Camlas Trefaldwyn

Prif fasnach Camlas Trefaldwyn (Saesneg: Montgomery Canal) oedd calchfaen a choed; fe'i lleolir ym Mhowys a gogledd-orllewin Swydd Amwythig. Arferid galw'r gamlas ar lafar gwlad yn "The Monty". Yn wreiddiol, rhoddwyd yr enw ‘Camlas Trefaldwyn’ i’r gamlas rhwng Llanymynech a’r Drenewydd. Roedd dwy gangen, yr Orllewinol a’r Ddwyreiniol, yn cyfarfod yn Ngarthmyl. Roedd cysylltiad i’r Gamlas Ellesmere lle adeiladwyd lociau Carreghofa. Daeth y darnau gwahanol yn rhan o rwydwaith y Gamlas Swydd Amwythig; Camlas Ellesmere ym 1846, y gangen ddwyreiniol ym 1847 a’r gangen orllewinol ym 1850.

Camlas Trefaldwyn
Montgomery Canal sign.jpg
MathCamlas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.821°N 3°W Edit this on Wikidata
Hyd33 milltir Edit this on Wikidata
Frankton
Ynghanol Lociau Frankton

Caewyd y gamlas ym 1944 ond cafodd ei hadnewyddu'n rhannol rai blynyddoedd yn ôl. Atgyfodwyd y rhwydwaith o gamlesi dros Brydain tuag at ddiwedd y 20fed ganrif, ac erbyn hyn, adnabyddir canghenni gorllewinol a dwyreiniol y gamlas Sir Drefaldwyn a changen Llanymynech Camlas Ellesmere fel Camlas Trefaldwyn, er nad aethant at y dref. Ar hyn o bryd cysylltwyd ond 7 milltir rhwng Cyffordd Frankton a Chei Gronwen i rwydwaith cenedlaethol y camlesi. Mae rhannau eraill ger Llanymynech a’r Trallwng ar gael i gychod, ond heb gysylltiad i weddill y gamlas.

HanesGolygu

 
Maesbury Marsh
 
Cofeb i Graham Palmer, creuwr y Waterway Recovery Group, yn ymyl loc Graham Palmer ar gamlas Trefaldwyn

Pwrpas y gamlas oedd cludo calch er mwyn cyfoethogi tir amaethyddol dyffryn Hafren.[1] Cynllun gwreiddiol ym 1792 oedd camlas o Lanymynech, lle buasai cangen Llanymynech o Gamlas Ellesmere, hyd at Y Trallwng. Erbyn 1793 oedd penderfyniad i fynd ymlaen at y Drenewydd.[2] Pasiwyd deddf ym 1794. Roedd gan gwmni’r gamlas hawl i godi £72,000 gan werthu cyfrandaliadau, ac hefyd £20,000 arall os oedd angen.[3] Apoyntiwyd John Dadford yn beiriannydd was appointed[4] a daeth ei frawd Thomas Dadford yr ifancach yn gynorthwyydd iddo fo. Roedd awgrymiadau ym 1793 i adeiladu camlas 40.25 milltir o hyd rhwng Garthmyl a Chamlas Llanllieni, ond digwyddodd dim byd.[5]

Cwblhawyd rhannau’r gamlas erbyn Chwefror 1796, a lansiwyd cwch, y Royal Montgomery ger Y Trallwng. Agorwyd cysylltiad i’r Camlas Ellesmere yng Ngorffennaf 1797 er oedd rhyw golled o ddŵr. Cyrhaeddodd y gamlas Garthmyl[6]. Roedd y gamlas 16 milltir o hyd, ond heb gyrraedd y Drenewydd eto.

Ymddiswyddodd John Dadford ym 1797 i weithio yn America, a chafodd ei dad, Thomas Dadford, ei swydd. Roedd £71,000 wedi cael ei wario i gyrraedd Garthmyl; roedd gan y gamlas 13 loc a changen, 2.25 milltir o hyd, i Gegidfa.[7]

Cododd traffig ar y gamlas; roedd chwareli Calchfaen ger Llanymynech ac odynau ym Mhelan, ac roedd galw am galch i gyfoethogi tir y bryniau. Daeth glo i’r odynau, ac hefyd pren, cerrig a llechi ar gyfer y dywidiant adeiladu. Talwyd rhandaliadau yn rheolaidd. Codwyd maint o galchfaen wedi’i gario o 14,082 tunnell ym 1806 i 44,592 tunnell ym 1814; cododd main o lo o 6,757 i 11,560 tunnell dros yr un cyfnod.[8]

Estyniad gorllewinolGolygu

Oherwydd diffyg pres, Garthmyl oedd terminus y gamlas am 20 mlynedd[9] ond erbyn 1812 roedd y Drenewydd wedi tyfu ac roedd galwad i estyn i’r de, fel camlas rhwng Garthmyl a’r Drenewydd neu gamlas at Brynderwen a thramffordd ymlaen i’r Drenewydd. Cytunodd y rhandaliadwyr i fynd ymlaen, a gofywyd Josias Jessop i baratoi cynllun. Dywedodd o y basai’r cost £28,268. Ar ôl sawl cyfarfod anodd, penderfynwyd ar 3 Chwefror 1815, buasai cwmni newydd yn adeiladu’r darn newydd.[10] ‘Cangen Ddwyreiniol’ buasai’r hen gwmni, a Changen Orllewinol buasai’r un newydd. Buasai elwau dros 5% gan y gangen ddwyreiniol yn mynd at gwblhau’r un orllewinol,[11] yn ôl deddf 1815, sy hefyd wedi caniatau cyfrandaliadau o £40,000 i gwblhau’r gamlas.[12] John Williams oedd y brif beirianydd, yn defnyddio cynllun Jessop. Cwblhawyd y gamlas ym Mawrth 1819. Aeth y gamlas i lawr twry 6 loc o’r Drenewydd, yn derbyn dŵr o Afon Hafren.[13] Roedd deddf arall ar 23 Mehefin 1821 i gwblhau Cangen Cegidfa. Gwariwyd £53,390 i adeiladu’r gangen orllewinol. Roedd y cwmni wedi benthyg £6,000 oddi wrth Comisiynwyr Benthycion y Trysorlys a’r gweddill oddi wrth eraill, y mwyafrif oddi wrth William Pugh. Nid oedd digon o elw i dalu llog ar y benthycion, yn achosi dadl fawr. Cytunwyd y dylai George Buck, peiriannydd i’r gangen ddwyreiniol, ddod yn beirianydd i’r gangen orllewinol yn Rhagfyr 1832.[14] Gadawodd Buck yn Nhachwedd 1833 i weithio gyda Robert Stephenson ar reilffyrdd. Talodd Pugh dyledion fwyafrif y credydwyr, a derbynodd mortgais o £25,000 a £13.000 mewn cyfrandaliadau. Trefnodd o ddeddf i godi tollau’r gamlas.

Shropshire UnionGolygu

Roedd y gangen ddwyreiniol yn llwyddiannus, oherwydd y diffyg o reilffyrd yn yr ardal. Roedd gan y gangen orllwinol broblemau oherwydd y diffyg o nwyddau’n mynd yn ogleddol o’r Drenewydd.[15] Daeth cystaleuaeth o’r rheilffyrdd yn ystod y 1840au, ac roedd cynlluniau i newid camlesi i fod yn reilffyrdd. Ond cynigodd Cwmni y Gamlas Ellesmere a Chaer £110 fesul cyfrandaliad y Gamlas Trefaldwyn. Cafodd Camlas Ellesmere a Chaer deddf i fod Camlas y Shropshire Union a chymryd drosodd sawl camlas arall, gan gynnwys cangenni dwyreiniol a gorllewinol y Gamlas Trefaldwyn. Daeth y gangen ddwyreiniol yn rhan o’r Shropshire Union ar 1 Ionawr 1847, yn costio £78,210. Daeth y gangen orllwinol yr rhan o’r Shropshire Union ar 5 Chwefror 1850, yn costio £42,000.[16] Roedd Camlas y Shropshire Union wedi cynnal trafodaethau gyda sawl cwmni rheilffordd, ond ar 1 Ionawr 1846, daethant i gyd ond un cwmni; Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin. Roedd gan y gamlas bwerau i adeiladu rheilffyrdd, felly roedd hi’n fwgwth i’r rheilffordd. Llogwyd y gamlas gan y rheilffordd gyda deddf y llywodraeth ym Mehefin 1847. Roedd y camlas yn rhydd i hybu’r camlesi ond nid i adeiladu rheilffyrdd.[17] Gofynnodd y Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin am bwerau i adeiladu rheilffordd rhwng Amwythig, y Drenewydd, y Trallwng a Chroesoswallt, ond wedi trafodaethau adeiladwyd y Rheilffordd Croesoswallt a’r Drenewydd gan Rheilffordd y Great Western. Cwblhawyd y gwaith ar 10 Mehefin 1861. Roedd rhai o gyfrandalwyr Camlas Trefaldwyn yn siomedig bod y gamlas ddim wedi dod yn rheilffordd.[18]

DirywiadGolygu

Er oedd gan gamlas y Shropshire Union ryddhad i redeg y camlesi, nad oeddent mor rhydd i ddewis y nwyddau, a nid oedd cymaint o elw o’r camlesi. Ystyriadwyd cau’r gamlas o Weston. Ystyriwyd cau‘r hen gamlas Trefaldwyn i gyd ym 1887, ond roedd elw o hyd.[19] Roedd toriad yng Ngamlas Weston ym Mai 1917, ac roedd hi’n rhy ddrud i’w trwsio, yn costio £14,000, felly caewyd y darn yno.[20].

Daeth y Shropshire Union yn rhan o Reilffordd Llundain a’r Gogledd-Orllewyn ym 1922 A wedyn yn rhan o Reilffordd Llundain, Canolbarth a’r Alban ym 1923

Roedd colled arall o ddŵr ar 2 Chwefror 1936. Erbyn 1944, cafodd Rheilfordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban deddf i gau’r holl gamlas o Cyffordd Frankton i’r De,[21] fel rhan o 175 milltir o gamlas.[22] Rhoddwyd hawl i iselhau pontydd gan y deddf.

Gwladolwyd y rheilffyrdd a chamlesi gan Deddf Trafnidiaeth 1947, ac felly daeth Camlas Trefaldwyn o dan reolaeth y Comisiwn Trafnidiaeth Prydeinig ym 1948, ac i Ddyfrffyrdd Prydeinig ym 1963 ar ôl Deddf Trafnidiaeth 1962. Crewyd 3 chategori o ddyfrffordd gan Ddeddf Trafnidiaeth 1968, a daeth Camlas Trefaldwyn yn Ddyfrffordd Gweddillol. Gwerthwyd y 2 filltir olaf i’r Drenewydd.[23].

AdferiadGolygu

Ers 1969 mae gwaith adfer wedi mynd ymlaen ger Y Trallwng i greu camlas fordwyol. Mae problemau lle mae’r gamlas wedi cael ei llenwi, ac lle mae ffyrdd ar ei draws. a phontydd iselhawyd. Mae pen deheuol y gamlas o loc Freestone i’r Drenewydd yn sych, a nad yw eiddo’r Ymddiriedolaeth Camlas ac Afon.

Ffurfiwyd Pwyllgor i wrthsefyll cynllun i droi’r gamlas yn ffordd ysgoi trwy’r Trallwng. Trefnwyd ‘Big Dig’ i glirio rhan y gamlas.[24]Roedd Cymdeithas Camlas Shropshire Union wedi dechrau Ymdrech dros atgyweirio’r gamlas; aethant i gyfarfodydd cyngor ac ymwelodd a rhan arall y gamlas, lle mae aelodau wedi ailddechrau gwaith atgyweirio, a chytunodd i ddechrau gwaith rhwng loc y Trallwng a Lôn y Felin, er gwrthwynebiad oddi ar Dyfrffyrdd Prydeinig.[25].Gwrthododd Cyngor Bwrdeistref y Trallwng ganiatâd i roi gwastraff ar eu tomen, ond rhododd ffermwr lleol ei dir. Dechreuodd gwaith ar 18/19 Hydref 1969 gyda dros 200 o wirfoddolwyr. Er rhybuddion gan Dyfrffyrdd Prydeinig, draeniwyd y gamlas. Cliriwyd y gamlas a rhoddwyd dŵr yn ôl, ac aeth cwch arni.[26].

Ar 20 Awst 1971 cyhoeddodd Cyngor Adnoddau’r Dyffrffyrdd Mewndirol addroddiad yn cynnwys atgyweiriad cyflawn Camlas Trefaldwyn, ymysg awgrymiadau eraill.[27] Cyhoeddodd Tywysog Siarl, trwy ei pwyllgor yn Ty’r Arglwyddau, cynllun i atgyweirio 7 milltir ym mis Hydref 1973.Buasai Cymdeithas y Camlas Shropshire Union. Roedd cefnogaeth o Glwb Fariety Prydain Fawr, er mwyn iddynt defnyddio’r camlas ar sail plant gyda anableddau.[28]Agorodd y Tywysog Loc Y Trallwng ar 23 Mai 1974.[29]

Y rhan agored gogleddolGolygu

Lociau'r gamlasGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield;cyhoeddwyr David & Charles, 1985;isbn:978-0-7153-8644-6
  2. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield;cyhoeddwyr David & Charles, 1985;isbn:978-0-7153-8644-6
  3. Gwefan www.jim-shead.com
  4. Gwefan www.jim-shead.com
  5. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield;cyhoeddwyr David & Charles, 1985;isbn:978-0-7153-8644-6
  6. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield;cyhoeddwyr David & Charles, 1985;isbn:978-0-7153-8644-6
  7. The Canals of The West Midlands gan Charles Hadfield, 1985; Cyhoeddwye David & Charles, isbn=978-0-7153-8644-6
  8. The Canals of The West Midlands gan Charles Hadfield, 1985; Cyhoeddwye David & Charles, isbn=978-0-7153-8644-6
  9. ‘Historical Account of the Navigable Rivers, Canals, and Railways, of Great Britain’ gan Joseph Priestley, 1831; cyhoeddwyr Longman, Rees, Orme, Brown a Green
  10. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6
  11. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6
  12. ‘Historical Account of the Navigable Rivers, Canals, and Railways, of Great Britain’ gan Joseph Priestley, 1831; cyhoeddwyr Longman, Rees, Orme, Brown a Green
  13. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6
  14. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6
  15. Hadfield 1985, tt. 195-196.
  16. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6
  17. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6 tud 234-235
  18. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6 tud 238
  19. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6 tud 242
  20. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6 tud 250-251
  21. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6 tud 250
  22. ’The Canals of The West Midlands’ gan Charles Hadfield, 1985; cyhoeddwyr David a Charles; isbn=978-0-7153-8644-6 tud 251
  23. 'The Montgomery Canal and its Restoration' gan Harry Arnold,2003. Cyhoeddwyr Tempus. ISBN 978-0-7524-1660-1
  24. ’Britain's restored canals’ gan Roger Squires; cyhoeddwyr Landmark, 2008; isbn=978-1-84306-331-5 tud. 69-70
  25. 'The Montgomery Canal and its Restoration' gan Harry Arnold,2003. Cyhoeddwyr Tempus. ISBN 978-0-7524-1660-1
  26. 'The Montgomery Canal and its Restoration' gan Harry Arnold,2003. Cyhoeddwyr Tempus. ISBN 978-0-7524-1660-1
  27. ’Britain's restored canals’ gan Roger Squires; cyhoeddwyr Landmark, 2008; isbn=978-1-84306-331-5
  28. ’Britain's restored canals’ gan Roger Squires; cyhoeddwyr Landmark, 2008; isbn=978-1-84306-331-5
  29. ’Britain's restored canals’ gan Roger Squires; cyhoeddwyr Landmark, 2008; isbn=978-1-84306-331-5

Gweler hefydGolygu

Dolenni allanolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.