Y celfyddydau yng Nghymru
Nodweddir y celfyddydau yng Nghymru gan etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad. Yn hanesyddol, blodeuai'r celfyddydau llenyddol a cherddorol, ymhlith y werin a'r uchelwyr fel ei gilydd, a bu eisteddfodau yn wyliau i fynegi a dathlu llên a cherdd. Datblygodd traddodiadau brodorol unigryw yn yr iaith Gymraeg, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, canu gwerin, a chanu corawl. Yn sgil seisnigo diwylliant Cymru yn y cyfnod modern, mae nifer o Gymry wedi cyfrannu at y celfyddydau Saesneg a dod yn fyd-enwog, er enghraifft y beirdd Dylan Thomas ac R. S. Thomas a chantorion a grwpiau cerddorol megis Tom Jones a'r Manic Street Preachers. Yn ogystal â cherddoriaeth, mae'r celfyddydau perfformio yng Nghymru yn cynnwys dawns a'r theatr.
Math | diwylliant Cymru |
---|---|
Gwladwriaeth | Cymru |
Ni fu'r celfyddydau gweledol mor amlwg na chywrain â llenyddiaeth a cherddoriaeth yng Nghymru, ond arferid celf a cherfluniaeth yn adlewyrchu arddulliau a ffurfiau cyffredin y byd Celtaidd, Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, a Gorllewin Ewrop. Mae celfyddydau gwerinol yn cynnwys crefftau traddodiadol megis crochenwaith, gwehyddiaeth, a gwaith pren. Mae cymdeithasau a sefydliadau megis Urdd Gwneuthurwyr Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru yn ceisio cadw'r hen grefftau'n fyw yn yr oes fodern. Mae celfyddydau modern yng Nghymru yn cynnwys ffilm a gemau fideo.
Y celfyddydau gweledol
golygu- Prif: Celf Cymru
Er i lenyddiaeth a cherddoriaeth y wlad ddangos sawl traddodiad unigryw, mae celf Cymru i raddau helaeth wedi dibynnu ar yr un ffurfiau ac arddulliau a geir yng ngweldydd eraill Prydain. Sonir yn aml am gelf Cymru, neu gelf yng Nghymru, i gynnwys y gweithiau niferus a wnaed gan arlunwyr estron yn y wlad, yn enwedig tirluniau.
Cerfluniaeth
golyguPensaernïaeth
golygu- Prif: Pensaernïaeth Cymru
Y celfyddydau llenyddol
golygu- Prif: Llên Cymru
Ac eithrio llenyddiaeth glasurol, llenyddiaeth Gymraeg yw'r hynaf yn Ewrop. Mae gan y Gymraeg draddodiad cyfoethog o lenyddiaeth sy'n dyddio o'r 6g hyd heddiw. Oherwydd eu bod yn ysgrifennu mewn iaith â mwy o bobl yn ei deall, mae ysgrifenwyr llenyddiaeth Saesneg Cymru yn aml wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd llawer mwy na'u cyd-wladwyr sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn unig. Dwy enghraifft adnabyddus o hyn yw'r beirdd byd-enwog Dylan Thomas ac R. S. Thomas.
Y celfyddydau perfformio
golyguCerddoriaeth
golygu- Prif: Cerddoriaeth Cymru
Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel "Gwlad y Gân", yn ystrydebol braidd. Erbyn heddiw mae Cymru'n enwog am eu cerddorion cyfoes fel Bryn Terfel ym myd opera a grwpiau fel Manic Street Preachers a Catatonia ym myd roc.
Dawns
golygu- Prif: Dawns yng Nghymru
Dwy ffurf ar ddawns sydd â gwreiddiau dwfn yng Nghymru, sef dawnsio gwerin Cymreig a dawnsio'r glocsen.[1]
Theatr
golygu- Prif: Theatr yng Nghymru
Ffilm a'r celfyddydau digidol
golyguFfilm
golygu- Prif: Ffilm yng Nghymru
Mae ffilm yng Nghymru, ai mewn Cymraeg neu Saesneg, wedi bod yn symbol o ddiwylliant y wlad ers blynyddoedd, ac wedi hyrwyddo enw Cymru ar draws y byd. Mae nifer o actorion a chyfarwyddwyr enwog wedi dod o Gymru, yn cynnwys Richard Burton a Peter Greenaway.
Gemau fideo
golyguGweler hefyd
golygu- Adloniant yng Nghymru
- Y celfyddydau Cymraeg
- Y celfyddydau yn y Deyrnas Unedig
- Y celfyddydau yn yr Alban
- Y celfyddydau yng Ngogledd Iwerddon
- Y celfyddydau yn Lloegr
- Y cyfryngau yng Nghymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Davies et al., Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 279.