British Rail Class 153

(Ailgyfeiriad o Class 153)

Trên un cerbyd, disel sydd wedi'i arnewid o'r British Rail Class 155au yw'r British Rail Class 153 Super Sprinter.

British Rail Class 153
Enghraifft o'r canlynolrolling stock class Edit this on Wikidata
MathBritish Rail Sprinter Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
GwneuthurwrLeyland Bus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
British Rail Class 153
Mewn Gwasanaeth: 1991/2-presennol
Gwneuthurwr: British Leyland
Wedi'u haddasu i Class 153au gan Hunslet-Barclay
Teulu: Sprinter
Wedi'u creu: 1987-1988 Wedi'u hadnewyddu 1991-1992
Adnewyddiad: Amrywiol
Nifer wedi'u creu: 70 (35 Class 155au cyn cael eu haddasu)
Ffurfiad: Un cerbyd
Cynhwysedd: 72 neu 75
Gweithredwyr: Trafnidiaeth Cymru
East Midlands Trains
First Great Western
London Midland
Greater Anglia
Northern Rail

Disgrifiad golygu

 
Cab gyrru o Class 153

Adeiladwyd y trenau hyn yn wreiddiol fel unedau dau gerbyd gan British Leyland yn 1987-88 ond cawsant eu haddasu yn 1991-92 gan Hunslet-Barclay yn Kilmarnock. Mae cynllun yr ochrau cab newydd yn wahanol i'r rhai gwreiddiol, ac nid yw'r ochrau'n gymesur.

Eu cyflymder uchaf yw 75 mya ac maent yn addas iawn ar gyfer gwasanaethau llai poblogaidd megis gwasanaeth London Midland o Coventry i Nuneaton a Rheilffordd Calon Cymru. Maent yn gallu gweithio ynghlwm a'i gilydd a hefyd gyda thrênau eraill sy'n ddefnyddio'r un dechnoleg megis Class 150, Class 156 a'r Class 158 ond hefyd trenau diweddarach fel y Class 170.

Mae'r cab newydd yn llai na'r un gwreiddiol ac nid oes cymaint o le ar gyfer gyrwyr a thocynnwyr. Yn debyg i lawer o'r Sprinterau eraill fel y Class 156 a'r Class 158 mae yna lwybr ar ochrau'r cerbyd er mwyn i bobl gerdded o un cerbyd i'r llall pan maent yn gweithio gyda'i gilydd.

Rhifwyd y trenau yn yr amrediadau 153301-335 a 153351-385 a rhifwyd y cerbydau eu hunain 52301-335 a 57351-385 (yn wreiddiol 57301-335).

Gweithrediadau golygu

British Rail golygu

Roedd British Rail angen trenau newydd i gymryd lle'r Class 121au ar gyfer gwasanaethau nad oedd yn gweld llawer o deithwyr.

Ôl-preifateiddio golygu

Ar ôl preifateiddio British Rail, cafodd y trenau Class 153 eu rhannu rhwng amrywiaeth o weithredwyr.

Cymru golygu

Mae gan Trenau Arriva Cymru 8 Class 153.[1] Defnyddiwyd hwy fel arfer ar reilffyrdd gwledig megis Rheilffordd Calon Cymru o'r Amwythig i Abertawe a'r rheilffordd o Wrecsam Canolog i Bidston ond defnyddiwyd nhw hefyd ar rai gwasanaethau ar y prif reilffyrdd. Yn Rhagfyr 2005, defnyddiodd Arriva y trenau hyn i redeg gwasanaeth ar y Butetown Branch Line rhwng Caerdydd Stryd y Frenhines a Bae Caerdydd sydd bellach yn cael ei rhedeg gan Class 121.

Ar ôl newidiadau i'r amserlenni ar 9 Rhagfyr 2007, collodd Trenau Arriva Cymru dri Class 153 ac aethant i East Midlands Trains a First Great Western.

Canolbarth Lloegr golygu

Defnyddir deg Class 153 gan London Midland ar reilffyrdd Gorllewin Canolbarth Lloegr gan gynnwys o Coventry i Nuneaton a rheilffordd Marston Vale rhwng Bedford a Bletcheley.

Roedd yr holl unedau a etifeddwyd gan Central Trains yn lifrau'r cwmni. Cafodd yr holl unedau eu hail-beintio i lifrau London Midland City ar ôl cael eu hadnewyddu yn Eastleigh.

