras bychan (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: breision bychain) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Emberiza pusilla; yr enw Saesneg arno yw Little bunting. Mae'n perthyn i deulu'r Breision (Lladin: Emberizidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn E. pusilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Mae'r bras bychan yn perthyn i deulu'r Breision (Lladin: Emberizidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Bras Smith Calcarius pictus
 
Bras bronddu’r Gogledd Calcarius ornatus
 
Bras y Gogledd Calcarius lapponicus
 
Hadysor Colombia Catamenia homochroa
 
Pila mynydd Patagonia Phrygilus patagonicus
 
Pila mynydd Periw Phrygilus punensis
 
Pila mynydd llwytu Phrygilus carbonarius
 
Pila mynydd penddu Phrygilus atriceps
 
Pila mynydd penllwyd Phrygilus gayi
 
Pila telorus llygatddu’r Dwyrain Poospiza nigrorufa
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Perthynas â phobl

golygu
  • Hanes bras bychan Wil Evans

“Bore oer iawn oedd hi ar 8fed lonawr, 1957 a minnau'n trafeilio o Langefni i gyfeiriad Llanfaethlu pan welais aderyn bychan mewn trafferthion ar fin y ffordd; sylweddolais yn syth bin bod un adain wedi derbyn niwed go arw. Bum allan am hydion yn ceisio ei ddal, ac wedi llwyddo, ei osod yn ofalus mewn bocs bychan i fynd ag o adra.

Roedd un adain yn hongian yn llipa o'i ochor a sylweddolais ei fod yn un o deulu'r Brasiaid (buntings) ond ni allwn benderfynu'n siwr pa un ohonynt. P'run bynnag, adref a ni a gosod y 'deryn mewn cawell pwrpasol gan ofalu fod ganddo fwyd a diod mewn lle cyfleus. Aeth rhai dyddiau heibio cyn i mi benderfynu dangos y 'deryn i'm cyfaill T. G. Walker, Ysgol Henblas, yntau wedyn yn fy siarsio i'w ddangos i Charles Tunnicliffe, yr artist adnabyddus oedd yn byw ym Malltraeth.

Drannoeth, es i weld yr artist a'i wraig Winnie yn 'Shorelands', Malltraeth. Doedd yr un o'r ddau wedi gweld y math hwn o dderyn o'r blaen a mawr oedd eu diddordeb ynddo. Penderfynwyd fod rhaid creu llun ohono a gadewais ef ym Malltraeth am ddiwrnod neu ddau er mwyn i'r artist enwog gofnodi llun ohono. Daethant i'r penderfyniad fod un adain wedi ei thorri'n ddrwg iawn ac mai'r Bras Bach oedd yr aderyn dan sylw, ac nad oedd yr un o'r ddau wedi gweld un erioed o'r blaen.

Gwnaethpwyd lluniau o'r aderyn prin [2]. Pan elwais i gyrchu'r deryn yn ôl, dywedodd Tunnicliffe ei fod wedi cario allan hen arferiad cefn gwlad ei gartref yn Sir Amwythig i geisio penderfynu rhyw y deryn bach. Defnyddiwyd nodwydd ddur gyffredin a'i hongian wrth edau dros y deryn. Dywedodd bod modd penderfynu drwy symudiadau'r nodwydd - "Fel hyn," meddai'r artist, "y byddai teuluoedd ffermydd o gwmpas fy nghartref yn penderfynu p'run ai ceiliog ynte iar fyddai'r cyw yn yr wy."

Y Bras Bach yw'r lleiaf o'r holl dylwyth, yn mesur rhyw 13 cm. Mae ei liwiau o frown a du yn ei wneud yn anodd i'w weld a gellir yn hawdd fethu a gwahaniaethu rhyngddo a Bras y Cyrs (Reed Bunting).

Bu'r aderyn fyw am yn agos i ddwy flynedd mewn adardy yng nghwmni rhai adar eraill. Yr ydym yn ffodus iawn ym Môn fod y Cyngor Sir wedi cynhyrchu llyfr rhyfeddol gyda'r teitl Adar Mon gan Peter Hope Jones a Paul Whalley - llyfr dwyieithog gwerth chweil yn llawn o ffeithiau adaryddol.

Cafwyd y Bras Bach hwn yn Llanddeusant, ynghyd ag un record arall ar Ynys y Moelrhoniaid ar 25 Medi 1961.[3][4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Peter Hope Jones a Paul Whalley (19XX); Adar Mon, cyh. Cyngor Sir Môn"
  4. Wil Evans, papur bro Y Glorian (2010) ac a ail-argraffwyd ym Mwletin Llên Natur rhif 26 [1]
  Safonwyd yr enw Bras bychan gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.