Trelales

pentref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Trelales[1] (Saesneg: Laleston). Saif yng ngorllewin y sir, ar y briffordd A473, ac roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 8,475. Heblaw pentref Trelales, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Bryntirion, Brynhyfryd (rhan), Broadlands, Cefn Glas (rhan) a Llangewydd Court.

Trelales
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,586 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,024.02 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5048°N 3.6226°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000637 Edit this on Wikidata
Cod OSSS874796 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSarah Murphy (Llafur)
AS/auJamie Wallis (Ceidwadwyr)
Map

Yn Eglwys Dewi Sant, Trelales, ceir nodweddion pensaernïol a allai ddyddio i'r 13g. Daw enw'r pentref o enw teulu Normanaidd Lales.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[3]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trelales (pob oed) (12,586)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trelales) (1,300)
  
10.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trelales) (9907)
  
78.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trelales) (1,408)
  
28.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]