Brynmenyn

pentref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pentref ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Brynmenyn. Saif wrth gymer Afon Garw ac Afon Ogwr yn y Cymoedd tua 4 milltir i'r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr ei hun.

Brynmenyn
Brynmenyn Station 1930549.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.55°N 3.57°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS89513 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSarah Murphy (Llafur)
AS/auJamie Wallis (Ceidwadwyr)
Map

Rhed ffordd yr A4065 trwy'r pentref; i'r gorllewin mae'n arwain i gyfeiriad Tondu, ac i'r dwyrain i gyfeiriad Abergarw a Bryncethin. Mae'r A4064 yn cychwyn o'r pentref ac yn dringo dros y mynydd i Llangeinor.

Canŵio ar Afon Ogwr, Brynmelyn.

Ceir Ysgol Gynradd Brymenyn i wasanaeth'r pentref.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[2][3]

CyfeiriadauGolygu

  1. "Gwefan yr ysgol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-23. Cyrchwyd 2009-08-25.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014


  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato