Buddug Verona James
Mae Buddug Verona James (ganwyd 1957) yn gantores opera mezzo-soprano o Gymraes a astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, Stiwdio Opera Cenedlaethol ac yn Rhufain. Fe'i ganwyd yn Aberteifi, Cymru.
Buddug Verona James | |
---|---|
Ganwyd | 1957 ![]() Aberteifi ![]() |
Galwedigaeth | canwr opera ![]() |
Gyrfa golygu
Ymysg ei rhannau operatig, mae James wedi perfformio Orfeo Christoph Willibald Gluck yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghanada, Dardano yn Amadigi Georg Friedrich Händel yn Ninas Efrog Newydd ac yn Ewrop, yn o gystal a Cherubino yn Le nozze di Figaro Wolfgang Amadeus Mozart yn Tokyo a Toronto.
Mae hi wedi gweithio gyda Opera yr Iseldiroedd, Opera Cleaveland (UDA), Glyndebourne, Opera Almeida, Cwmni Theatr Opera, Opera Gogledd Iwerddon, Opera'r Gogledd, Opera Atelier, Opera Syrcas, English Pocket Opera, Opera 80, Grwp Opera Handel Caergrawnt, Operavox Cartoons, Cwmni Dawns Siobhan Davies, Theatr Cerddoriaeth Cymru a Opera Canolbarth Cymru.
Ar ei gwefan, mae James yn disgrifio ei hun fe "Opera Singer, Actress and Butcher", oherwydd cyn iddi dilyn ei hastudiaethau, gweithiodd yn un o siopau cigydd ei thad yn Aberteifi ac enillodd wobr am ei chrefftwaith yn Sioe Frenhinol Cymru ym 1978.
Roedd ei pherfformiadau cyntaf yn operau gan Gerald Barry, Jonathon Dove, Deirdre Gribbin, Wolfgang Rihm a John Woolrich.
Mae James wedi cymryd rhan mewn sawl darn actio ar gyfer y BBC, HTV a S4C ac yn ddiweddar, perfformiwyd rhan Lady Capulet yn Romeo a Juliet i Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae hi'n aelod o'r staff proffesiynol yn yr adran astudiaethau llais ac opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) Mae hi hefyd wedi cyfeirio The Pirates of Penzance, Ruddigore, Acis and Galatea,Dido and Aeneas,Orpheus in the Underworld a Hercules i CBCDC.
Yn 2001 perfformiodd James a'i pherthnasau yn Stadiwm y Mileniwm fel adloniant cyn gem undeb rygbi rhwng Cymru a Iwerddon.
Bywyd personol golygu
Mae'n briod a Michael Carey, sy'n rhedeg fferm Coedwynog ger Aberteifi.[1]
Catalog recordiau golygu
Ymddangosir ar:
Gwobrau golygu
- Welsh Singers Competition 1986
- Yn 2001 James anrhydeddwyd gyda'r Wisg Wen o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Why the goose is getting... serenaded , WalesOnline, 22 Tachwedd 2005. Cyrchwyd ar 21 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Castradïva". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-15. Cyrchwyd 2017-07-19.
- ↑ "Songs of the People". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-14. Cyrchwyd 2017-07-19.
- ↑ Songs and Concertos[dolen marw]
- ↑ "The James Sisters Sing Gospel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-18. Cyrchwyd 2017-07-19.