Claudia Schreiber
Awdur o'r Almaen yw Claudia Schreiber (ganwyd 30 Gorffennaf 1958) sydd hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel cyflwynydd teledu, newyddiadurwr a sgriptiwr.
Claudia Schreiber | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1958 Schachten |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, newyddiadurwr, sgriptiwr, llenor |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddiaeth Pobl Ifanc Euregio, Medienpreis Entwicklungspolitik |
Gwefan | http://www.claudiaschreiber.de/ |
Fe'i ganed yn Schachten, talaith Hessen, yr Almaen ar 30 Gorffennaf 1958. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Göttingen a Phrifysgol Mainz.[1][2][3]
Ar ôl astudio newyddiaduraeth, gwyddoniaeth addysg a chymdeithaseg ym Mhrifysgol Göttingen a Phrifysgol Mainz, 1979 - 1985, gradd MA, bu'n gweithio fel golygydd, gohebydd ac angor ar gyfer Südwestfunk (SWF) a Zweites Deutsches Fernsehen (ZDF), sef rhwydweithiau darlledu poblogaidd. Ar ôl cyfnodau ym Moscfa (1992 - 1996) a Brwsel (1996 - 1998), ymgartrefodd yn Cwlen ac yn gweithio fel awdur llawrydd. [4]
Yn ei nofel Emmas Glück ('Llawenydd Emma') o 2003, a gyfieithwyd i o leiaf naw iaith, ceir motiffau o ogledd Hessen. Hwn fu ei gwaith mwyaf llwyddiannus hyd yn hyn (2019). Ceir arddull ffres, ffraeth ac ecsentrig gyda chydymdeimlad dwfn o drigolion nad ydynt yn ffitio'n berffaith o fewn y gymuned a'r wladwriaeth. Nid yw'r arddull yn annhebyg i arddull Heinrich Böll. Rhyddhawyd ffilm o'r llyfr hwn, dan gyfarwyddyd Sven Taddicken sy'n serennu Jördis Treibel a Jürgen Vogel yn yr Almaen yn 2006; ei theitl Saesneg yw Emma's Bliss.
Mae ei llyfr plant Sultan und Kotzbrocken ('Y Swltan a'r Cachgi'), a gyhoeddwyd gyntaf yn 2004, hyd yma (2019) wedi cael ei gyfieithu i bedair iaith. Fe'i cynhyrchwyd fel drama theatr yn theatr 'Theater Junge Generation' yn Dresden mewn addasiad gan Rüdiger Pape (cyfarwyddwr) a Jörg Hückler.
Gwaith
golygu- hyd at 2019
- Moskau ist anders (Moscow Is Different), llyfr ffeithiol a gyhoeddwyd dan yr enw Claudia Siebert, Claassen, 1994, ISBN 978-3-546-00088-8
- Der Auslandskorrespondent (The Foreign Correspondent), nofel a gyhoeddwyd dan yr enw Claudia Siebert, Kiepenheuer & Witsch, Cologne, 1997, ISBN 978-3-462-02660-3
- Emmas Glück (Emma’s Bliss), nofel, Reclam, Leipzig, 2003, ISBN 978-3-379-00805-1
- Sultan und Kotzbrocken, llyfr plant, Hanser, Munich, 2004, ISBN 978-3-446-20435-5
- Ihr ständiger Begleiter (Ei Chdymaith Parhaol), nofel, Piper, Munich/Zürich, 2007, ISBN 978-3-492-04973-3
- Heimische Männerarten. Ein Bestimmungsbuch, Sanssouci/Hanser, Munich, 2009, ISBN 978-3-8363-0168-8
- Oben Himmel unten Gras. Ein Kuhspiel in sechs Akten , Artemis&Winkler, Mannheim, 2010, ISBN 978-3-538-07289-3
- Heimische Frauenarten. Ein Bestimmungsbuch , Sanssouci/Hanser, Munich 2010, 978-3-8363-0226-5
- Süß wie Schattenmorellen, nofel, Kein & Aber, Zürich a Berlin, 2011, ISBN 978-3-0369-5600-8
- Beipackzettel zum Mann. Hiwmor. Hanser Verlag 2012, ISBN 978-3-8363-0327-9
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lenyddiaeth Pobl Ifanc Euregio (2006), Medienpreis Entwicklungspolitik (1989) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Mehefin 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Claudia Schreiber". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 1 Ebrill 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 1 Ebrill 2015