Castell Cawr

bryngaer yn Nghonwy
(Ailgyfeiriad o Cawr (bryngaer))

Mae Castell Cawr (hefyd Dinhengron) yn fryngaer Geltaidd sylweddol tua 2ha, sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ar fryncyn Tan-y-Gopa, ger Abergele yn Sir Conwy, Cymru; cyfeirnod OS: SH935767. Nid oes cloddio archaeolegol wedi digwydd yma.[1]

Castell Cawr
Mathbryn, caer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2768°N 3.5971°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH93607672 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE114 Edit this on Wikidata
Rhan o glawdd amddiffyn mawr Castell Cawr

Disgrifiad golygu

Mae'r gaer yn mesur 186m (gogledd i dde) wrth 130m ac o ffurf led hirgsgwar. Ar ochrau'r de a'r dwyrain amddiffynir y gaer gan lethrau syrth y bryn ond ar ochrau'r gogledd a'r gorllewin ceir olion clawdd. Ceir mynedfa sy'n troi i mewn ar ei hun yn y clawdd gorllewinol. Er nad oes modd profi hynny heb gloddio archaeoloegol, mae'r gaer yn dyddio o Oes yr Haearn, yn ôl pob tebyg.[2][3]

Erbyn hyn mae llawer o'r gaer hon wedi cael ei gorchuddio gan goedwig, ond clirwyd rhan o'r goedwig y arddangos rhannau o amddiffynwaith y gaer.

Cefndir golygu

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE114.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[5] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[6] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[7]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Coflein[dolen marw]
  2. "Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-09-11.
  3. Helen Burnham, Clwyd and Powys yn y gyfres A Guide ot Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 195.
  4. Cofrestr Cadw.
  5. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  6. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  7. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.