Ombwdsmon

Swyddfa a greir gan lywodraeth i fod yn gyfrifol bod corfff neu gyrff yn gwireddu deddf a baswyd mewn maes arbennig.

Mae ombwdsmon[1] hefyd ombwdsman[2] ac arddelir y term comisinydd hefyd yn gyffredin yn Gymraeg a'r Deyrnas Unedig i olygu eiriolwr cyhoeddus yn gyflogai gan y llywodraeth sy'n ymchwilio ac yn ceisio datrys cwynion, fel arfer trwy argymhellion (cyfrwymol neu beidio) neu gyfryngu. Fel arfer cânt eu penodi gan y llywodraeth neu gan y senedd (yn aml gyda chryn dipyn o annibyniaeth). Daw'r term "ombwdsmon" yn Gymraeg drwy'r Saesneg, "ombudsman",[3][4] sydd, ei hun yn dod o'r Swedeg Ombudsman o'r Hen Norseg umboðsmaðr. Ystyr yn ei hanfod yn golygu ‘cynrychiolydd’ (gyda’r gair umbud/ombud/ombud yn golygu ‘procsi’, ‘atwrnai’; hynny yw, rhywun sydd wedi’i awdurdodi i weithredu ar ran rhywun arall.

Ombwdsmon
Enghraifft o'r canlynolswydd Edit this on Wikidata
Mathbarnwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo umboðsmanns barna, sef, Ombwdsmon Gwlad yr Iâ. Noder bod ffurf y gair yn debyg i'r gair Hen Norseg umboðsmaðr sy'n rhoi i ni'r gair Ombudsman Sweneg gyfoes

Mae ombwdsmyn hefyd yn ceisio nodi materion systemig sy'n arwain at wasanaeth gwael neu achosion o dorri hawliau pobl. Ar lefel genedlaethol, mae gan y rhan fwyaf o ombwdsmyn fandad eang i ymdrin â’r sector cyhoeddus cyfan, ac weithiau hefyd elfennau o’r sector preifat (er enghraifft, darparwyr gwasanaethau dan gontract). Mewn rhai achosion, mae mandad mwy cyfyngedig i sector penodol o gymdeithas. Mae datblygiadau mwy diweddar wedi cynnwys creu ombwdsmyn plant arbenigol.

Mewn rhai gwledydd, efallai y bydd gan arolygydd cyffredinol, eiriolwr dinasyddion neu swyddog arall ddyletswyddau tebyg i rai ombwdsmon cenedlaethol a gall hefyd gael ei benodi gan ddeddfwrfa. Islaw'r lefel genedlaethol, gall ombwdsmon gael ei benodi gan lywodraeth daleithiol, leol neu ddinesig. Gall ombwdsmyn answyddogol gael eu penodi gan gorfforaeth fel cyflenwr cyfleustodau, papur newydd, corff anllywodraethol, neu gorff rheoleiddio proffesiynol, neu hyd yn oed weithio i gorfforaeth.

Arwydd "Ombudsman" Banjul, yn Y Gambia

Mewn rhai awdurdodaethau, cyfeirir yn fwy ffurfiol at ombwdsmon sy’n gyfrifol am ymdrin â phryderon am lywodraeth genedlaethol fel y “comisiynydd seneddol” (e.e. Comisiynydd y Gymraeg yng Nghymru, ac Ombwdsmon talaith Gorllewin Awstralia). Mewn llawer o wledydd lle mae cyfrifoldeb yr ombwdsmon yn cynnwys diogelu hawliau dynol, mae’r ombwdsmon yn cael ei gydnabod fel y sefydliad hawliau dynol cenedlaethol. Erbyn diwedd yr 20g roedd swydd yr ombwdsmon wedi'i sefydlu gan y rhan fwyaf o lywodraethau a chan rai sefydliadau rhynglywodraethol megis yr Undeb Ewropeaidd. O 2005 ymlaen, gan gynnwys lefelau cenedlaethol ac is-genedlaethol, mae cyfanswm o 129 o swyddfeydd ombwdsmon wedi'u sefydlu ledled y byd.[5]

Hanes y term

golygu
 
Pencadlys yr Ararteko, Ombudsmon cymuned hunanlywodraethol Euskadi, Gwlad y Basg yn Vitoria-Gasteiz

Dechreuodd y defnydd o'r term yn ei ddefnydd modern yn Sweden gydag Ombwdsmon Seneddol Sweden a sefydlwyd gan Offeryn Llywodraethu 1809, i ddiogelu hawliau dinasyddion trwy sefydlu asiantaeth oruchwylio sy'n annibynnol ar y gangen weithredol. Rhagflaenydd Ombwdsmon Seneddol Sweden oedd Swyddfa'r Goruchaf Ombwdsmon (Högste Ombudsmannen), a sefydlwyd gan Frenin Sweden, Siarl XII, yn 1713. Roedd Siarl XII yn alltud yn Nhwrci ac roedd angen cynrychiolydd yn Sweden i sicrhau bod barnwyr a gweithredodd gweision sifil yn unol â’r cyfreithiau a’u dyletswyddau. Os na fyddent yn gwneud hynny, roedd gan y Goruchaf Ombwdsmon yr hawl i'w herlyn am esgeulustod. Ym 1719 daeth Swyddfa Goruchaf Ombwdsmon Sweden yn Ganghellor Cyfiawnder.[6] Sefydlwyd yr Ombwdsmon Seneddol ym 1809 gan Riksdag Sweden, fel sefydliad cyfochrog â'r Canghellor Cyfiawnder sy'n dal i fod yn bresennol, gan adlewyrchu'r cysyniad o wahanu pwerau fel y'i datblygwyd gan Montesquieu.[6]

Ombwdsmyn Cymru

golygu

Ceir sawl swyddfa ombwdsmon neu Gomisiynydd yng Nghymru. Maent yn cynnwys:

  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - sefydlwyd yn 2006 gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2005. Y Goron (hynny yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig[7] sy’n penodi ‘Ombwdsmon’ nid Llywodraeth Cymru. Mae OGCC yn ystyried cwynion yn ymwneud â gwasanaeth cyhoeddus, cynghorwyr wedi torri eu Cod Ymddygiad; a gweithio gyda chyrff cyhoeddus i wella gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad o fewn llywodraeth leol ledled Cymru.[8]
  • Comisiynydd Plant Cymru - sefydlwyd yn 2001. Swyddogaeth y Comisiynydd Plant yw cefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu am hawliau plant. Mae nhw’n cael eu hamlinellu yng Nghonfensiwn ar Hawliau’r Plentyn y Cenhedloedd Unedig (yr UNCRC).[9]
  • Comisiynydd y Gymraeg - sefydlwyd yn 2012. Gellid cynnwys swydd Comisiynydd y Gymraeg fel un sy'n dod o dan remit ombwdsmon. Prif nod statudol y Comisiynydd yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Wrth wneud hynny, rhaid i’r Comisiynydd weithio tuag at gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd eraill i bobl ddefnyddio’r iaith. Ond oddi fewn i hynny, fel gyda swyddi ombwdsmon eraill ceir elfen lle delir awdurdodau i gyfrif a gall y cyhoedd wneud cwynion ffurfiol amdanynt yng nghyd-destun defnydd o'r iaith Gymraeg.[10]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allannol

golygu
  • Gwefan swyddogol Ombwdsmon Cymru
  • IOI – International Ombudsman Institute (international directory of ombudsmen)
  • Ombuds Blog yn cynnwys rhestrau o swyddfeydd ombwds sefydliadol mewn corfforaethau, sefydliadau academaidd, llywodraethol, a sefydliadau eraill

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ombwdsmon". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  2. "Ombudsman". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  3. "Ombudsman". Collins English Dictionary. HarperCollins. Cyrchwyd 10 May 2019.
  4. "ombudsman" (US) and "ombudsman". Lexico UK English Dictionary. Oxford University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-22.
  5. Mahbubur Rahman, Muhammad (July 2011). BCS Bangladesh Affairs (yn Bengali). I & II. Lion Muhammad Gias Uddin. t. 46 (Vol. II).
  6. 6.0 6.1 ombudsmän, Riksdagens. "Historik". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 October 2007. Cyrchwyd 19 May 2017.
  7. "Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019". Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 2019. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  8. "Pwy Ydym Ni". Gwefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  9. "Amdanom Ni". Comisiynydd Plant Cymru. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.
  10. "Amcanion strategol a'n gweledigaeth". Comisiynydd y Gymraeg. Cyrchwyd 14 Mehefin 2024.

Nodyn:Eginyn llywodraethiant