Cwmni theatr o Gymru a sefydlwyd ym 1972 oedd Theatr Yr Ymylon.[1] Ymysg y criw o actorion a ddaeth ynghyd i'w chreu roedd David Lyn, Meic Povey, Christine Pritchard, Huw Ceredig a Geraint Jarman. Fel awgryma'r enw, llwyfannu dramâu llai adnabyddus ac arlwy wahanol i brif ffrwd theatr y cyfnod oedd y pennaf fwriad. Pan ddaeth y cwmni i ben, sefydlwyd cwmnïau tebyg i Theatr Bara Caws i barhau â'r weledigaeth. Llwyfannwyd cynyrchiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Daeth y cwmni i ben ym 1980.

Theatr yr Ymylon
Crëwrcriw o actorion gan gynnwys David Lyn
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1972
Daeth i ben1980

Y dyddiau cynnar

golygu

Ym 1972 sefydlwyd y cwmni, yn ôl Meic Povey, er nad oedd y cychwyn mor llyfn ag y dymunent. "Dai [David Lyn] oedd y corwynt creadigol fu'n bennaf gyfrifol am sefydlu Theatr yr Ymylon: gŵr carismataidd, amryddawn, arweinydd ac ysgogwr naturiol. Roedd bron yn amhosib dweud 'na' wrtho. Er mai sefydlu cwmni cydweithredol oedd y bwriad ar y cychwyn, buan iawn aeth yn fand un-dyn, gyda Dai [David Lyn] yn ben bandit."[2]

"Yr unig gwmni theatr proffesiynol Cymraeg bryd hynny oedd Cwmni Theatr Cymru ym Mangor", cofiai John Pierce Jones yn ei hunangofiant, "ac roedd rhai o'r actorion, ysgrifenwyr ac ati a oedd yn byw yng Nghaerdydd a'r cylch yn teimlo y dylent gael theatr cyfrwng Cymraeg yn y Brifddinas. Dyna'r ysbrydoliaeth tu ôl i ffurfio Theatr yr Ymylon", ychwanegodd.[3]

Ond mae'n amlwg hefyd nad oedd Wilbert Lloyd Roberts yn hapus o gwbl, ac yn gweld y cwmni theatr newydd yma fel bygythiad i Gwmni Theatr Cymru. Povey sy'n cofio'r helynt eto : "Ar ddechrau'r ymarferion, [ym 1972] mewn stafell danddaearol yn Newport Road, Caerdydd, cyrhaeddodd ymwelydd annisgwyl (os oedd o hefyd) - y dyn ei hun, Wilbert. Roedd wedi tuthio or gogledd oer i roi mymryn o ddarlith i'r criw haerllug a fynnai herio'i oruchafiaeth. Nid darlith chwaith, ond apêl: crefu arnom i roi'r gora iddi (ar ôl y cynhyrchiad agoriadol), gan rybuddio y byddai cwmni theatr arall yn arwain at rwyg a fyddai'n bwydo dialedd ein gelynion [...] Ofer fu'r apêl. Bu Theatr yr Ymylon mewn bodolaeth am wyth mlynedd".[2]

Nododd Lisa Rhiannon Edwards mewn erthygl yn Barn [Tachwedd 1976] "Yn y tair blynedd ddiwethaf mae hi [Theatr yr Ymylon] wedi aros ar y ffordd ansicr honno, heb yr adnoddau i sefydlu ei hun yn iawn gan nad yw'n barod i ddod yn rhan o'r sefydliad. Efallai mai camarweiniol yw galw'r cwmni'n Ymylon, gan y dywed rhai nad oes canol i'r theatr yng Nghymru inni dorri oddi wrtho. Mae egni a chyfeiriad Theatr yr Ymylon wedi dod ers y cychwyn, o du'r actorion. Teimlai David Lyn, sydd yn awr yn gyfarwyddwr artistig, y dôi gwaith mwy democrataidd a mwy perthnasol i gymdeithas o gwmni'n cael ei redeg gan grŵp yn hytrach na chan unigolyn."[4]

Teithio Cynyrchiadau

golygu

Cofia'r actor Stewart Jones fod yn rhan o gynhyrchiad o'r ddrama Siwan ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd ym 1978:

