Bwrdd y Tri Arglwydd

arwydd terfyn rhestredig Gradd II yng Nghorwen

Rhwng Bryneglwys a Chorwen, Sir Ddinbych, ceir swp o gerrig hynafol a elwir yn Fwrdd y Tri Arglwydd neu Carreg Glyn Dŵr[1] (Cyfeirnod grid OS: SJ10454682). Yn ôl traddodiad, mae'r cerrig hyn yn nodi'r ffin ganoloesol rhwng Arglwyddiaeth Dinbych, ym meddiant Reginald de Grey, a chwmwd Cynllaith Owain, ym meddiant Owain Glyn Dŵr (Glyndyfrdwy, Rhug a Iâl). Roedd hefyd yn nodi'r pwynt ble roedd pedwar plwyf yn cyfarfod - Llanelidan, Bryneglwys, Gwyddelwern a Llansanffraid Glyndyfrdwy ac am gyfnod yn sefyll ar y ffin rhwng yr hen Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd[1]

Bwrdd y Tri Arglwydd
Enghraifft o'r canlynolheneb, arwydd terfyn, cromlech Edit this on Wikidata
LleoliadCorwen, Bryneglwys Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCorwen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ceir plac ar y cerrig sy'n cofnodi'r hanes, yn uniaith Saesneg, fel y ganlyn:

Bwrdd y Tri Arglwydd

This Ancient Boundary Stone
marks the meeting point of four parishes
and of the Lordships of
RUTHIN, GLYNDYFRDWY and YALE

Hyd at canol yr 20g gellid gweld y llythrennau "G", "R" a "Y" wedi'u cerfio ar y garreg. Bellach, dim ond y lythyren "R" (Rhug) ellir ei weld (gweler y ffotograff isod), a hwnnw'n wynebu cyfeiriad yr ystâd hwnnw.

Ychydig lathenni o'r garreg ceir cerrig eraill - olion hen siambr gladdu neolithig.[2] Cofrestrwyd y cerrig gan Cadw fel Adeilad Rhestredig Gradd II.[3] Credir fod yma dair carreg fawr ar eu sefyll a chlamp o faen llorweddol fel to arnynt, sef yr hyn sy'n cael ei alw'n "trybedd".

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Frank Price Jones (1969). Crwydro Gorllewin Dinbych. Llyfrau'r Dryw. t. 49.
  2. Gwefan Coflein; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Ebrill 2014
  3. Gwefan British Listed Buildings; adalwyd 28 Ebrill 2014