Castell Aberlleiniog

castell rhestredig Gradd II* yn Llangoed

Castell mwnt a beili Normanaidd ym Mhenmon, Môn, oedd Castell Aberlleiniog cyn ei ailgodi o garreg. Mae'n gorwedd ar ben bryn coediog isel hanner milltir o lan Afon Menai ac yn gwarchod y fynedfa iddi o'r dwyrain. Llifa Afon Lleiniog heibio i'r castell.

Castell Aberlleiniog
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1080 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlangoed Edit this on Wikidata
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr27.7 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Menai, Afon Lleiniog Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2926°N 4.07727°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethHugh d'Avranches Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwAN020 Edit this on Wikidata
Traeth Aberlleiniog, lle glaniodd Gruffudd ap Cynan yn 1094. Mae adfeilion y castell yn y coed ar y bryn (de uchaf)

Hanes golygu

Codwyd y castell gan Huw Flaidd, Iarll Caer, yn y flwyddyn 1080 i 1099 fel rhan o ymgais Normaniaid Caer i oresgyn teyrnas Gwynedd.[1] Pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan o Ddulyn yn 1094 casglodd fyddin yn Nefyn ac yna hwyliodd i Benmon ac ymosododd ar y castell yn llwyddiannus. Amddiffynwyd y castell gan 80 o farchogion ac 14 ysgwier ifainc. Cipiwyd y castell a'i losgi a lladdwyd nifer o'r amddiffynwyr. Cofnodir y digwyddiad yn Hanes Gruffudd ap Cynan.[2]

Yn ddiweddarach, rywbryd cyn canol yr 16g, codwyd castell cerrig ar y safle. Does fawr dim o'r castell mwnt a beili gwreiddiol ar ôl am fod y castell diweddarach yn gorchuddio'r safle. Mae hanes yr ail gastell yn dipyn o ddirgelwch. Yn fwy na thebyg mae'n perthyn i ddiwedd yr Oesoedd Canol neu ddechrau cyfnod y Tuduriaid.

Archaeoleg golygu

Yn 2007 cafwyd ymchwiliad archaeolegol ar y safle. Mae muriau'r castell diweddarach wedi cael ei ailadeiladu ar y sylfeini gwreiddiol a'r castell diweddar hwn sydd i'w weld ar ben y bryn heddiw yn hytrach na'r castell canoloesol cyntaf.

Cyfeiriadau golygu

  1. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982). Tud. 42.
  2. Historia Gruffud vab Kenan, gol. D. Simon Evans (Caerdydd, 1977), tt.20-21