Hen Oes y Cerrig Isaf

Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Rhaghanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Mae Hen Oes y Cerrig Isaf neu ar lafar Paleo Isaf (Saesneg: (Lower Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: y rhaniad cyntaf o dri, ac yn rhychwantu'r cyfnod rhwng 2.5 miliwon cyn y presennol (CP) a dyfodiad dyn 259,000 (225,000 CP yng Nghymru). Ceir olion dyn 2.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl e.e. offer a wnaed o garreg, a dyma gychwyn y cyfnod hwn; tua 300,000 CP. Mae'n dipyn o ddadl rhwng archaeolegwyr a yw'r gallu i ddefnyddio tân yn perthyn i'r cyfnod hwn ynteu i'r cyfnod a'i dilynai sef Hen Oes y Cerrig Canol.

Pedwar bwyell law Acheulean handaxe

Ceir olion dyn yng Nghymru chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl a hynny yn Ogof Bontnewydd ger Llanelwy. Helwyr oedd y rhain, ac roeddent yn byw yn Oes yr Iâ diwethaf sef y Pleiostosen (rhwng 2,588,000 a 11,700). 32,000 o flynyddoedd yn ôl yr esblygodd yr hyn a elwir yn 'ddyn modern, sy'n golygu mewn gwirionedd, fod yr arteffactau cerrig ac asgwrn a welir cyn hynny wedi'u gwneud gan y Neanderthal. Dylid cofio fod lefel y môr yn llawer is nag y mae heddiw a bod yr hyn rydym heddiw'n ei alw'n 'Brydain' yr adeg honno'n sownd i weddill Ewrop.

Ceir tystiolaeth o dri math o fodau dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):

  1. Neanderthals cynnar yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy - 225,000 CP
  2. Neanderthal clasurol yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin - 50,000 CP
  3. Bod dynol modern yn Ogof Paviland, Gŵyr - 26,000 CP

Dim ond y cyntaf o'r rhain sy'n perthyn i Hen Oes y Cerrig Isaf, sef 19 dant yn perthyn i blant ieuanc ac oedolion: uchafswm o 9 plentyn a 7 oedolyn. Y dechneg a ddefnyddiwyd i ddyddio oedran y gwrthrychau oedd y gyfres dyddio carbon drwy iwraniwm a Thermoluminescence (TL) ar y llawr stalagmitig. Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt, 1,282 o arteffactau carreg a 4,822 asgwrn. Daeth yr esgyrn hyn o lewod, rhinoseros, ceirw, eirth a llewpad.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu