Bryn Mawr (bryngaer)

Mae Bryn Mawr yn safle fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Llandysilio, Powys, Powys, Cymru; cyfeirnod OS: SJ251190.

Bryn Mawr (bryngaer)
Bryn Mawr from The Montgomery Canal - geograph.org.uk - 571453.jpg
Math caer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.764°N 3.1113°W Edit this on Wikidata
Cod OS SJ25111907 Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw MG158 Edit this on Wikidata

DisgrifiadGolygu

Saif y gaer ar ben Bryn Mawr, ger Camlas Trefaldwyn yng nghymuned Llandysilio. Gorchuddir pen y bryn gyda choed trwchus erbyn hyn.

CefndirGolygu

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG158.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Cofrestr Cadw.
  2. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  3. Gwefan y BBC
  4. Gwefan CPAT