Addasiad cwmni theatr Arad Goch o'r ddrama Caligula gan Albert Camus yw Cai. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan y cwmni ym 1990. Mae'r ddrama yn seiliedig ar hanes y cymeriad hanesyddol Caligula. Cafodd y ddrama wreiddiol ei chyfieithu gan Emyr Tudwal Jones a Prys Morgan ym 1975, a'i chyhoeddi fel rhan o'r Gyfres Dramâu'r Byd gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1978, o dan y teitl llawn Caligula. Ond aeth Arad Goch ati i'w haddasu'n sylweddol, ac felly ei hail-enwi yn Cai. [1]

Cai
Dyddiad cynharaf1990
AwdurAlbert Camus
GwladCymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaArad Goch
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
PwncCaligula
GenreDramâu Cymraeg

Disgrifiad byr

golygu

"Yn y ddrama, ceir hanes person - Ymerawdwr ifanc a'i freuddwyd am greu bywyd sydd uwchlaw moesau ffals a thraddodiadau pwdr y gymdeithas sydd o'i gwmpas. Ynddi ceir gwrthdaro rhwng hen ac ifanc, rhwng y traddodiadol a'r cyfoes. Ond ynddi hefyd, gwelir materoliaeth—'decadence'- y tra-arglwyddiaethu ar unrhyw ronyn o fywyd gonest. Drama ydyw sydd ag unben fel ei phrif gymeriad. Nid drama wleidyddol mohoni, ond moeswers—ac fel pob moeswers dda y mae uwchlaw y 'politics' bondigrybwyll 'na. Ymysg ei düwch a diffyg gobaith, drama ydyw am y berthynas glos ac angenrheidiol rhwng yr hen a'r ifanc, am y cwlwm rhwng y traddodiadol a'r cyfoes ac am y frwydr barhaol dros gyfiawnder a rhyddid; stori ydyw am chwilio am y bywyd perffaith: rhain oll yn faterion o bwys i ni yng Nghymru'r nawdegau."[1]

Cefndir

golygu

"Bu nifer o resymau dros ddewis y ddrama hon", yn ôl rhaglen y cynhyrchiad, "Sefydlwyd Arad Goch fel y prif gwmni theatr Cymraeg i blant a phobl ifanc. Dewis hawdd, felly, o'dd Caligula - ein Cai ni. Fe'i disgrifir gan Emyr Tudwal Jones yn ei ragarweiniad i'r cyfieithiad Cymraeg fel "drama am bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc", ond mae iddi arwyddocâd amgenach na hynny."[1]

"O ystyried hanes a digwyddiadau diweddar Ewrop [1990] gwelir bod llawer i unben wedi ceisio gwireddu delfryd wleidyddol a breuddwyd ddogmatig, fel y gwna Caligula, dwy lethu a lladd. Yn y ddrama gwelir ladd ar draddodiadau a moesau clasurol tra, ar yr un pryd, y gwrthodir yr hawl i'r ieuenctid 'dorri tir newydd'. Gwelir hyn yn ein cymdeithas ni oni bai i'r 'torri tir newydd' esgor ar elw ariannol."[1]

Yn y rhaglen hefyd, a gyhoeddwyd ym 1990, mae un o'r cyfieithwyr gwreiddiol Emyr Tudwal Jones yn cyflwyno'r cynhyrchiad fel â ganlyn :

" 'Rwyt ti'n bur yn y da fel rydw i'n bur yn y drwg' meddai Caligula, Ymerawdwr ifanc Rhufain wrth Scipio, bardd ifanc a chyfaill iddo, yng nghanol y ddrama. Y ddau begwn hyn sydd wrth wraidd drama Albert Camus. Bradychu yw cyfaddawdu mewn byd nad oes iddo unrhyw reswm. Rhaid byw pob eiliad i'r eithaf—nid oes le i foesau parchus nac i ryw berchentŷaeth dosbarth canol. Ond yn y byd wyneb i waered hwn, mae'n anodd gwahaniaethu rhwng y drwg a'r da. Ai'r Ymerawdwr gwaedlyd, sy'n amlwg wedi colli arno, a'i Scipio, y ffwl diniwed, a gynrychiolai'r da? Onid Cerea - sy'n barchus a diwylliedig a rhesymegol - yw'r un a ddaw a modus vivendi i fyd Rhufain unwaith eto? 'Rwyf eto'n fyw', meddai Caligula ar ddiwedd y ddrama - cwestiwn? Er gwaethaf camweddau Gaius (Caligula), y peth cyntaf a wnaeth ei ddilynydd fel Ymerawdwr, Claudius, oedd dienyddio Cerea, am iddo ladd Ymerawdwr. Aethom ati, Prys Morgan ac Emyr Tudwal Jones, i gyfieithu'r ddrama hon bymtheng mlynedd yn ôl—1975. A ninnau'n ifanc. Roeddem ein dau yn blant y chwedegau - degawd a'i gollfarnir cymaint gan ein harweinwyr y dyddiau hyn. Drama ar gyfer y genhedlaeth honno—ac i ddelfrydau a gweledigaeth cenhedlaeth gyffelyb y naw degau yw addasiad Jeremy Turner o Caligula gan Albert Camus."

Cymeriadau

golygu
  • Cai - yr Ymerawdwr ifanc - yr unben
  • Caesonia - yr 'hen ordderch' - o dras uchel
  • Cerea - un o'r llywodraeth - o dras uchel
  • Scipio - bardd ifanc o dras uchel - cariad Cai
  • Helicon - Joscyn - slob - 'good bloke' - ffrind Cai
  • Lucius - y cerddor - llanc amddifad - un o fechgyn y stryd - ffrind Cai
  • Metellus - un o'r crach - ffroenuchel - pendefig
  • Mucius - un o'r crach - dechrau colli arno - hen bendefig
  • Gwraig Mucius - 'Twin set and pearls' - un or crach
  • Mereia - Pendefig oedrannus - un o'r crach
 
Rhaglen y cynhyrchiad o Cai 1990

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y cynhyrchiad gan Arad Goch ym 1990. Cyfarwyddwr Jeremy Turner; cynllunydd John Jenkins; gwisgoedd Patricia Treloar; deunydd hysbysebu Ruth Jên; cast:

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Rhaglen cynhyrchiad Arad Goch o Cai 1990..