"Norman Florence oedd rheolwr Theatr Yr Ymylon ar y pryd a'i ddymuniad o oedd ein bod ni'n perfformio'r ddrama yn Saesneg yn ogystal ag yn Gymraeg, ac felly y bu. Roedden ni'n agor yn Gymraeg ar y noson gyntaf ac i Saesneg yr ail noson, oedd yn dipyn o dreth arnom ni gyd. Penderfynodd Norman [...] wedyn ei fod o am gynhyrchu un arall o ddramâu Saunders Lewis, sef Gymerwch chi Sigaret?. Roedd yn mynnu bod honno hefyd yn cael ei gwneud yn y ddwy iaith, a'i pherfformio ar hyd a lled Cymru. I ba ddiben, Duw â ŵyr. Eleanor Roberts, oedd yn gweithio i'r cwmni fel rheolwr llwyfan, gymrodd y cyfrifoldeb o gyfieithu'r ddrama, ac mi wnaeth gyfieithiad ardderchog. Wynford Ellis Owen oedd yn cyfarwyddo a chymerwyd rhannau eraill gan Michael Povey, Eluned Jones, Christine Pritchard a minnau. Un peth oedd yn ein dal yn ôl wrth inni ymroi i ddysgu'r ddrama oedd nad oedden ni ddim hyd yn hyn wedi cael sêl bendith Saunders Lewis ei hun ar y cyfieithiad Saesneg. Felly bu rhaid i gynrychiolwyr y cwmni deithio i'w gartref ym Mhenarth i ymweld â'r gwron. Doedd o ddim yn ymweliad llwyddiannus. Yr ateb gawson nhw oedd bod yna gyfieithiad o Gymerwch chi Sigarét? yn bod yn barod ac mai hwnnw, a dim ond hwnnw, fyddai'n cael sêl bendith y dramodydd. Y cyfieithydd oedd R. O. F. Wynne, sgweiar Garthewin yn ardal Llanrwst, ffrind agos i Saunders a dyn fu'n gyfrifol am sefydlu Theatr Fach Garthewin. Tybed a'i fo mewn gwirionedd a gyfieithodd Gymerwch chi Sigaret?' i'r Saesneg? Pwy bynnag oedd y cyfieithydd mi fu'n rhaid inni droi at y fersiwn hwnnw. Ond mi gawsom amser digon diddorol yn perfformio yn y ddwy iaith ledled Cymru."[5]

"Un or ffactorau a arweiniodd at ei dranc, yn fy nhyb i, [Meic Povey] oedd y penderfyniad i weithredu'n ddwyieithog, a hynny'n weddol fuan wedi sefydlu'r cwmni. Ar bapur, purion; mewn realaeth, anymarferol. 'Tydi dwyieithrwydd ddim ond yn gweithio os ydach chi'n medru'r ddwy iaith, a'r munud mae ganddoch chi Gymro di-Gymraeg yn rhedeg y sioe (fel yn achos Norman Florence o tua 1976 ymlaen), yna mae un iaith yn bownd o ffynnu ar draul y llall, a'r iaith Gymraeg oedd honno wrth reswm pawb."[2]

Ymysg y dramodwyr fu'n cyfrannu i'w cwmni roedd Meic Povey.[2] Ymysg yr actorion bu Clive Roberts, Stewart Jones, Christine Pritchard a Robin Griffith.

Rhyddhawyd record gan y cwmni ym 1973 a 1978.[6][7]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1970au

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "THEATR YR YMYLON LIMITED - Charity 503948". register-of-charities.charitycommission.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-04.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Povey, Meic (2010). Nesa Peth At Ddim. Carreg Gwalch. ISBN 9781845272401.
  3. Jones, John Pierce (2014). Yr Hen Ddyddiadau. Gwasg Carreg Gwalch.
  4. Edwards, Lisa Rhiannon (Tachwedd 1976). "Theatr yr Ymylon Heddiw". Barn 166.
  5. Jones, Stewart Whyte McEwan (2001). Dwi'n Deud Dim, Deud Ydw I. Gwasg Gwynedd. ISBN 978-0860741794.
  6. "THEATR_YR_YMYLON". www.7tt77.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-04.
  7. https://www.albumoftheyear.org/album/935026-theatr-yr-ymylon-blodeuwedd.php. Missing or empty |title= (help)
  8. "SHERMAN STORY TIMELINE". Sherman Theatre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-04.
  9. "PANTO 1975-76". It's Behind You Dot Com - Green Room (yn Saesneg). 2020-05-07. Cyrchwyd 2024-09-04.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.