Ceffalecsin

(Ailgyfeiriad o Cefalexin)

Mae ceffalecsin yn wrthfiotic y gellir ei ddefnyddio i drin nifer o heintiau bacteriol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₆H₁₇N₃O₄S.

Ceffalecsin
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcephalosporin antibiotic Edit this on Wikidata
Màs347.093977 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₆h₁₇n₃o₄s edit this on wikidata
Enw WHOCefalexin edit this on wikidata
Clefydau i'w trinHeintiad e.coli, niwmonia bacterol, haint yn yr uwch-pibellau anadlu, dolur gwddw, heintiad y llwybr wrinol, haint bacteria sy'n adweithio'n negyddol i brofion gram, clefyd staffylococol, llid yr isgroen edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwybodaeth gyffredinol golygu

Mae cefalexin yn lladd bacteria gram-gadarnhaol ac ambell i facteriwm gram-negyddol trwy amharu ar wal eu celloedd. Mae cefalexin yn antibiotig beta-lactam o fewn y dosbarth o gephalosporinau genhedlaeth gyntaf. Mae'n gweithio'n debyg i asiantau eraill o fewn y dosbarth hwn, gan gynnwys cefazolin mewnwythiennol, ond gellir cymryd cefalexin trwy'r genau

Defnydd golygu

Gall cefalexin drin heintiau bacteriol, gan gynnwys rhai'r glust ganol, yr esgyrn a'r cymalau, y croen a'r llwybr wrinol. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer rhai mathau o niwmonia, llid y ffaryncs, ac i atal endocarditis bacteriol. Nid yw cefalexin yn effeithiol yn erbyn heintiau a achosir gan Staphylococcus aureus ymwrthiol i fethisilin (MRSA), Enterococcus, neu Pseudomonas.  Fel gwrthfiotigau eraill, ni all cefalexin drin heintiau firaol, fel y ffliw, broncitis nac annwyd cyffredin. Gall y rhai sydd ag alergedd ysgafn neu gymedrol i benisilin defnyddio cefalexin ond nid yw'n cael ei argymell yn y rhai sydd ag alergedd difrifol.[2]

Sgil effeithiau golygu

Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys poen bôl a'r dolur rhydd. Mae adweithiau alergaidd neu gael heintiau â Chlostridium difficile, sy'n achosi dolur rhydd, hefyd yn bosibl. Nid yw'n ymddangos bod y defnydd yn ystod beichiogrwydd neu fwydo ar y fron yn niweidiol i'r babi. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer plant[3] a'r rhai dros 65 oed. Efallai y bydd angen  gostyngiad yn y dos mewn cleifion sydd â phroblemau arennau.

Hanes golygu

Datblygwyd ceffalecsin ym 1967. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

Defnydd meddygol golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • heintiad E.coli
  • niwmonia bacterol
  • haint yn yr uwch-pibellau anadlu
  • Dolur gwddw
  • systitis acíwt
  • haint bacteria sy'n adweithio'n negyddol i brofion Gram
  • clefyd staffylococol
  • llid yr isgroen
  • Enwau golygu

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Ceffalecsin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Keflex®
  • CEX
  • Ceporexin
  • Ceporex®
  • Cephacillin
  • Cepexin
  • Cepastar
  • Celexin
  • cefalexin
  • 7-beta-(D-alpha-Amino-alpha-phenylacetylamino)-3-methyl-3-cephem-4-carboxylic acid
  • Cyfeiriadau golygu

    1. Pubchem. "Ceffalecsin". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. Medicines Cefalexin 500mg Capsules adalwyd 27 Chwefror 2018
    3. Medicines for children Cefalexin for bacterial infections Archifwyd 2018-01-13 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 27 Chwefror 2018


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!