Chwiplys twmpathog
Chwiplys twmpathog Bazzania trilobata | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Lepidoziaceae |
Genws: | Bazzania |
Rhywogaeth: | B. trilobata |
Enw deuenwol | |
Bazzania trilobata |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Chwiplys twmpathog (enw gwyddonol: Bazzania trilobata; enw Saesneg: greater whipwort neu threelobed bazzania). O ran tacson, mae'n perthyn i deulu'r Lepidoziaceae yn urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.[1]
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a Chernyw, yr Alban, gogledd-ddwyrain Lloegr ac yma ac acw yn iwerddon. Mae i'w chael, hefyd, mewn sawl gwlad arall yn Hemisffer y Gogledd.
Disgrifiad
golyguMae gan y Chwiplys twmpathog dair rhes o ddail bach, sy'n wahanol i fwsoglau sydd â dail bach sydd fel arfer mewn mwy na thair rhes o amgylch y coesyn. Mae'n un o'r llysiau afu deiliog mwyaf.
Mae trilobata yn un o lysiau'r afu mwyaf nodweddiadol a hawdd ei adnabod mewn coetir llaith. Fel arfer mae'n tyfu yn gymharol fawr (hyd at 10 cm ar draws), fe'i ceir mewn twmpathau gwyrdd llachar neu frown-wyrdd, gydag choesynnau 4–6 mm o led. Mae'r dail bron yn 3 mm eu lled a'u hyd.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Edwards, Sean R. (2012). English Names for British Bryophytes. British Bryological Society Special Volume. 5 (arg. 4). Wootton, Northampton: British Bryological Society. ISBN 978-0-9561310-2-7. ISSN 0268-8034.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.