Gŵyl Ifan

Dathliadau 23 Mehefin Sant Ioan

Noswyl Sant Ioan, sy’n dechrau ar fachlud haul ar 23 Mehefin, yw noswyl dydd gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr. Yng Nghymru gelwir y digwyddiad yn Ŵyl Ifan - mae "Ifan" yn amrywiad o'r enw "Ioan" yn y Gymraeg. Dyma un o’r ychydig ddyddiau gwledd sy’n nodi genedigaeth sant, yn hytrach na’u marwolaeth. Dywed Efengyl Luc (Luc 1:26–37, 56–57) fod Ioan wedi ei eni chwe mis cyn Iesu; felly, trefnwyd gwledd Ioan Fedyddiwr ar 24 Mehefin, chwe mis cyn y Nadolig.[1] Yn y calendr Rhufeinig, 24 Mehefin oedd dyddiad heuldro'r haf, ac mae cysylltiad agos rhwng Noswyl Sant Ioan a dathliadau Canol haf neu Heuldro'r Haf, yn Ewrop. Mae traddodiadau yn debyg i rai Calan Mai ac yn cynnwys coelcerthi (tanau Sant Ioan), gwledda, gorymdeithiau, gwasanaethau eglwysig, a chasglu planhigion gwyllt.

Gŵyl Ifan
Enghraifft o'r canlynolgŵyl, gwylnos Edit this on Wikidata
Rhan oGŵyl Ifan Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGŵyl Ifan Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscoelcerth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
 
Dathliadau 'Sobotka', neu 'Ivan Kupala' yng Ngwlad Pwyl, 1865

Sefydlwyd Dydd Sant Ioan, sef dydd gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr, gan yr Eglwys Gristnogol anrhanedig yn y 4edd ganrif OC, i anrhydeddu genedigaeth Sant Ioan Fedyddiwr a ddigwyddodd cyn mis cyn geni Iesu yn ôl y Beibl.[2] Wrth i eglwysi Cristnogol y Gorllewin nodi genedigaeth Iesu ar 25 Rhagfyr (Nadolig), gosodwyd y wledd i nodi genedigaeth Sant Ioan (Dydd Sant Ioan) chwe mis ynghynt.[3]

Yn yr hen fyd Rhufeinig, 24 Mehefin oedd dyddiad traddodiadol heuldro'r haf a 25 Rhagfyr oedd dyddiad heuldro'r gaeaf,[4] a nodwyd ill dau gan wyliau.[5][6]

Arferion

golygu

Tân yw'r elfen fwyaf nodweddiadol sy'n gysylltiedig â dathliadau Noswyl Sant Ioan, er enghraifft yng Nghatalwnia.[7] Cafodd coelcerthi (a elwir yn gyffredin yn Danau Sant Ioan mewn ieithoedd amrywiol) eu cynnau er anrhydedd i Sant Ioan ar Noswyl Sant Ioan a Dydd Sant Ioan,[8] a gwasanaethodd i wrthyrru gwrachod ac ysbrydion drwg.[9] Dehongliad Cristnogol o gario fflachlampau wedi'u goleuo ar Noswyl Sant Ioan yw eu bod yn "arwyddlun o Sant Ioan Fedyddiwr, a 'oedd gannwyll yn llosgi, ac yn goleuo' [Ioan 5:35], ac yn paratoi ffordd Crist".[10] Mae'r traddodiadau hyn yn debyg iawn i rai Calan Mai.

Mae Dydd Sant Ioan hefyd yn ddiwrnod poblogaidd ar gyfer bedyddio babanod ac yn y 19eg ganrif, "gweithredwyd bedyddiadau plant a fu farw yn 'baganiaid'".[11] Yn Sweden, ymwelodd pobl ifanc â ffynhonnau sanctaidd i "atgoffa o'r modd y bedyddiodd Ioan Fedyddiwr Grist yn Afon Iorddonen."[12]

Heddiw, mae traddodiadau cyffredin Noswyl Sant Ioan a Dydd Sant Ioan yn cynnwys gorymdeithiau, gwasanaethau eglwysig, coelcerthi Sant Ioan, tân gwyllt, a gwledda.[13]

Gŵyl Ifan

golygu

Roedd Nos Gŵyl Ifan yn un o dair ‘noswaith ysbryd’ (ysbrydnos) fawr y flwyddyn.

Tybid mai’r rhain oedd y tair noson o’r flwyddyn yr oedd y gorchudd i fyd yr ysbrydion ar ei deneuaf a byddai pobl yn defnyddio hyn i ragweld pwy fyddai eu gwir gariad. Y ddwy noson ysbrydnos arall oedd Noswyl Calan Mai a Chalan Gaeaf. Wrth i’r tywyllwch agosáu ar Nos Galan, cyneuwyd coelcerthi.[14]

Ceir dathliadau ar draws Cymru ac yn flynyddol yng Nghaerdydd gan Gwmni Dawns Werin Caerdydd sy'n cynnwys dawnsio, bwyd a stondinau gan gynnwys yn Amgueddfa Werin Cymru a safleoedd eraill yn y ddinas.[15][16] Codir y Pawl Haf fel rhan o'r dathliadau hefyd.[17] Dathlwyd yr Ŵyl y tu allan i Senedd Cymru yn 2015 lle codwyd y Pawl Haf.[18] Yn 2019, fel mewn blynyddoedd cynt, gorymdeithiodd y Dawnswyr a'r Pawl Haf drwy ddinas Caerdydd.[19]

Ceir hefyd dawns werin Gymreig o'r enw Dawns Gŵyl Ifan.[20]

Teg nodi nad yw'r dathliadau Gŵyl Ifan mor fynych yng Nghymru ag y mae mewn gwledydd eraill ar draws Ewrop.

Dathliadau Gŵyl Ifan dramor

golygu
 
Mae tanio coelcerth yn rhan o ddathliadau Canol Haf / Gŵyl Ifan yn y rhan fwyaf o wledydd, yma gwelir Juhannuskokko ("tân Sant Ioan") yn y Ffindir

Fe geir dathliadau Gŵyl Ifan ar draws y byd Cristnogol. Ceir sawl gwahanol fersiwn, yn aml gyda defnydd o goelcerthi. Ymysg y gwledydd lle dethlir Gŵyl Ifan mae:

Yr Almaen (Johannistag); Brasil (festas de São João); Denmarc (Sankthansaften); Croatia (Ivanjske krijesove, hefyd Ivanjdan neu Svitnjak); Estonia (Jaaniõhtu); Hwngari (Szentiván-éj); Latfia (Jāņi); Lithwania (Rãsos (Rasa, Rasos šventė, Kupolės, Saulės, Krešės) ill dau yng ngwledydd y Baltig yn ddathliadau Heuldro'r Haf; Gwlad Pwyl (noc świętojańska ar gyfer dathliadau Cristnogol neu Noc Kupały sef "Noson Kupala" a sobótka ar gyfer dathliadau paganaidd, cyn Gristnogol); Iwerddon (Oíche Fhéile San Seáin neu Oíche Féile Eoin).

Ymhlith y dathliadau nodedig mae:

  • Gwledydd Catalanaidd - yn nhiroedd Catalwnia a gwlad Valencia mae gŵyl Sant Joan yn arbennig o boblogaidd yn y wlad a cheir dathliadau Heuldro'r Haul mewn dathliad o Sant Ioan.[21] Bwytir bwydydd arbennig traddodiadol ar y diwrnod megis teisen siocled 'Coca de Sant Joan'.[22] a thraddodiadau ym Menorca.[23]
  • Galisia - gelwir yr ŵyl yn San Xoán.
  • Gwlad y Basg - enwir y diwrnod yn San Juan Eguna neu Donibane Jaia ("Gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr) a tanir coelcerthi yno (San Juan Sua neu Donibane Sua), mae'r ŵyl hefyd yn dynodi Heuldro'r Haf. Ceir dathliadau dawns a cherddoriaeth.
  • Quebec - yn Québec, gelwir yr ŵyl yn Fête de la Saint-Jean-Baptiste, la Saint-Jean, ac yn fwy cyfoes, Fête nationale du Québec. Daethpwyd â dathliad Dydd Sant Ioan i Ffrainc Newydd gan y gwladychwyr Ffrengig cyntaf. Cyneuwyd tanau mawr yn y nos. Yn ôl y Jeswitiaid, cynhaliwyd dathliadau cyntaf Dydd Sant Ioan yn Ffrainc Newydd tua 1638 ar lannau Afon St Lawrence gyda'r nos ar 23 Mehefin 1636 gyda choelcerth a phum ergyd canon. Gwelir ef fel diwrnod genedlaethol a gwladgarol yn debyg i Ddydd Gŵyl Dewi'r Cymry. Yn 1908, dynododd y Pâb Pius X Sant Ioan Fedyddiwr yn nawddsant Ffrancwyr Canada, a daeth yn ŵyl gyhoeddus yn Quebec yn 1925.[24] O 1914 i 1923 ni chynhaliwyd y gorymdeithiau. Yn 1925, 91 mlynedd ar ôl gwledd y Ludger Duvernay ym Montreal, daeth Mehefin 24 yn wyliau cyfreithiol yn Quebec.[25]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Amos, Herbert (22 June 2017). "June 24: The Nativity of John the Baptist". Cyrchwyd 24 June 2018.
  2. Fleteren, Frederick Van; Schnaubelt, Joseph C. (2001). Augustine: Biblical Exegete (yn Saesneg). Peter Lang. t. 197. ISBN 9780820422923. The cult of John the Baptist began to develop in the first half of the fourth century. Augustine is the first witness to a feast of the birth of John the Baptist, which was celebrated on June 24.
  3. Hill, Christopher (2003). Holidays and Holy Nights: Celebrating Twelve Seasonal Festivals of the Christian Year (yn Saesneg). Quest Books. t. 163. ISBN 9780835608107.
  4. O'Neill, William Matthew (1976). Time and the Calendars. Manchester University Press. t. 85.
  5. Forsythe, Gary (2012). Time in Roman Religion: One Thousand Years of Religious History. Routledge. tt. 123, 182. Varro places the equinoxes and solstices at the midpoints of the seasons ... His dating for the beginnings of the four seasons are as follows: February 7 for spring, May 9 for summer, August 11 for autumn, and November 10 for winter.
  6. Billington, Sandra (2002). The Concept of the Goddess. Routledge. t. 134.
  7. "VilaWeb - Diari escola: Saint John's Eve". www.vilaweb.cat.
  8. Trapp, Maria Augusta von (2018-10-18). Around the Year with the Von Trapp Family (yn Saesneg). Sophia Institute Press. t. 161. ISBN 978-1-62282-668-1.
  9. Dahlig, Piotr (2009). Traditional Musical Cultures in Central-Eastern Europe: Ecclesiastical and Folk Transmission (yn Saesneg). University of Warsaw. t. 68. ISBN 9788389101860. The dangers posed to humans by demons require specific rituals, aimed at identifying witches and putting them to death. A key element of May Day or St John's rituals is the burning of witches or the repelling and burning-out with fire of evil forces, which might deviously conceal themselves among people, for instance in the form of animals.
  10. The Olio, Or, Museum of Entertainment, Volume 7 (yn Saesneg). Joseph Shackell. 1831. t. 400. Belithus tells us that it was a custom to carry lighted torches on Midsummer-eve, as an emblem of St. John the Baptist, who was "a burning and shining light," and the preparer of the way of Christ.
  11. Reis, João José (20 November 2003). Death Is a Festival: Funeral Rites and Rebellion in Nineteenth-Century Brazil (yn Saesneg). University of North Carolina Press. t. 101. ISBN 9780807862728. Like 8 December, the eve of St. John's Day was a highly popular date for nineteenth-century christenings. According to old midwives, the baptisms of children who had died "pagans" were acted out: "On this day, at nightfall, a candle is lit in the praise of St. John. The woman who stands godmother prays the Credo before the candle for little angel and says: 'I baptize you, So-and-So, I baptize you in the name of Almighty God the Father'... If [the child] is not baptized, it will cry in its grave every night."
  12. "Midsummer" (yn Saesneg). Government of Sweden. 10 January 2018. Cyrchwyd 25 March 2018. In Sweden, they were mainly found in the southern part of the country. Young people also liked to visit holy springs, where they drank the healing water and amused themselves with games and dancing. These visits were a reminder of how John the Baptist baptised Christ in the River Jordan.
  13. Lapointe, Richard; Tessier, Lucille (1988). The Francophones of Saskatchewan: a history (yn Saesneg). Campion College, University of Regina. t. 189. ISBN 9780969265825.
  14. "Nos Gwyl Ifan (Midsummer's Eve Feast) 2024". Gwefan Ystâd Hawarden. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  15. "Gŵyl Ifan". Amgueddfa Werin Cymru. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  16. "Gŵyl Ifan". Cwmni Dawns Werin Caerdydd. 23 Ebrill 2023.
  17. "Gŵyl Ifan". Cymdeithas Dawns Werin Cymru. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  18. "Gwyl Ifan dawnsio canol haf, Bae Caerdydd". Comms Guy Matt ar Youtube. 2015.
  19. "Gŵyl Ifan 2019. Part 1". sianel Youtube Welsh Folk Dance in Russia. 2019.
  20. "Gwyl Ifan". Youtube Osian Gwynedd. 2014.
  21. "La Fiesta de San Juan en Valls". La Vanguardia. 29 June 1933.
  22. Sparks, Tori (19 June 2023). "Celebrating La Revetlla: Saint John's Eve". (barcelona-metropolitan.com).
  23. "San Juan Festival - Bonfires of Saint John". Spanihunlimited.
  24. "Fête nationale: A guide to Montreal's festivities". June 22, 2017. Cyrchwyd June 23, 2017.
  25. "Fête nationale: A guide to Montreal's festivities". June 22, 2017. Cyrchwyd June 23, 2017.

Dolenni allanol

golygu