Cadfarch

Sant Cymreig o'r 6g a nawddsant Penegoes (Powys) ac Abererch (Gwynedd).
Erthygl am y sant yw hon. Am y gymuned ym Mhowys gweler Cadfarch (cymuned).

Sant Cymreig oedd Cadfarch (bl. 6g). Mae'n nawddsant Penegoes (Powys) ac Abererch (Gwynedd).[1] Ei ddydd gŵyl yw 24 Hydref.[2]

Cadfarch
GanwydGogledd Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl24 Hydref Edit this on Wikidata
TadCaradog Freichfras Edit this on Wikidata
MamTegau Eurfron Edit this on Wikidata

Yn ôl yr achau, mab Caradog Freichfras oedd Cadfarch. Roedd Sant Cawrdaf yn frawd iddo. Dywedir iddo sefydlu clasau neu eglwysi ym Mhenegoes - a adnabyddid fel Llangadfarch yn y gorffennol. Cysylltir ef gydag Abererch ond mae'r cyfeiriad cyntaf ato'n enwi 'Aberech', sef Berach, a gysylltir gydag Aberdaron yn Llŷn (Arch.Camb., 86 (1931), t.166 n.34), Capel y Ferach yw Capel Anelog (WATU).

Ceir Ffynnon Gadfarch ger eglwys Penegoes a oedd yn dda at wella'r crudcymalau.[1]

Mab iddo oedd sant Elgud. Ni wyddys dim amdano.

Roedd Cadfarch yn un o'r "Saith Gefnder", sef Beuno, Cybi, Seiriol, Deiniol, Cawrdaf, Dewi a Chadfarch ei hun, a aeth ar bererindod i Rufain i weddïo am law ar ôl tair blynedd o sychder eithriadol. Bu'r daith yn llwyddiannus a dywedir i'r dafn cyntaf o law syrthio ar lyfr Sant Cadfarch.[3]

Rhai llefydd cysylltiedig golygu

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Aber-erch
 
52°54′07″N 4°23′10″W / 52.902°N 4.386°W / 52.902; -4.386 Gwynedd Q319538
2 Cadfarch
 
52°33′40″N 3°53′58″W / 52.561°N 3.89932°W / 52.561; -3.89932 Powys Q13126454
3 Eglwys Sant Cadfarch 52°35′33″N 3°49′03″W / 52.592561°N 3.8176125°W / 52.592561; -3.8176125 Cadfarch Q29506365
4 Penegoes
 
52°35′33″N 3°48′29″W / 52.5924°N 3.80797°W / 52.5924; -3.80797 Powys Q3404986
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 T. D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tud. 97.
  2. Seintiau Cymru; adalwyd 8 Ionawr 2017.
  3. Elissa R. Henken, The Welsh Saints.