Afon Llugwy
Mae Afon Llugwy yn afon yn Sir Conwy, gogledd Cymru, sy'n un o lednentydd Afon Conwy. Mae gwreiddyn y gair Lugwy, sef lleu, yn golygu "goleuni".[1]
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 97 metr |
Cyfesurynnau | 53.0833°N 3.8°W |
Aber | Afon Conwy |
- Gweler hefyd Afon Llugwy (Powys).
Cwrs
golyguMae Afon Llugwy yn tarddu yn llyn Ffynnon Llugwy, uwch Nant y Benglog ac islaw Craig yr Ysfa yn y Carneddau, llyn sy'n cael ei fwydo gan nifer o nentydd ar lethrau'r Carneddau. Wedi gadael y llyn mae'r afon yn llifo tua'r de nes croesi ffordd yr A5 ger Pont Rhyd-goch ac yna'n troi tua'r de-ddwyrain i redeg yn ymyl yr A5 i bentref Capel Curig, lle mae Nant Gwryd yn ymuno a'r afon. Ar ôl Capel Curig mae'r afon yn parhau i ddilyn yr A5 heibio Pont Cyfyng (neu Pont Cyffin), lle mae'n llifo'n gyflym tros wely creigiog ac yn pasio safle caer Rufeinig fechan Bryn-y-Gefeiliau, ac yna yn disgyn dros y Rhaeadr Ewynnol (Swallow Falls yn Saesneg). Mae'n llifo dan Bont-y-Pair ym mhentref Betws-y-Coed ac yn ymuno ag Afon Conwy wrth Bont Waterloo gerllaw.
Gwlybder
golyguMae dalgylch Afon Llugwy ar gyfartaledd yr ardal mwyaf glawog yng Nghymru ac ym Mhrydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol II.