Awdur Americanaidd yw Caroline Bouvier Kennedy[1] (ganwyd 27 Tachwedd 1957) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithiwr, diplomydd, cymdeithaswr, newyddiadurwr a gwleidydd. Fel diplomydd Americanaidd, gwasanaethodd fel Llysgennad yr Unol Daleithiau i Japan rhwng 2013 a 2017.[2] Mae hi'n aelod blaenllaw o deulu'r "Kennedy" a hi yw unig blentyn yr Arlywydd John F. Kennedy a'r Arglwyddes Gyntaf Jacqueline Bouvier Kennedy. Mae'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.[3][4][5][6][7]

Caroline Kennedy
GanwydCaroline Bouvier Kennedy Edit this on Wikidata
27 Tachwedd 1957 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
Man preswylGeorgetown, y Tŷ Gwyn, Georgetown, 1040 Fifth Avenue, Park Avenue Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Stone Ridge School of the Sacred Heart
  • Brearley School
  • Convent of the Sacred Heart
  • Academi Concord
  • Coleg Radcliffe
  • Ysgol y Gyfraith Columbia Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, diplomydd, ysgrifennwr, cymdeithaswr, newyddiadurwr, gwleidydd, llysgennad Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad yr Unol Daleithiau i Japan Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadJohn F. Kennedy Edit this on Wikidata
MamJacqueline Kennedy Onassis Edit this on Wikidata
PriodEdwin Schlossberg Edit this on Wikidata
PlantRose Kennedy Schlossberg, Tatiana Schlossberg, Jack Schlossberg Edit this on Wikidata
LlinachKennedy family Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Person y Flwyddyn, Siambr Fasnach America yn Japan, Gwobr Proffil Dewrder, Grand Cordon of the Order of the Rising Sun Edit this on Wikidata

Yn gynnar yn y ras "gynradd" ar gyfer etholiad arlywyddol 2008, cymeradwyodd Kennedy yr ymgeisydd Democrataidd Barack Obama a siaradodd yn gyhoeddus o'i blaen sawl gwaith dros y blynyddoedd dilynol. Yn 2013, penododd yr Arlywydd Obama Kennedy fel Llysgennad yr Unol Daleithiau i Japan.[8]

Magwraeth golygu

 
Caroline, 5 oed, gyda'i thad, yr Arlywydd John Fitzgerald Kennedy; 25 Awst 1963

Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd a mynychodd Goleg Radcliffe, Coleg y Gyfraith, Harvard, Prifysgol Columbia ac Ysgol y Gyfraith Columbia.

Yn blentyn ifanc, mynychodd Caroline ysgolion meithrin a dosbarthiadau a drefnwyd gan ei mam, ac yn aml tynnwyd llun ohoni yn marchogaeth ei merlen "Macaroni" o amgylch tir y Tŷ Gwyn. Fe wnaeth ohoni a gyhoeddwyd mewn erthygl newyddion ysbrydoli'r canwr-gyfansoddwr Neil Diamond i ysgrifennu ei gân boblogaidd "Sweet Caroline", a ganodd am y tro cyntaf pan berfformiodd hi ar ben-blwydd Caroline yn 50 oed.[9]

Roedd Kennedy bron yn chwech oed pan lofruddiwyd ei thad ar Dachwedd 22, 1963. Y flwyddyn ganlynol, ymgartrefodd Caroline, ei mam, a’i brawd John F. Kennedy Jr ar ochr ddwyreiniol uchaf Manhattan, lle mynychodd yr ysgol. Graddiodd Kennedy o Goleg Radcliffe a gweithiodd am gyfnod yn Amgueddfa Gelf Fetropolitan Manhattan, lle cyfarfu â’i darpar ŵr, y dylunydd arddangosfeydd Edwin Schlossberg. Aeth ymlaen i dderbyn gradd J.D. o Ysgol y Gyfraith Columbia. Priododd Edwin Schlossberg ac mae Rose Kennedy Schlossberg a Tatiana Schlossberg yn blant iddi.

Ar Ragfyr 6, bythefnos ar ôl y llofruddiaeth, symudodd Jacqueline, Caroline, a'i brawd John Jr allan o'r Tŷ Gwyn a dychwelyd i Georgetown.[10] Fodd bynnag, buan y daeth eu cartref newydd yn atyniad twrsitaidd poblogaidd a gadawsant Georgetown y flwyddyn ganlynol gan symud i fflat penthouse yn 1040 Fifth Avenue ar Ochr Ddwyreiniol Manhattan yn Ninas Efrog Newydd.[11]

Daeth ei hewyrth Robert "Bobby" F. Kennedy yn ddylanwad mawr ym mywydau Caroline a John yn dilyn llofruddiaeth eu tad, a gwelodd Caroline ef fel tad amgen. Pan lofruddiwyd Bobby ym mis Mehefin 1968, ceisiodd Jacqueline fodd i'w hamddiffyn, gan nodi: "Os ydyn nhw'n lladd y Kennedys, yna mae fy mhlant yn dargedau ... rydw i eisiau gadael y wlad hon".[12] Priododd Jacqueline Kennedy y tycoon llongau Groegaidd Aristotle Onassis ychydig fisoedd yn ddiweddarach a symudodd hi a'r plant i Skorpios, ei ynys ef yng Ngwlad Groeg.

Ym 1975, ymwelodd Caroline â Llundain i gwblhau cwrs celf blwyddyn yn nhŷ ocsiwn Sotheby's, pan ffrwydrodd bom car yr IRA a osodwyd o dan gar ei gwesteiwyr, yr Aelod Seneddol Ceidwadol Syr Hugh Fraser a'i wraig, Antonia, ychydig cyn iddi adael am eu taith ddyddiol i Sotheby's. Nid oedd Caroline wedi gadael y tŷ, ond roedd cymydog, yr oncolegydd a'r Athro Gordon Hamilton Fairley, yn cerdded heibio pan oedd yn cerdded ei gi a chafodd ei ladd gan y ffrwydrad.[13]

Gyrfa o 1989 golygu

Kennedy ar yr ymgyrch arlywyddol yn 2008

Cyfreithiwr ("Atwrnai" yn UDA), ysgrifennwr a golygydd yw Kennedy sydd wedi gwasanaethu ar fyrddau nifer o sefydliadau dielw. Ysgrifennodd y llyfr, "In Our Defense: The Bill of Rights In Action" mewn cydweithrediad ag Ellen Alderman, a gyhoeddwyd ym 1991.

Rhwng 2002 a 2004, bu’n gweithio fel cyfarwyddwr y Swyddfa Partneriaethau Strategol Adran Addysg Dinas Efrog Newydd. Talodd y swydd dridiau'r wythnos gyflog o $1 iddi a rhan o'i gwaith oedd codi arian preifat ar gyfer ysgolion cyhoeddus Dinas Efrog Newydd; helpodd i godi mwy na $ 65 miliwn.[14][15][16][17]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Person y Flwyddyn, Siambr Fasnach America yn Japan (2016), Gwobr Proffil Dewrder (1989), Grand Cordon of the Order of the Rising Sun (2021) .

Cyfeiriadau golygu

  1. "Transcript: Larry King Interview with Caroline Kennedy". Larry King Live. CNN. 7 Mai 2002. Cyrchwyd 16 Chwefror 2008.
  2. "United States Embassy To Japan – Former Ambassadors". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-24. Cyrchwyd 7 Mai 2017.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12314124d. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  5. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "Caroline Kennedy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Caroline Bouvier Kennedy". The Peerage. "Caroline Bouvier Kennedy". Genealogics.
  6. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  7. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  8. Landler, Mark (2013-07-24). "Obama Nominates Caroline Kennedy to Be Ambassador to Japan". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2017-07-06.
  9. "Neil Diamond: Caroline Kennedy Inspired 'Sweet Caroline'". Fox News. Tachwedd 20, 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 19, 2008. Cyrchwyd Rhagfyr 19, 2008. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  10. Hunter, Marjorie (7 Rhagfyr 1963). "Mrs. Kennedy is in new home; declines 3-acre Arlington plot" (PDF). The New York Times. tt. 1, 13. Cyrchwyd 13 Ebrill 2015.
  11. Joynt, Carol Ross (22 Awst 2012). "5 Georgetown Locations Rich in Kennedy History". Washingtonian. Cyrchwyd 21 Mawrth, 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  12. Heymann, tt. 152–54.
  13. Weinraub, Bernard (24 Hydref 1975). "Bomb Kills a Doctor Near London Home of Caroline Kennedy; A Narrow Escape for Miss Kennedy" (paid archive). The New York Times. t. 1. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2008.
  14. Halbfinger, David W. (15 Rhagfyr 2008). "Résumé Long on Politics, but Short on Public Office". The New York Times. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2008.
  15. "Caroline Kennedy, President". John F. Kennedy Library Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2006. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  16. Herszenhorn, David M. (20 Awst 2004). "Caroline Kennedy Is Leaving Fund-Raising Job for Schools". The New York Times.
  17. Goodnough, Abby (2 Hydref 2002). "Caroline Kennedy Takes Post As Fund-Raiser for Schools". The New York Times.