Cafodd y Class 153au a ddefnyddiwyd ar y Rheilffordd Stourbridge Town eu disodli gan drenau Class 139. Digwyddodd hynny yn Mehefin 2008, ond cafodd eu cyflwyniad ei oedi ac ailgyflwynodd London Midland drenau diesel nes yr oedd y trenau'n barod. Dechreuodd y trenau newydd eu gwasanaeth yn Mehefin 2009[2].

Defnyddir Class 153au gan East Midlands Trains ar y rheilffyrdd gwledig isod:

Etifeddodd East Midlands Trains nifer o enghreifftiau gwahanol o drenau Class 153: chwech o Central Trains, tri o National Express East Anglia a phedwar a oedd yn cael eu storio yn depo Eastleigh (a oedd wedi cael eu ddefnyddio gan First Great Western). Ar 9 Rhagfyr 2007, cafodd East Midlands Trains dau dren Class 153 ychwanegol o Trenau Arriva Cymru a dau o Northern Rail.

Mae'r trenau Class 153 East Midlands Trains i gyd ar wahân i dri wedi cael eu hailbeintio i liwiau'r cwmni. Mae trenau 153376, 153379 a 153384 yn parhau i fod â lliwiau Central Trains arnynt, ond gyda brandio East Midlands Trains.

De Orllewin Lloegr golygu

 
Class 153 Wessex Trains rhif 153369 wedi'i arnewid yn Bristol Temple Meads
 
Y tu mewn o 153329 First Great Western yn dangos ei gadeiriau Chapman

Cymerodd First Great Western drosodd drenau Wesssex Trains ar ôl i'r ddwy drwydded uno. Roedd Wessex Trains wedi etifeddu'u trenau'n wreiddiol gan Wales and West.

Defnyddir y trenau ar gwasanaethau yng Nghernyw, Dyfnaint ac o gwmpas Bryste. Maent hefyd yn cael eu defnyddio ar wasanaethu Bristol Temple Meads i Weymouth, Southampton a Chaerwrangon a gwasanaeth Swindon i Southampton trwy Melksham

Yng nghanol 2004, enillodd Wessex Trains ddwy uned gan Central Trains.

Liveries golygu

Fflyd golygu

Class Gweithredwr Nifer wedi'u hadeiladu Blwyddyn wedi'u hadeiladu Cerbydau yn set Rhifau
Class 153 Trafnidiaeth Cymru 70 1991–1992 1 153303, 153312, 153320, 153323, 153327, 153353, 153362, 153367
East Midlands Trains 153302, 153308, 153310-153311, 150313, 153319, 153321, 153326, 153355, 153357, 153374, 153376, 153379, 153381, 153383-153385
West Midlands Railway 153334, 153354, 153356, 153364, 153365, 153371, 153375
Greater Anglia 153306, 153309, 153314, 153322, 153335
Northern Rail 153301, 153304, 153307, 153315-153317, 153324, 153328, 153330-153332, 153351, 153352, 153358-153360, 153363, 153366, 153378

Ex Arriva Trains Northern: 153301/304/307/315/317/328/331/351/352/378

Ex First North Western: 153316/324/330/332/358-360/363

Great Western Railway 153305, 153318, 153325, 153329, 153333, 153361, 153368, 153369, 153370, 153372, 153373, 153377, 153380, 153381

Modelau golygu

Pan gafodd yr unedau eu cyflwyno am y tro cyntaf, Creodd Hurst Models pbecyn i droi model o Class 155 i Class 153.[3]

Mae'r Class 153 wedi'i creu mewn 00 Gauge gan Hornbyyn y lifrau canlynol: Central Trains, First Northern Star, Northern Rail, Regional Railways, East Midlands Trains, London Midland City and Great Scenic Railways of Wessex and Cornwall (Wessex Trains).[4]

Mae fersiwn N Gauge wedi'i greu gan Dapol.[5]

Mae model am Microsoft Train Simulator wedi'i greu gan Making Tracks.[6] ac mae model am Railworks wedi'i greu gan Just Trains

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg)http://www.arrivatrainswales.co.uk/Fleet/ Archifwyd 2014-03-17 yn y Peiriant Wayback.
  2. (Saesneg) "Stourbridge railcar receives its passenger licence". London Midland. 2 April 2009. Cyrchwyd 11 April 2009.
  3. (Saesneg)"DKU103 Pair of Class 153 Conversion Kits". Hurst Models.
  4. (Saesneg)"Error 404". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-11. Cyrchwyd 2013-08-31.
  5. (Saesneg)"Class 153 released". Dapol.
  6. (Saesneg)"BMUC 6 :: Leyland Class 153 / Class 155 Stock Pack". Making Tracks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-08. Cyrchwyd 2013-08-31.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: