Plovdiv
Ail ddinas fwyaf Bwlgaria ar ôl Sofia yw Plovdiv (Bwlgareg Пловдив, Groeg Philippopolis / Φιλιππούπολη). Poblogaeth y ddinas yw tua 380,135 [1], a phoblogaeth rhanbarth Plovdiv yw 715,816 (Cyfrifiad 2001).
![]() | |
![]() | |
Math |
ail ddinas fwyaf, dinas fawr, municipality seat, oblast seat, dinas ym Mwlgaria ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
384,088 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Iwan Totew ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Bwrdeistref Plovdiv ![]() |
Gwlad |
Bwlgaria ![]() |
Arwynebedd |
101.98 km² ![]() |
Uwch y môr |
164 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Maritsa ![]() |
Cyfesurynnau |
42.1433°N 24.7489°E ![]() |
Cod post |
4000 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Iwan Totew ![]() |
![]() | |

Mae pobl yn byw ar safle presennol Plovdiv ers 8000 o flynyddoedd. Yn 342 CC, goresgynwyd y ddinas gan Philip II o Facedon, a'i gwnaeth yn brifddinas ei deyrnas gan ei hailenwi ar ôl ei hun yn Philippopolis (dinas Philip). Roedd Plovdiv, o dan ei enw Rhufeinig Trimontium (dinas y tri bryn), yn ddinas bwysig yng nghyfnod y Rhufeiniaid ac yn brifddinas i'r rhanbarth Rhufeinig Thracia. Yn y 1970au darganfuwyd amffitheatr Rufeinig odidog yno.
Bellach, Plovdiv yw canolfan weinyddol Rhanbarth Plovdiv yn ne Bwlgaria a thair bwrdeisdref (Plovdiv, Maritsa a Rodopi) ac ardal gynllunio Yuzhen tsentralen Bwlgaria. Mae'r ddinas yn bwysig o safbwynt economaidd, trafnidiaeth, diwylliannol ac addysgiadol. Mae Plovdiv hefyd yn cynnal digwyddiadau economaidd a diwylliannol fel Ffair Rhyngwladol Plovdiv, yr ŵyl theatrig rhyngwladol "A scene on a crossroad", a gŵyl deledu "The golden chest".
Lleolir Plovdiv yn rhan ddeheuol o Wastadir Plovdiv ar ddwy lan yr Afon Maritsa. Yn hanesyddol, mae'r ddinas wedi'i datblygu ar saith bryn syenit, gyda rhai ohonynt yn 250 m o uchder. Oherwydd y bryniau uchel hyn, weithiau cyfeirir at Plovdiv ym Mwlgaria fel "Dinas y Saith Bryn".
OrielGolygu
GefeilldrefiGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ [General Directorate of Citizens' Registration and Administrative Services: Siart Poblogaeth ar gyfer Dinas Plovdiv, Bwlgaria ar 15 Awst, 2009. Adalwyd ar 2009-08-16