Aristoteles Onassis
Mogwl llongau o Wlad Groeg oedd Aristoteles Sokratis Onassis (Groeg (iaith): Αριστοτέλης Ωνάσης; 20 Ionawr [7 Ionawr O.S.] 1906[1] neu 15 Ionawr 1906[2] – 15 Mawrth 1975). Roedd yn un o ddynion busnes enwocaf a chyfoethocaf yr 20g ac yn aelod o'r jet set. Roedd ei fflyd o danceri a llongau nwyddau yn fwy o faint na llyngesau nifer o wledydd.
Aristoteles Onassis | |
---|---|
Ganwyd | Αριστοτέλης Σωκράτη Ωνάσης 20 Ionawr 1906, 15 Ionawr 1906 İzmir |
Bu farw | 15 Mawrth 1975 o methiant anadlu Neuilly-sur-Seine |
Dinasyddiaeth | Gwlad Groeg, yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | perchennog llongau, person busnes, entrepreneur |
Tad | Socrates Onassis |
Mam | Penelope Dolagu |
Priod | Tina Onassis Niarchos, Jacqueline Kennedy Onassis |
Partner | Maria Callas |
Plant | Alexandros Onassis, Christina Onassis |
Perthnasau | Caroline Kennedy, John F. Kennedy Jr., Arabella Kennedy, Patrick Bouvier Kennedy |
Chwaraeon |
Cafodd ei eni yn Smyrna yn Ymerodraeth yr Otomaniaid (heddiw yn Nhwrci) i deulu Groegaidd Uniongred ac yn fab i Socrates Onassis, dyn busnes tybaco oedd yn berchen ar longau. Bu'r teulu yn ffoi i Wlad Groeg yn sgîl Tân Mawr 1922. Ym 1923 aeth Aristoteles i'r Ariannin ar basbort Nansen, dogfen a roddwyd i ffoaduriaid heb ddinasyddiaeth gan Gynghrair y Cenhedloedd.
Ailgychwynnodd Onassis hen fusnes tybaco ei deulu yn Ne America, gan fewnforio tybaco o Dwrci. Cytunodd Onassis i drafod cytundeb masnach rhwng yr Ariannin a Gwlad Groeg ym 1928, a chafodd ei wneud yn gonswl cyffredinol gan lywodraeth Groeg am ei ymdrechion.[1] Gan weld llwyddiant economaidd anhygoel yn ei fusnes, miliwnydd oedd Onassis erbyn oed 25,[1] a phrynodd ei longau cludo nwyddau cyntaf ym 1932. Erbyn diwedd y 1930au ymledodd i'r diwydiant tanceri, gan adeiladu ei dancer olew cyntaf ym 1938. Cludodd llongau Onassis olew ar gyfer cwmnïau petroliwm mawr megis Mobil a Texaco, a hwyliodd y llongau dan faner Panama oedd yn eu galluogi i gludo nwyddau heb dalu treth. Adeiladodd y supertankers cyntaf, ac yn ystod Argyfwng Suez (1956) a'r Rhyfel Chwe Diwrnod (1967) elwodd yn sylweddol trwy gludo olew o'r Dwyrain Canol o amgylch Penrhyn Gobaith Da, pan oedd Camlas Suez ar gau. Bu gystadlu rhwng Onassis a Stavros Niarchos, mogwl llongau arall o Roeg.
O 1950 hyd 1956 bu'n elwa ar forfilo ger arfordir Periw, ond gwerthodd ei fusnes i'r Japaneaid i osgoi gael ei erlyn am ladd morfilod ifanc. Ym 1953 prynodd Onassis fuddiant rheolaethol yn Société des Bains de Mer, sy'n berchen ar casino, gwestai, ac eiddo diriaethol arall ym Monte Carlo. Prynodd gwmni hedfan cenedlaethol Groeg ym 1957 a gafodd ei ail-frandio'n Olympic Airways. Bu dulliau busnes Onassis yn ddadleuol ac yn cynnwys llwgrwobrwyo.
O 1946 hyd 1960 bu'n briod i Athina Livanos, merch y mogwl llongau Groegaidd Stavros Livanos. Cafodd dau o blant, Alexander (1948 – 1973) a Christina (1950 – 1988). Prynodd y ffrigad Ganadaidd HMCS Stormont (K327) a throes yn iot a enwyd yn Cristina O, ar ôl ei ferch. Cafodd berthynas â'r gantores opera Maria Callas am wyth mlynedd, ac bu'n ffrind i Winston Churchill.[3] Ym 1968, priododd Jacqueline Bouvier Kennedy, gweddw John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau. Bu farw Aristoteles Onassis yn Neuilly-sur-Seine, Ffrainc, o gymhlethdodau myasthenia gravis, a chafodd ei gladdu ar ei ynys breifat Skorpios ym Môr Ionia. Y neidiwr ceffylau Athina Onassis Roussel yw ei unig ddisgynnydd fyw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Aristotle Socrates Onassis. Britannica Online. Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
- ↑ (Saesneg) Aristotle Onassis biography. The Biography Channel. Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
- ↑ (Saesneg) Smith, Helena (6 Hydref 2006). Callas takes centre stage again as exhibition recalls Onassis's life. The Guardian. Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.