Philippa Whitford

Gwleidydd a llawfeddyg o'r Alban yw Philippa Whitford (ganwyd 24 Rhagfyr 1958) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ganol Swydd Ayr. Cafodd ei hailethol yn 2017 a 2019. Mae'r etholaeth yn cynnwys rhan o'r siroedd: Dwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr. Mae Philippa Whitford yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Philippa Whitford
Philippa Whitford


Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mai 2015
Rhagflaenydd Brian Donohoe (Llafur)

Geni (1958-12-24) 24 Rhagfyr 1958 (65 oed)
Belfast, Gogledd Iwerddon
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Canol Swydd Ayr
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Glasgow
Galwedigaeth Llawfeddyg
Gwefan http://www.snp.org/

Yn ddeg oed, symudodd o Belfast, Gogledd Iwerddon i'r Alban. Fe'i haddysgwyd yn Llundain ac yn Milngavie, Dwyrain Swydd Dunbarton cyn cwbwlhau cwrs meddygaeth yn Glasgow. Gweithiodd am dros 18 mlynedd fel conyltant yn Crosshouse Hospital cyn symud i wleidyddiaeth. Am flwyddyn a hanner gweithiodd yn un o ysbytai'r Cenhedloedd Unedig yn Llain Gaza. Mae bellach yn byw yn Troon yn yr Alban.

Dyfnahodd ei gweledigaeth a'i hymgyrchu gwleidyddol yn ystod Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014.

Hi yw'r llefarydd y PGA ar ran iechyd mewn San Steffan.

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Philippa Whitford 26999 o bleidleisiau, sef 53.2% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +34.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 13589 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu