Barclodiad y Gawres, Caerhun

carnedd gron sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig

Carnedd gron sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd ydy Barclodiad y Gawres, yng nghymuned Caerhun, Sir Conwy; cyfeiriad grid SH717716. Ei phwrpas, mae'n debyg, oedd bod yn rhan o seremoniau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu'r meirw. Ni ddylid cymysgu'r garnedd gron gyda'r garnedd gylchog sy'n fath cwbwl wahanol i garnedd. Saif y garnedd ger Bwlch-y-ddeufaen wrth ymyl yr hen ffordd gynhanesyddol a Rhufeinig sy'n cysylltu Dyffryn Conwy ac Abergwyngregyn.

Barclodiad y Gawres, Caerhun
Mathcarnedd gron Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerhun Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.225902°N 3.923325°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN131 Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN131.[1]

Gweler hefyd golygu

Chwedl golygu

Yn ôl y chwedl, sy'n perthyn i ddosbarth arbennig o chwedlau am gawresi, roedd cawr a chawres ar eu ffordd i Fôn am eu bod wedi clywed bod tir ffrwythlon yno. Roedd gan y wraig lwyth o gerrig yn ei ffedog (barclod). Wrth iddynt nesu at ben Bwlch-y-Ddeufaen roeddent yn dechrau blino. Gofynnont i ddyn a ddaethai o Fôn a oedd y ffordd i'r ynys yn bell? Atebodd ei bod yn bell iawn a'i fod wedi treulio ei sgidiau newydd yn llwyr wrth gerdded oddi yno, a dangosodd ei hen sgidiau llarpiog i brofi hynny. Digalonodd y cewri. Gollyngodd y gawres y cerrig o'i ffedog a'u gadael yn bentwr (barclodiad: 'ffedogiad') ar y llawr a dyna pam y'i gelwir yn "Farclodiad y Gawres" heddiw.[2]

Gweler hefyd golygu

Mae 'Barclodiad y Gawres' yn enw ar rai henebion cynhanesyddol eraill yng Nghymru, yn cynnwys:

Cyfeiriadau golygu