Hen Oes y Cerrig Canol
Mae Hen Oes y Cerrig Canol neu ar lafar Paleo Canol (Saesneg: (Middle Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: yr ail raniad sy'n rhychwantu'r cyfnod rhwng 300,000 (225,000 yng Nghymru) a 50,000 cyn y presennol (CP). Caiff ei ragflaenu gan Hen Oes y Cerrig Isaf a'i ddilyn gan Hen Oes y Cerrig Uchaf (Upper) - 50,000-10,000.
Cychwynodd dyn modern fudo o Affrica 70,000 o flynyddoedd yn ôl a chychwynodd gymryd drosodd oddi wrth y rhywogaeth homo cynharach megis y Neanderthal a'r homo erectws.[1]
Yr hyn sy'n newydd ac yn wahanol yn y cyfnod hwn o'i gymharu gyda'r Hen Oes y Cerrig Isaf cynharach oedd defodau claddu newydd mewn llefydd fel Combe-Grenal a Abri Moula yn Ffrainc, ble ceir esgyrn wedi'u hysgythru gydag erfyn finiog. Mae hyn yn dangos fod defodau ynghlwm â'r claddu, ac o bosib yn dangos fod dyn, am y tro cyntaf, yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth.
Yn y cyfnod hwn hefyd darganfuwyd breichledau yn Ogof Blombos,[2] mwclis,[3] celf carreg,[4] ocr ar y corff a defod crefyddol,[4][5] er bod peth celf cyn y cyfnod hwn. Cynyddodd gweithgareddau megis pysgota a hela anifeiliaid mawr, a hynny gydag offer pwrpasol ac mewn grwpiau'n cydweithio efo'i gilydd.
Cymru
golyguCeir tystiolaeth o dri math o fodau dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):
- Neanderthaliaid cynnar yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy - 225,000 CP
- Neanderthaliaid clasurol yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin - 50,000 CP
- Bodau dynol modern yn Ogof Paviland, Gŵyr - 26,000 CP
Ogof Coygan ger Talacharn, Sir Gaerfyrddin yw'r pwysicaf yng Nghymru yn Hen Oes y Cerrig Canol. Darganfuwyd tair bwyell bout coupè o'r cyfnod hwn, sef Hen Oes y Cerrig. Credir fod y dyn Neanderthal wedi cartrefu yn yr ogof yma tan tua 25,000 o flynyddoedd yn ôl. fel gydag offer Ogof Bontnewydd, defnyddiau lleol a ddefnyddiwyd i'w gwneud.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Origins of Modern Humans: Multiregional or Out of Africa? Archifwyd 2001-04-29 yn y Peiriant Wayback Gan Donald Johanson
- ↑ Jonathan Amos (2004-04-15). "Cave yields 'earliest jewellery'". BBC News. Cyrchwyd 2008-03-12.
- ↑ Hillary Mayell. "Oldest Jewelry? "Beads" Discovered in African Cave". National Geographic News. Cyrchwyd 2008-03-03.
- ↑ 4.0 4.1 Sean Henahan. "Blombos Cave art". Science news. Cyrchwyd 2008-03-12.
- ↑ Miller, Barbra; Bernard Wood; Andrew Balansky; Julio Mercader; Melissa Panger (2006). Anthropology. Boston Massachusetts: Allyn and Bacon. t. 768. ISBN 0-205-32024-4.