Castell Cliffordd

Castell Normanaidd yn Swydd Henffordd, Lloegr, yw Castell Clifford. Mae'n gorwedd ym mhentref Clifford ar lan Afon Gwy o fewn tafliad carreg i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, tua 3 milltir i'r gogledd o'r Gelli Gandryll. Mae Guto'r Glyn(c.1435 – c.1493) yn cyfeirio ato fel Cliffordd.[1]

Castell Clifford
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirClifford, Swydd Henffordd Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.1043°N 3.10527°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO2434945677 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Codwyd castell mwnt a beili ar y safle yn 1070 gan William FitzOsbern i amddiffyn y rhyd strategol ar Afon Gwy. Bwriadwyd sefydlu tre newydd yno, ond ni wireddwyd y cynllun. Codwyd castell pur sylweddol o gerrig ar y safle yn nes ymlaen. Daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Clifford, un o arglwyddiaethau'r Mers.

Adfeilion Castell Cliffton

Newidiodd y castell ddwylo sawl gwaith dros y ganrif a hanner nesaf. Erbyn y 1230au roedd ym meddiant Walter III de Clifford, wŷr Walter Fitz Richard. Roedd y Walter hwn - y cyfeirir ato fel Gwallter gan y Cymry - wedi ymgynghreirio â Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd a Chymru, trwy briodas ag un o'i ferched. Fel y gweddill o Arglwyddir'r Mers, roedd y Gwallter yma yn hynod annibynnol. Yn 1233 cododd mewn gwrthryfel yn erbyn Harri III, brenin Lloegr. Ym mis Medi gwarchaeodd y brenin Gastell Clifford ac ildiodd y garsiwn o fewn dyddiau. Gwnaeth Walter Clifford ei heddwch a'r Goron Seisnig ac yna arweiniodd byddin yn erbyn ei fab-yng-nghyfraith, Llywelyn. Mae'n debyg nad oedd gan Wallter ddewis ond i gymodi â Harri III, ond roedd troi yn erbyn Llywelyn yn beth gwarthus gan fod y tywysog newydd cyrraedd gyda byddin o Gymry i'w gynorthwyo. Ugain mlynedd yn nes ymlaen bu bron iawn i Wallter wrthryfela eto pan sarhaodd negesydd brenin Lloegr. Collodd lawer o'i freintiau am hynny.

Yn 1402, dinistriwyd y castell gan un o fyddinoedd Owain Glyndŵr ar ôl buddugoliaeth ysgubol Brwydr Bryn Glas.

Heddiw mae'r castell yn adfail.

Llyfryddiaeth

golygu

Dolenni allanol

golygu
  1. www.gutorglyn.net; Archifwyd 2021-07-23 yn y Peiriant Wayback adalwyd 22 Mawrth 2018 gyda chaniatad gan Ann Parry Owen (gweler Trydariad yma.