C.P.D. Glyn Ebwy

clwb pêl-droed Glyn Ebwy

Roedd Clwb Pêd-droed Glyn Ebwy (Ebbw Vale FC) yn dîm pêl-droed yn nhref Glyn Ebwy, Blaenau Gwent.

Glyn Ebwy / Ebbw Vale
Enw llawnEbbw Vale Football Club
LlysenwauThe Cowboys
Sefydlwyd1888, ail-sefydlwyd 1907
Daeth i ben1998
MaesParc Eugene Cross
Glyn Ebwy
(sy'n dal: 8,000)
Lliwiau Cartref

Hanes golygu

Chwaraeodd Glyn Ebwy yn nhymor hanesyddol gyntaf Cynghrair Genedlaethol Cymru (a enwir nawr yn Uwch Gynghrair Cymru) yn 1992–93. Gorffennodd y clwb yn 11eg y tymor hwnnw ond daethant yn 3ydd yn 1996-97 ac 1997-98. Roedd y brodyr David Giles (cyn chwaraer ryngwladol i Gymru) a Paul yn rhan anatod o'r llwyddiant hynny a'r Rheolwr oedd John Lewis.

Roedd y clwb yn chwarae ar faes Eugene Cross yn y dref.

Chwaraeodd y Clwb yn Ewrop sawl gwaith ond diarddelwyd hwy o'r Gynghrair cyn dechrau tymor 1998–99 gan ddod i ben fel busnes yn fuan wedyn. Eu gêm ddiwethaf oedd yn erbyn Kongsvinger o Norwy yng nghystadleuaeth 1998 Cwpan Intertoto UEFA.

Clwb Newydd golygu

Sefydlwyd Clwb newydd, C.P.D. Tref Glyn Ebwy (Glyn Ebbw Town FC) yn 2008 ond daeth hwnnw i ben yn haf 2018 oherwydd diffyg arian.[1] er cedwir cyfrif trydar @EbbwValeFC yn enw'r clwb.[2]

Gwobrau golygu

Southern Football League (Lloegr) golygu

Pencampwyr (1): 1922–23 Pencampwyr Rhan Cymru (2): 1921–22, 1922–23

Cynghrair Cymru (Y De) golygu

Pencampwyr (2): 1952–53, 1987–88

Cwpan Cymru golygu

Enillwyr (1): 1925–26

Cwpan Cynghrair Cymru golygu

Ail (1): 1996

Cwpan Cynghrair Cymru (Y De) golygu

Enillwyr (3): 1927, 1956, 1957 Ail (1): 1929

Aelodau Sefydlol o: Cynghrair Hŷn De Cymru (South Wales Senior League); Cynghrair Cwm Rhymni (Rhymney Valley League) ac Uwch Gynghrair Cymru

Record yn Ewrop golygu

Tymor Cystadleuaeth Rownd Gwrthwynebwyr Agregâd Cymal 1 Cymal 2
1997 Cwpan Intertoto UEFA Cymal Grŵp   Grazer AK 0:0 (C)
  NK Hrvatski Dragovoljac 0:4 (OC)
  SC Bastia 1:2 (C)
  Silkeborg IF 1:6 (OC)
1998 Cwpan Intertoto UEFA Rownd 1   Kongsvinger 1:9 1:6 (C) 0:3 (OC)

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/valleys-football-club-folded-criticised-14730115
  2. https://twitter.com/EbbwValeFC/status/1001453260102946817