Bwlch y Ddeufaen

(Ailgyfeiriad o Bwlch-y-Ddeufaen)

Mae Bwlch y Ddeufaen yn fwlch ychydig i'r gorllewin o Rowen yn sir Conwy. Roedd y bwlch yma o bwysigrwydd mawr yn yr hen amser, oherwydd mai trwy'r bwlch yma yr oedd yr hen ffordd tua'r gorllewin yn arwain, yn hytrach nag ar hyd yr arfordir lle roedd aber Afon Conwy a chreigiau'r Penmaenmawr a Phenmaen Bach yn rhwystrau. Daw'r enw o ddau faen hir wedi eu gosod bob ochr i'r ffordd, un 3 medr o uchder a'r llall 2 m.

Bwlch y Ddeufaen
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.228°N 3.928°W Edit this on Wikidata
Map
Meini hirion bob ochr i'r hen ffordd, Bwlch y Ddeufaen

Hanes a henebion

golygu

Roedd yr hen ffordd Rufeinig rhwng Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon) yn arwain trwy'r bwlch, a gellir gweld yr olion yn glir mewn rhai mannau. Fodd bynnag, roedd tramwyfa bwysig trwy'r bwlch ymhell cyn i'r Rhufeiniaid adeiladu eu ffordd hwy, a gellir gweld llawer o olion o Oes yr Efydd bob ochr i'r ffordd, yn ogystal â siambr gladdu Maen y Bardd o'r cyfnod Neolithig ychydig i'r dwyrain o'r bwlch. Ceir cylch cerrig yma yn ogystal ynghyd â hen garnedd Barclodiad y Gawres.

Mynediad

golygu

Mae'r bwlch ar dir comin. Gellir cyrraedd yma o Rowen, trwy ddilyn y ffordd uwchben Rowen tua'r gorllewin hyd y man parcio ym mhen draw'r ffordd, neu o Abergwyngregyn neu Lanfairfechan.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)