Carreg hynafol yw Carreg Lochmaben a saif mewn cae yn sir Dumfries a Galloway yn ne'r Alban ac a oedd unwaith yn rhan o gylch cerrig o'r cyfnod Celtaidd. Arferid galw'r garreg ar un cyfnod yn Lochmabonstone neu 'Carreg Ffin' gan iddi gael ei defnyddio fel man cyfarfod pwysig drwy hanes. Mae'n 7 troedfedd o uchder a 18 troedfedd o gwmpas. Credir ei bod yn pwyso deg tunnell. Gwenithfaen yw ei gwneuthuriad wedi ei threulio gan rewlifoedd.

Carreg Lochmaben
Mathmaen hir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLochmaben Edit this on Wikidata
SirDumfries a Galloway Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau54.9828°N 3.0763°W, 54.98374°N 3.076007°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Carreg Lochmaben

Mae'r enw'n gysylltiedig a'r duw Celtaidd Mabon efallai. Ystyr 'loch'/'clach' ydy "carreg", nid llyn, fel a geir mewn enw carreg arall nid nepell, sef 'Clackmannan'.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato