Drenewydd yn Notais
Pentref bychan yng nghymuned Porthcawl, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw'r Drenewydd yn Notais (Saesneg: Newton).[1] Fe'i lleolir ar gyrion dwyreiniol tref Porthcawl, tua 5 milltir i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr. 'Notais' yw'r hen enw am ardal Porthcawl; fe'i ceir o hyd yn enw pentref Notais, ar bwys Porthcawl.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.483625°N 3.683511°W |
Cod OS | SS812783 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au y DU | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
Sefydlwyd eglwys yn y Drenewydd dros 800 mlynedd yn ôl gan aelodau o Urdd Marchogion Sant Ioan.
I'r de-ddwyrain o'r pentref ceir Traeth Drenewydd yn Notais, sy'n ymestyn am bron i 3 milltir i aber Afon Ogwr. Rhwng y Drenewydd a phentref Merthyr Mawr, i'r gogledd, ceir ardal o dwynni tywod sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dyma weddillion cadwyn o dwynni anferth a ymestynnai o lan afon Ogwr hyd at y Mwmbwls ar benrhyn Gŵyr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 3 Gorffennaf 2023
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Drenewydd yn Notais Archifwyd 2008-12-07 yn y Peiriant Wayback ar wefan BBC Cymru.
Trefi
Maesteg · Pen-coed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pontycymer · Porthcawl
Pentrefi
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bracla · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefncribwr · Cwmogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Gogledd Corneli · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynyddcynffig · Nant-y-moel · Notais · Pen-y-fai · Y Pîl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre