Chalcolithig

Mae cyfnod y Chalcolithig (Groeg: khalkos + lithos 'carreg gopr') neu Oes y Copr (a elwir hefyd yn Eneolithig (Aeneolithig)), yn gam yn natblygiad diwylliant y ddynolryw a welodd ymddangosiad graddol yr offer metel cyntaf a ddefnyddid ochr yn ochr ag offer carreg. Mae'r term(au) a'i ddefnydd gan archaeolegwyr yn amrywio'n fawr.

Marcilly-le-Hayer Dolmen des Blancs Fossés.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolcyfnod archaeolegol Edit this on Wikidata
Rhan oOes yr Efydd, Oes Newydd y Cerrig Edit this on Wikidata
Dechreuwyd75 g CC Edit this on Wikidata
Daeth i ben55 g CC Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganOes Newydd y Cerrig Edit this on Wikidata
Olynwyd ganOes yr Efydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLate Chalcolithic Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Rhaghanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Yn draddodiadol mae llenyddiaeth archaeoleg Ewropeaidd yn osgoi defnyddio'r term 'chalcolithig' (gan ddefnyddio'r term 'Oes y Copr' yn ei le), tra bod archaeolegwyr yn y Dwyrain Canol ar y llaw arall yn ei ddefnyddio'n rheolaidd. Y rheswm am hynny yw bod y chalcolithig wedi dechrau'n gynharach o lawer yn yr ardal honno, tra bod y newid o'r cyfnod chalcolithig byr a gafwyd yn Ewrop i Oes yr Efydd yn llawer mwy sydyn (am fod y dechnoleg newydd wedi dod i Ewrop o'r Dwyrain Canol).

Mae'r cyfnod yn un o drawsnewid rhwng y Neolithig (Oes y Cerrig) ac Oes yr Efydd, sy'n gorwedd y tu allan i'r hen system tair oes ar gyfer Cynhanes. Ymddengys fod pobl yn araf i ddefnyddio copr, efallai'n bennaf am ei bod yn fetel gymharol brin a meddal, a'i bod wedi cael ei chymysgu gyda thun a metelau eraill yn gynnar iawn; ffaith sy'n ei gwneud hi'n anodd i wahaniaethu rhwng y gwahanol diwylliannau Chalcolithig a'u dosbarthu'n drefnus.

Y canlyniad yw bod y term yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn rhai lleoedd yn unig, yn bennaf yn ne-ddwyrain Ewrop a gorllewin a chanolbarth Asia (o tua'r 4ydd milenniwm CC ymlaen). Fe'i defnyddir weithiau i ddisgrifio rhai o wareiddiaid yr Amerig yn y cyfnod yn union cyn dyfodiad yr Ewropeiaid yn ogystal.

O 4300 i 3200 CC yn y cyfnod Chalcolithig, mae Gwareiddiad Dyffryn Indus yn dangos cyfatebiaethau ceramig gyda diwylliannau cynnar de Tyrcmenistan a gogledd Iran, sy'n awgrymu teithio a masnachu ar raddfa sylweddol.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. Parpola, Asko: Study of the Indus Script, tud. 2, 3.