Cân y Cathreinwr

(Ailgyfeiriad o Cân y Cythreiniwr)

Cân werin draddodiadol yn nhafodiaith Bro Morgannwg yw Cân y Cathreinwr.[1] Un sy'n gyrru'r ychen, neu'r wedd ychen wrth aredig yw 'cathreiniwr'. Ceir fersiwn ohoni a recordiwyd gan Sain Ffagan yn 1953: recordiad o Robert Thomas (ffermwr, g. 1865), o "Rock House", Twynyrodyn, ger Gwenfô, Sir Forgannwg, yn nhafodiaith Bro Morgannwg.

Peintiad o wedd o ychen yn Nevers, Ffrainc, gan Rosa Bonheur (1849). Musée d'Orsay, Paris
Aredig gyda cheffylau tua 1885 yng Nghymru. Byddai Robert Thomas y canwr yn ugain oed pan dynnwyd y llun.

Ers canrifoedd bu pobl yn galw anifeiliaid gyda galwad arbennig, ac mae ffermwyr yn dal i wneud hynny. Yn y gân hon, ceir galwad yr ychen i weithio. Cofnodwyd amryw enghreifftiau o'r penillion (ynghyd ag sawl alaw) a genid i'r wedd ychen yn y de. Ym Morgannwg y parhaodd yr arfer o aredig ag ychen hwyaf yng Nghymru - hyd at 1880.

Ar fesur triban y mae'r rhan fwyaf o'r caneuon ychen, fel hon, a gofnodwyd ym Morgannwg. Ceir llawer o dribannau serch a thribannau trioedd. Mae'n nhw'n nodweddiadol iawn yn eu cynildeb a'u harabedd (hiwmor). Unedau hunan–gynhaliol yw'r rhan fwyaf o'r penillion wedi'u cyplysu at ei gilydd yn un gyfres.

Ffeil sain o recordiad a wnaed ym Medi 1953 golygu

Recordiwyd ar ffurf tâp gan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ym Medi 1953 gan Robert Thomas (ffermwr, g. 1865), Rock House, Twynyrodyn, ger Gwenfô, sir Forgannwg. Ac yntau ond 13 oed dysgodd RT ganu'r tribannau hyn a'u bath wrth helpu i gathrain (sef gyrru neu symbylu) ychen a oedd yn aredig ar fferm Doghill yn Nyffryn Golych, ger Sain Nicolas.

Yn aml, amherffaith ac anghyson oedd ieithwedd y gân hon fel y'i recordiwyd, a cheisiwyd unioni ar bethau wrth ei darparu ar gyfer ei chyhoeddi.

Y geiriau golygu

Mi geso i 'ngwadd i swpar
Gan ŵr bonheddig, hawddgar
A chal nidir wedi'i lladd
A phetar gwadd a wiwar! Ma–hw!

Mi geso i 'ngwadd i gino
A chal pinclwns wedi'u stiwo,
Bara haidd fel rhisgil coed;
Ni cheso i 'rioed well greso! Ma–hw!

Tri pheth sy dda gin grotyn
Yw gwraig y tŷ yn werthin
A'r crochon bach yn berwi'n ffrwd
A llond y cwd o bwdin. Ma–hw!

Tri pheth sy’n gas a lletwith
Yw hwch â iwc mewn gwenith,
Atgor gwan yn torri ton
A phac o gryddion llaw–with! Ma–hw!

Tri pheth an-hawdd eu 'napod:
Dyn, derwan a diwarnod;
Y pren yn gou a'r dydd yn troi
A dyn yn ddouwynepog. Ma–hw!

Y gân golygu

 

Mae geirfa'r gân hon yn nhafodiaith Bro Morgannwg. Ers canrifoedd bu defnyddio caniadau neu alwadau o ryw fath i annog ychen i weithio. Cofnodwyd amryw enghreifftiau o'r penillion (ynghȳd â'r alaw ddiweddol) a genid i'r wedd ychen yn y deheudir. Yno – ac ym Morgannwg yn benodol – y parhaodd yr arfer o aredig ag ychen hwyaf yng Nghymru (hyd tuag 1880). Ar fesur triban y mae'r rhan fwyaf o'r caneuon ychen a gadwyd o Forgannwg. Ceir ymhlith y rhain lawer o dribannau serch a thribannau trioedd, i enwi ond dau ddosbarth, ac amlygir yn y goreuon gynildeb ac arabedd anghyffredin. Unedau hunan–gynhaliol yw'r mwyafrif o'r penillion hyn eithr peth arferol wrth ddilyn y wedd aredig oedd llinynnu nifer ohonynt ynghyd a'u canu yn un gyfres.

Geirdarddiad golygu

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru[3] ceir sawl fersiwn o'r gair, ac amrywiadau ac ystyron gwahanol:

  • cathreinwr neu cethrenwr - un sy'n gofalu neu'n gyrru'r ychen wrth aredig
  • cethr neu cethren (a'r berfau cathrain, cethru) - gwanu, tyllu, pigo a dweud y drefn, Fe'i cofnodwyd yn gyntaf yn Llyfr Aneirin (13g): ef rwygei. a chethrei. a chethrawr. Mae'n bosib mai benthyciad o'r Lladin (centrum)yw'r gair ac fe'i ceir yn y Llydaweg (kentr), Cernyweg (kentr), Hen Wyddeleg (cinteir). Mae'n bosib fod y gair wedi dod i gyfeirio at big y swch neu'r aradr.

Cydnabyddiaeth golygu

Daw'r recordiad a'r nodiadau uchod o wefan Sain Ffagan, gyda chaniatâd Beth Thomas, Curadydd.

Cyfeiriadau golygu