Cenddeil-lys

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Cenddeil-lys
Blasia pusilla

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Marchantiopsida
Urdd: Blasiales
Teulu: Blasiaceae
Genws: Blasia
Linnaeus 1753[1]
Rhywogaeth: B. pusilla
Enw deuenwol
Blasia pusilla
Linnaeus 1753[1][2]
Cyfystyron
  • Biagia pusilla (Linnaeus 1753) Trevisan 1877
  • Blasia funckii Corda 1832
  • Blasia germanica Corda 1832
  • Blasia hookeri Corda 1832
  • Blasia immersa Dumortier 1831
  • Blasia semilibera Dumortier 1831
  • Jungermannia biloba Swartz 1803
  • Jungermannia blasia Hooker 1816

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Cenddeil-lys (enw gwyddonol: Blasia pusilla; enw Saesneg: common kettlewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Blasiales, o fewn y dosbarth Marchantiopsida. Dyma'r unig rhywogaeth yn y genws Blasia.

Llun manwl o'r gemmae

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a phob gwlad arall ar ynys Prydain.

Disgrifiad

golygu

Gwahaniaethir rhyngddi a'r Cavicularia oherwydd fod ganddi goler o amgylch gwaelod y capsiwl sporoffit. Yn aml, mae'r paraseit a ffwng Blasiphalia i'w gweld yn rhisoidau ac egin y Blasia.

O ran maint, mae'n ganolig, ac mae'n ffurfio rhosynnau neu fatiau, gyda changhennau bychain hyd at 5 mm o led. Mae'r thalws ychydig yn dryloyw, heb fandyllau aer ar yr wyneb. Mae gan ymylon llabedi'r thalws ddannedd bach, crwn.

Cynefin

golygu

Mae'r Cenddeil-lys yn gymharol gyffredin ac mae'n tyfu ar bridd llaith, graeanllyd ar hyd ffosydd, glannau afonydd, ochrau ffyrdd a thraciau coedwigaeth, hen chwareli ac weithiau, fel arfer ar haenau nad ydynt yn galchaidd, lle mae lleithder eitha cyson.

Llysiau'r afu

golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[3] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Cenddeil-lys gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Linnaeus, C. (1753). Species Plantarum. Tomus II (arg. 1st). t. 1138.
  2. Micheli, P. A. (1729). Nova Plantarum Genera juxta Tournefortii methodum disposita. Florence. t. 14, plate vii.
  3. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.